Mae ein hymchwil ddiweddar yn dangos bod tua naw o bob deg o bobl wedi gweld cynnwys ar-lein roeddent yn amau ei fod yn sgam neu’n dwyll. Felly, mae’n bwysig meddwl sut gallech chi ddiogelu eich hun rhag twyll ar-lein.
Mae sawl math o dwyll ar-lein, ond mae rhai awgrymiadau sylfaenol a allai helpu i’ch amddiffyn rhag amrywiaeth o ddulliau.
Arhoswch – ydi hwn yn rhy dda i fod yn wir?
O ran twyll ar-lein, mae’r ymadrodd ‘rhy dda i fod yn wir’ yn aml yn gywir. Yn aml, bydd twyllwyr yn eich temtio i brynu nwyddau neu gynigion sy'n ymddangos yn well nag unrhyw beth y gallwch ei gael yn rhywle arall. Y temtasiwn hwn o fargen neu arbediad mawr a allai hudo dioddefwr posibl. Os ydych chi’n cael cynnig bargen sy’n swnio’n rhy dda i fod yn wir, dyna eich signal i fod yn wyliadwrus iawn a gwneud yn siŵr bod y cynnig yn ddilys.
Gwirio ddwywaith pwy ydynt
Cadarnhewch pwy yw’r unigolyn neu’r sefydliad rydych chi’n delio ag ef – yn enwedig os ydyw wedi cysylltu â chi’n ddirybudd. Twyll dynwared yw pan fydd troseddwyr yn honni eu bod yn dod o sefydliadau cyfreithlon, gyda’r nod o ennill eich ymddiriedaeth. Cymerwch amser i ddod i wybod mwy am bwy ydych chi mewn cysylltiad â nhw – allwch chi gadarnhau a ydynt yn cynrychioli cwmni neu sefydliad penodol, er enghraifft? Gallwch chwilio am wybodaeth ar wefan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol.
Peidiwch â rhoi eich manylion personol
Mewn rhai achosion, nid yw twyllwyr ar-lein eisiau i chi drosglwyddo arian ar unwaith – mae’n bosibl na fyddant yn gofyn i chi brynu rhywbeth mewn trafodiad ar-lein, er enghraifft. Yn hytrach, maent eisiau i chi ddarparu eich gwybodaeth bersonol neu ariannol. Os oes ganddynt fynediad at y manylion hyn, byddant yn gallu defnyddio eich manylion adnabod yn dwyllodrus, neu gallant ddefnyddio eich gwybodaeth ariannol i gael mynediad at eich arian drwy eich cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu. Byddwch yn ofalus hefyd ynghylch pa wybodaeth bersonol rydych chi’n ei rhannu yn eich proffiliau a’ch postiadau ar y cyfryngau cymdeithasol, gan fod modd i bobl eraill ei gweld a’i chamddefnyddio hefyd.
Byddwch yn wyliadwrus o atodiadau neu ddolenni anhysbys
Weithiau gall twyllwyr gael gafael ar eich gwybodaeth bersonol neu ariannol hyd yn oed heb i chi wybod. Gallant wneud hyn drwy anfon atodiadau neu ddolenni atoch chi drwy e-bost neu neges destun. Gall y rhain gynnwys drwgwedd, sef meddalwedd maleisus sy’n gallu rhoi modd iddynt gael mynediad at eich dyfais. Ar ôl iddynt wneud hyn, gallant hefyd gael gafael ar wybodaeth a data a all eu galluogi i ddwyn eich hunaniaeth neu gael gafael ar eich arian. Peidiwch â chlicio ar atodiadau neu ddolenni na allwch eu gwirio – yn enwedig os nad ydych wedi gallu cadarnhau pwy yw’r anfonwr. Yn ogystal, gwiriwch a oes gennych chi feddalwedd gwrth-firws wedi ei osod ar eich dyfais, gan y gall hyn ddiogelu rhag rhai mathau o feddalwedd maleisus - ac os oes, gwnewch yn siŵr ei fod yn gyfredol gydag diweddariadau wedi eu gosod.
Defnyddio dull talu wedi ei ddiogelu
Os ydych chi’n talu am rywbeth, defnyddiwch ddull talu sy’n diogelu cwsmeriaid. Peidiwch â throsglwyddo arian yn uniongyrchol i unrhyw un – defnyddiwch wasanaeth trosglwyddo arian neu dalu ar-lein wedi ei ddilysu, neu defnyddiwch eich cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu. Mae’r rhan fwyaf o brif ddarparwyr cardiau credyd yn diogelu pryniannau ar-lein, ac mae’n rhaid iddynt eich ad-dalu mewn rhai amgylchiadau. Os nad ydych chi’n siŵr a yw gwasanaeth talu neu drosglwyddo yn cynnig y math hwn o warchodaeth, cysylltwch â nhw i gael gwybod cyn i chi fynd ymhellach. Mae Action Fraud yn cynnig rhagor o wybodaeth am hyn.
Rhoi gwybod ar unwaith
Os ydych chi’n meddwl eich bod chi wedi dioddef rhyw fath o dwyll ar-lein – neu hyd yn oed os ydych chi wedi gweld twyll ond heb gael eich dal – rhowch wybod i ni ar unwaith. Dywedwch wrth eich banc neu gymdeithas adeiladu (neu wasanaeth talu neu drosglwyddo ar-lein os ydych chi wedi defnyddio un o'r rhain), oherwydd mae’n bosibl y bydd modd iddynt atal taliad rhag cael ei wneud os byddwch chi'n rhoi gwybod amdano'n ddigon cyflym. Neu, mae’n bosibl y bydd modd iddynt adennill rhywfaint neu’r cyfan o’r arian rydych chi wedi ei golli. Gallwch hefyd roi gwybod i Action Fraud, sef canolfan genedlaethol y Deyrnas Unedig ar gyfer rhoi gwybod am dwyll a seiberdroseddu. Yn ogystal, os byddwch chi’n gweld cynnwys ar-lein sy’n ymwneud â thwyll yn eich barn chi, rhowch wybod i’r llwyfan er mwyn iddynt allu ymchwilio i’r mater a chael gwared â’r broblem.