Young boy using a tablet device

Beth dylech chi ei wneud os ydych wedi gweld cynnwys niweidiol ar-lein?

Cyhoeddwyd: 17 Hydref 2023
Diweddarwyd diwethaf: 17 Hydref 2023

Mae’r argyfwng parhaus yn Israel a Gaza wedi codi pryderon y gallai pobl ddod ar draws cynnwys niweidiol ar-lein yn ymwneud â’r gwrthdaro.

Camau y gallwch chi eu cymryd

Rydym yn cydnabod bod gan lawer o bobl bryderon – yn enwedig rhieni plant sy’n defnyddio gwasanaethau ar-lein – a'u bod yn chwilio am gymorth. Mae yna bethau y gallwch chi eu gwneud hefyd os ydych chi'n dod ar draws fideos, delweddau neu fathau eraill o gynnwys niweidiol ar-lein, a all helpu i'ch amddiffyn chi, eich teulu ac eraill rhag y math hwn o gynnwys.

  • Os gwelwch gynnwys niweidiol ar-lein - nid yn unig yn ymwneud â'r gwrthdaro yn Israel a Gaza - rhowch wybod amdano'n uniongyrchol i'r llwyfan. Peidiwch â'i rannu. Mae hyn ond yn helpu i ledaenu'r cynnwys i eraill ei weld.
  • Os ydych yn rhiant neu'n ofalwr, ystyriwch ddefnyddio offer rheoli i rieni ar unrhyw ddyfeisiau y mae plant yn eu defnyddio i gyrchu cynnwys ar-lein, er mwyn lleihau’r risg y byddant yn dod ar draws cynnwys a allai fod yn niweidiol.
  • Siaradwch â phlant am yr hyn maen nhw'n ei wneud ac yn ei weld ar-lein, a'u hatgoffa o'r angen am aros yn ddiogel. Anogwch nhw i ddweud wrthych chi os ydyn nhw wedi gweld rhywbeth ar-lein sy’n niweidiol yn eu barn nhw – bydd hyn yn eich helpu i roi gwybod amdano i'r llwyfan.

Cymorth pellach

Mae yna hefyd amrywiaeth o adnoddau ar gael gan wahanol sefydliadau, a all helpu os ydych chi neu'ch plant wedi cael eich effeithio gan gynnwys rydych chi wedi'i weld.

Camau y mae Ofcom yn eu cymryd

Rydym eisoes wedi ysgrifennu at lwyfannau rhannu fideos sydd wedi'u sefydlu yn y DU i'w hatgoffa o'r angen am ddiogelu eu defnyddwyr rhag y fath gynnwys.

O dan ein rôl fel rheoleiddiwr VSPs sydd wedi'u sefydlu yn y DU, ni allwn orchymyn llwyfannau i ddileu na rhwystro cynnwys. Ond rydym yn cydweithio'n agos â nhw i wneud yn siŵr eu bod yn cyflawni eu cyfrifoldeb i roi systemau a phrosesau ar waith i ragfynegi ac ymateb i ledaeniad posibl deunydd niweidiol.

Os ydych wedi rhoi gwybod am gynnwys i lwyfan rhannu fideos wedi'i sefydlu yn y DU ond yn anfodlon gyda’r canlyniad neu os oes gennych bryderon am fesurau diogelwch y llwyfan – er enghraifft, unrhyw broblemau gyda swyddogaethau adrodd, fflagio neu ddilysu oedran – yna gallwch gwyno i Ofcom.

Wrth i ni ddisgwyl i'r Bil Diogelwch Ar-lein newydd dderbyn Cydsyniad Brenhinol, rydym hefyd yn disgwyl i lwyfannau wedi'u rheoleiddio yn y dyfodol amddiffyn defnyddwyr rhag niwed ar-lein yn yr un modd.

Yn ôl i'r brig