teenager using smartphone with upset look on her face.

Mae Ofcom yn rhoi dirwy o £7,000 i lwyfan rhannu fideo MintStars

Cyhoeddwyd: 23 Ionawr 2025

Heddiw mae Ofcom wedi rhoi dirwy o £7,000 i’r platfform rhannu fideos, MintStars Ltd, am fethu ag amddiffyn plant yn ddigonol rhag cael mynediad at bornograffi ar-lein.

O dan gyfreithiau presennol sy’n rhagddyddio’r Ddeddf Diogelwch Ar-lein, mae’n ofynnol i lwyfannau rhannu fideos (VSPs) sydd wedi’u sefydlu yn y DU fod â mesurau ar waith i amddiffyn pobl ifanc dan 18 oed rhag fideos sy’n cynnwys deunydd cyfyngedig, gan gynnwys pornograffi.

Mae ein canllawiau diwydiant yn nodi, ymhlith pethau eraill, os yw VSP wedi cyfyngu ar ddeunydd o natur bornograffig ar ei wasanaeth, y dylai fod â phrosesau “rheoli mynediad” cadarn sy'n atal plant rhag dod ar eu traws.

Yr hyn a ganfuom

Canfu ymchwiliad Ofcom, rhwng Tachwedd 2023 ac Awst 2024, nad oedd gan MintStars fesurau digon cadarn ar waith, nac yn gweithredu mesurau’n effeithiol, i amddiffyn plant rhag cael mynediad at gynnwys pornograffig.

Yn benodol, rydym wedi canfod bod cynnwys o natur bornograffig ar gael ar y platfform, ac yn hygyrch i unrhyw berson a gyrchodd y wefan, trwy fideos ‘rhagolwg’ byr ac ar ôl tanysgrifio i gynnwys crewyr penodol. Rydym wedi canfod nad oedd 'hunan-ddatganiad' gan ddefnyddwyr eu bod dros 18 oed ac ymwadiad cyffredinol o fewn telerau ac amodau MintStars bod y wefan ar gyfer oedolion yn unig yn ffurfiau priodol o ddilysu oedran i amddiffyn rhai dan 18 rhag cael mynediad at bornograffi a chynnwys cyfyngedig arall.

Toriad difrifol o'r dyletswyddau i amddiffyn plant

Mae methiannau MintStars yn cynrychioli achos difrifol o dorri ei ddyletswyddau o dan y drefn VSP i amddiffyn rhai dan 18 oed rhag deunydd cyfyngedig.

O ganlyniad, rydym wedi gosod cosb ariannol o £7,000 ar y cwmni. Mae hyn yn cynnwys gostyngiad o 30% ar y swm y byddem wedi’i osod fel arall, i adlewyrchu MintStars yn ymrwymo i setliad gydag Ofcom ac yn cyfaddef atebolrwydd llawn am y toriad hwn. Mae hefyd yn ystyried maint platfform bach MintStars, yn ogystal â'i refeniw isel a'i sefyllfa ariannol.

Mae MintStars wedi bod yn cydweithredu ag ymchwiliad Ofcom ac wedi cymryd camau i unioni’r niwed drwy roi technoleg sicrwydd oedran ar waith ar ei lwyfan.

Byddwn yn cyhoeddi fersiwn nad yw'n gyfrinachol o'n penderfyniad llawn yn ystod yr wythnosau nesaf.

Yn ôl i'r brig