Rheoleiddio llwyfannau rhannu fideos: Cais am Dystiolaeth

Cyhoeddwyd: 16 Gorffennaf 2020
Ymgynghori yn cau: 24 Medi 2020
Statws: Ar gau (yn aros datganiad)

Rydyn ni’n gofyn am dystiolaeth a gwybodaeth ynghylch y gofynion newydd a fydd yn berthnasol i lwyfannau rhannu fideos.

Mae llwyfannau rhannu fideos (VSPs) yn fath o wasanaeth fideos ar-lein lle gall defnyddwyr lwytho fideos i fyny a’u rhannu. Mae VSPs yn caniatáu i ddefnyddwyr ymgysylltu ag amrywiaeth eang o gynnwys a nodweddion cymdeithasol, ac maen nhw’n arbennig o boblogaidd ymysg pobl ifanc. Mae 90% o oedolion a 98% o blant 8-15 oed sy’n defnyddio’r rhyngrwyd wedi defnyddio VSP yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Bydd Ofcom yn cael pwerau newydd yr hydref hwn i reoleiddio VSPs sydd wedi’u sefydlu yn y DU. Bydd hyn yn cynnwys dyletswydd i sicrhau bod gan VSPs fesurau priodol ar waith i ddiogelu pobl ifanc rhag cynnwys a allai fod yn niweidiol, a phob defnyddiwr rhag cynnwys anghyfreithlon a chynnwys sy’n cymell casineb a thrais. Hefyd bydd angen i wasanaethau sicrhau eu bod yn cyrraedd y safonau o ran hysbysebion.

Mae’r ddogfen hon yn nodi cefndir a chyd-destun deddfwriaethol rheoleiddio VSPs yn y DU yn y dyfodol, a throsolwg o’r fframwaith rheoleiddio VSPs. Mae hefyd yn nodi dull Ofcom o reoleiddio VSPs, sy’n seiliedig ar rai egwyddorion craidd: diogelu a sicrwydd; cymesuredd; y gallu i addasu; tryloywder; gorfodaeth; ac annibyniaeth..

Ymatebion

Contact information

Yn ôl i'r brig