Llwyfannau rhannu fideos: Cynllun a dull gweithredu Ofcom

Cyhoeddwyd: 25 Ionawr 2024
Diweddarwyd diwethaf: 25 Ionawr 2024

Daeth y drefn VSP i rym ym mis Tachwedd 2020, ac ym mis Hydref 2021 lansiodd Ofcom ein Canllawiau i lwyfannau rhannu fideos ar gyfer darparwyr a’n Cynllun a’n Dull Gweithredu. Yn ystod ein blwyddyn gyntaf, gwelsom fod gan bob VSP rai mesurau i ddiogelu defnyddwyr, ond bod lle i wella. Ers hynny, rydyn ni wedi edrych yn ehangach ar y ffordd mae llwyfannau’n gosod, yn gorfodi ac yn profi eu dull o ddiogelu defnyddwyr – gan gynnwys edrych ar bolisïau VSPs i ddefnyddwyr a sut mae VSPs yn diogelu plant rhag niwed.

Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi ein dull o reoleiddio VSPs hyd yma. Rydyn ni hefyd wedi nodi ein blaenoriaethau ar gyfer gweddill y cyfnod pan fydd y drefn VSP ar waith – cyn i’r drefn diogelwch ar-lein ei disodli.

Rheoleiddio llwyfannau Rhannu Fideos (VSP) – Ein cynllun a dull gweithredu diweddaraf (PDF, 472.3 KB)

Ers 1 Tachwedd 2020, bu'n ofynnol i lwyfannau rhannu fideos (VSP) a sefydlir yn y DU gymryd camau priodol i ddiogelu plant rhag fideos sy'n cynnwys deunydd cyfyngedig a phob defnyddiwr rhag fideos sy'n cynnwys deunydd niweidiol (er enghraifft, mathau penodol o gynnwys anghyfreithlon ac anogaeth i drais neu gasineb). Rôl Ofcom, fel rheoleiddiwr VSP y DU, yw sicrhau bod llwyfannau'n cymryd camau priodol i ddiogelu eu defnyddwyr.

Yn ein cynllun a'n dull gweithredu  ar gyfer y gyfundrefn VSP, a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2021, rydym yn disgrifio ein pedwar nod cyffredinol: codi safonau o ran mesurau diogelu defnyddwyr, nodi a mynd i'r afael yn gyflym â meysydd lle ceir diffyg cydymffurfio, cynyddu tryloywder ar draws y diwydiant a pharatoi'r diwydiant a ni ein hunain ar gyfer y gyfundrefn diogelwch ar-lein sydd ar y gweill.

Bu i ni hefyd amlinellu ein meysydd â blaenoriaeth ar gyfer ein blwyddyn gyntaf o reoleiddio VSP. Y rhain yw:

  • Gostwng y risg o ddeunydd cam-drin plant yn rhywiol (CSAM)
  • Taclo casineb a therfysg
  • Mesurau diogelu plant dan 18 oed
  • Gwirio oedran ar VSP i oedolion
  • Adrodd a fflagio

Ers cyhoeddi dogfen ein cynllun a'n dull gweithredu, rydym wedi bod wrthi'n ymgysylltu â llwyfannau i ddeall yn well y camau y maent yn eu cymryd i ddiogelu defnyddwyr, gan ganolbwyntio ar y meysydd â blaenoriaeth sydd fwyaf perthnasol i'w gwasanaeth.

Ein cynllun gwaith ar gyfer 2022

Ym mis Rhagfyr 2021, bu i ni ysgrifennu i'r holl VSP sydd wedi hysbysu (PDF, 271.4 KB) i ddarparu mwy o fanylion am ein cynlluniau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Nododd y llythyrau hyn ddechrau cyfnod newydd o ymgysylltu goruchwyliol yn y maes rheoleiddio pwysig hwn.

Nododd ein llythyrau y meysydd â blaenoriaeth yr ystyriwn eu bod yn fwyaf perthnasol i bob llwyfan, ac rydym bellach yn eu trafod gyda nhw. Cyn bo hir, byddwn yn cyhoeddi ceisiadau ffurfiol am wybodaeth ynghylch y mesurau y maent wedi'u rhoi ar waith i ddiogelu defnyddwyr rhag niwed a sut y maent wedi cael eu gweithredu. Byddwn hefyd yn gofyn i lwyfannau sut y maent yn asesu pa fesurau sy'n briodol ar gyfer eu gwasanaeth a sut y maent yn asesu effeithiolrwydd y mesurau hynny. Caiff yr wybodaeth hon ei defnyddio i wella ein dealltwriaeth o safon bresennol y mesurau diogelu, i'n helpu i ddysgu o lwyfannau y mae eu mesurau'n cynnig enghreifftiau o arfer gorau ac i'n helpu i nodi unrhyw feysydd lle credwn fod cyfleoedd i wella.

