Cyhoeddwyd:
27 Chwefror 2024
Os ydych chi neu eich busnes yn darparu gwasanaeth ar-lein, fel gwefan neu ap, mae'n bosibl bod y Ddeddf Diogelwch Ar-lein yn berthnasol i chi.
Mae'r Ddeddf yn cyflwyno rheolau newydd ar gyfer darparwyr gwasanaethau ar-lein i helpu i gadw pobl yn y DU - yn enwedig plant - yn ddiogel rhag cynnwys anghyfreithlon a niweidiol ar-lein.
Defnyddiwch ein teclyn i ddarganfod a yw'r rheolau'n debygol o fod yn berthnasol i chi, a beth allwch chi ei wneud nesaf.
Rydym yn dal i ddatblygu'r teclyn hwn ac yn croesawu eich adborth. Ni fyddwn yn newid y canlyniadau posibl, felly mae croeso i chi roi cynnig arno nawr.