Ein hymagwedd at oruchwylio llwyfannaus

Er mwyn sicrhau'r defnydd mwyaf effeithiol o'n hadnoddau, rydym wedi mabwysiadu rhaglen strwythuredig o ymgysylltu goruchwyliol, wedi'i deilwra i lwyfannau unigol. Er mwyn pennu ein dull goruchwylio, rydym wedi cynnal asesiad cychwynnol o'r llwyfannau (yn seiliedig ar y wybodaeth sydd ar gael i ni ar hyn o bryd) ac wedi grwpio llwyfannau tebyg fel a ganlyn:

  • Llwyfannau Grŵp A: Mae llwyfannau yn y grŵp hwn yn debygol o fod â chyrhaeddiad arbennig o uchel neu nodweddion eraill sy'n gofyn am ymgysylltiad mwy rhagweithiol gan Ofcom. Rydym yn disgwyl ymgysylltu'n rheolaidd ac yn agos â llwyfannau yn y grŵp hwn ar draws nifer o'n meysydd ffocws â blaenoriaeth.
  • Llwyfannau Grŵp B: Mae'r rhain yn llwyfannau sy'n cynnal, yn caniatáu neu'n arbenigo mewn fideos sy'n cynnwys deunydd pornograffig (a elwir yn "lwyfannau i oedolion”). Mae rhyngweithio Ofcom â'r llwyfannau hyn yn fwyaf tebygol o ganolbwyntio ar feysydd blaenoriaeth penodol, megis dilysu oedran.
  • Llwyfannau Grŵp C: Llwyfannau yw'r rhain nad ydynt yn perthyn i grwpiau A neu B. Mae Ofcom yn disgwyl ymgysylltu â'r llwyfannau hyn yn ôl yr angen i godi safonau o ran mesurau diogelu defnyddwyr.

Caiff ein hasesiad o ba grŵp y mae pob llwyfan yn perthyn iddo ei gyfeirio gan nifer o ffactorau, gan gynnwys:

  • cyrhaeddiad y llwyfan;
  • proffil ei ddefnyddwyr, gan gynnwys a yw'r llwyfan yn cael ei ddefnyddio gan blant ai beidio;
  • pa mor hawdd y mae i gael mynediad i'r llwyfan;
  • natur y fideos sydd ar gael ar y llwyfan;
  • a yw'r platfform yn arbenigo mewn cynnwys i oedolion; a'r
  • mesurau y mae'r llwyfan wedi'u rhoi ar waith ar hyn o bryd i ddiogelu defnyddwyr rhag niwed.

Camau nesaf

Byddwn yn parhau i asesu ein dull goruchwylio wrth i ni ddysgu mwy am risgiau i ddefnyddwyr a'r mesurau diogelu y mae llwyfannau wedi'u rhoi ar waith. Byddwn yn casglu rhagor o wybodaeth dros y misoedd nesaf drwy ein ceisiadau ymgysylltu a gwybodaeth arfaethedig, a fydd yn cyfeirio'r grwpiau hyn a'n gwaith ehangach ymhellach.

Yn ogystal â chefnogi ein gwaith ehangach, bydd yr wybodaeth a gasglwn yn cyfeirio ein hadroddiad ar VSP yn hydref 2022, sydd â'r bwriad o gynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd o'r mesurau y mae llwyfannau wedi'u rhoi ar waith i ddiogelu defnyddwyr rhag niwed.

Mae'r ddogfen hon yn nodi dull a chynllun gwaith Ofcom o amgylch llwyfannau rhannu fideos (VSP) – gwefannau ac apiau, a sefydlwyd yn y DU, sy'n caniatáu i ddefnyddwyr rannu fideo, megis TikTok, OnlyFans a Twitch.

Ers i'r rheoliadau llwyfannau rhannu fideos gael eu trosglwyddo i gyfraith yn hydref 2020, rydym wedi bod yn datblygu ac yn gweithredu'r fframwaith rheoleiddio i gefnogi'r rheolau newydd,  gan gynnwys ymgynghori ar ganllawiau newydd. I gyd-fynd â chyhoeddi ein canllawiau, mae'r ddogfen hon yn nodi'r hyn y byddwn yn ei wneud yn ystod y drefn hon i godi safonau o ran diogelu defnyddwyr a mynd i'r afael â meysydd cydymffurfiaeth wael. Rydym hefyd yn amlinellu'r meysydd ffocws blaenoriaeth ar gyfer y 12 mis nesaf.

Llwyfannau rhannu fideos: Cynllun a dull gweithredu Ofcom (PDF, 867.5 KB)

Yn ôl i'r brig