Fframwaith llwyfannau rhannu fideos Ofcom: canllaw i'r diwydiant

Cyhoeddwyd: 25 Gorffennaf 2022
Diweddarwyd diwethaf: 12 Hydref 2023

Mae llwyfannau rhannu fideos (VSPs) yn fath o wasanaeth fideos ar-lein sy'n galluogi defnyddwyr i uwchlwytho fideos a’u rhannu â'r cyhoedd.

Ers 1 Tachwedd 2020, mae'n rhaid i VSP a sefydlir yn y DU gydymffurfio â rheolau newydd o gwmpas diogelu defnyddwyr rhag fideos niweidiol.

Mae'r canllaw hwn yn ateb rhai cwestiynau sydd gennych am ein fframwaith ar gyfer rheoleiddio VSPs.

Gallwch chi lawrlwytho fersiwn PDF (PDF, 166.5 KB) o'r canllaw hwn.

Mae'n rhaid i chi roi gwybod i Ofcom os ydych yn wasanaeth fideo ar-lein sy'n caniatáu i ddefnyddwyr uwchlwytho a rhannu fideos gyda'r cyhoedd a'ch bod wedi'ch sefydlu yn y DU.

Gweler yr arweiniad rydym wedi'i gyhoeddi i helpu i asesu a yw eich gwasanaeth yn bodloni'r diffiniad cyfreithiol a'r meini prawf awdurdodaeth, ac i gyflwyno eich hysbysiad ar-lein. Mae'n rhaid i wasanaethau newydd hysbysu Ofcom cyn lansio.

Diogelu defnyddwyr rhag y risg o edrych ar gynnwys niweidiol.

I wneud hyn, mae'n rhaid bod darparwyr VSP wedi rhoi mesurau priodol ar waith
i ddiogelu:

  • pob defnyddiwr rhag fideos sy'n debygol o annog trais neu gasineb yn erbyn grwpiau penodol;
  • pob defnyddiwr rhag cynnwys a fyddai'n cael ei ystyried yn drosedd o dan gyfreithiau sy'n ymwneud â therfysgaeth;
  • yn erbyn deunydd cam-drin plant yn rhywiol; a hiliaeth a senoffobia;
  • pobl dan 18 oed rhag fideos sy'n cynnwys pornograffi, cynnwys eithafol a deunydd arall a allai amharu ar eu datblygiad corfforol, meddyliol neu foesol.

Mae'n rhaid cynnal rhai safonau o ran hysbysebu hefyd.

Gweler Adran 3 arweiniad Ofcom ar gyfer darparwyr ar sut i ddiogelu defnyddwyr rhag deunydd niweidiol i gael rhagor o wybodaeth.

Mesurau y gall darparwyr eu cymryd i ddiogelu defnyddwyr rhag deunydd niweidiol

Mesurau i ddiogelu pobl dan 18 oed

  • Telerau ac amodau sy'n nodi, os bydd rhywun yn uwchlwytho fideo sy'n cynnwys unrhyw ddeunydd cyfyngedig*, bod yn rhaid iddo gael ei ddwyn at sylw y darparwr VSP.
  • Systemau ar gyfer dod o hyd i sicrwydd ynghylch oedran gwylwyr posib.
  • Nodweddion rheoli ar gyfer rhieni
  • Systemau sy'n caniatáu i wylwyr raddio deunydd niweidiol.

Mesurau sy'n benodol i hysbysebu

  • Cynnwys telerau ac amodau ynghylch gofynion hysbysebu ar y llwyfan.
  • Darparu'r swyddogaeth i rywun sy'n uwchlwytho fideo ddatgan a yw'r fideo'n cynnwys hysbyseb ai beidio.

Mesurau i gefnogi diogelu pob defnyddiwr

  • Cynnwys telerau ac amodau i wahardd uwchlwytho fideos sy'n cynnwys deunydd niweidiol perthnasol.**
  • Mecanweithiau i wylwyr adrodd neu dynnu sylw at ddeunydd niweidiol a rhoi esboniadau i ddefnyddwyr am y camau a gymerwyd.
  • Proses gwynion
  • Offer a gwybodaeth i ddefnyddwyr gyda'r nod o wella eu llythrennedd yn y cyfryngau.

*Mae deunydd cyfyngedig yn cyfeirio at fideos sydd wedi derbyn tystysgrif R18 neu a fyddai'n debygol o dderbyn y fath dystysgrif, neu y gwrthodwyd tystysgrif iddynt neu y mae'n debygol y byddai tystysgrif yn cael ei gwrthod iddynt o dan ganllawiau BBFC. Mae hefyd yn golygu unrhyw ddeunydd arall a allai amharu ar ddatblygiad corfforol, meddyliol neu foesol pobl ifanc o dan 18 oed.

** Mae deunydd niweidiol perthnasol yn cyfeirio at unrhyw ddeunydd sy'n debygol o annog trais neu gasineb yn erbyn grŵp o bobl neu aelod o grŵp o bobl yn seiliedig ar nodweddion penodol. Mae hefyd yn cyfeirio at ddeunydd y byddai ei ddangos yn drosedd o dan ddeddfau gysylltiedig â therfysgaeth; deunydd cam-drin plant yn rhywiol; a hiliaeth a senoffobia.

Ceir rhagor o wybodaeth am beryglon deunydd niweidiol i ddefnyddwyr a'r mesurau diogelu yn y ddeddfwriaeth yn Adran 4 yr arweiniad.

Mae'n rhaid i'r mesurau a gymerir gan ddarparwr fod yn briodol er mwyn diogelu defnyddwyr rhag y categorïau niwed uchod a rhaid iddynt fod yn effeithiol wrth gyflawni'r diben hwn. Nid yw gwasanaethau wedi'u cyfyngu yn y mesurau y maent yn eu cymryd a gallant gymryd camau eraill yn ychwanegol at y rhai a restrir yn y fframwaith cyfreithiol.

Mae'r gyfundrefn VSP hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i bob gwasanaeth ddarparu ar gyfer gweithdrefn datrys anghydfod diduedd y tu allan i'r llys ar gyfer datrys anghydfod sy'n gysylltiedig â gweithredu mesurau a phenderfyniadau o ran pa rai o'r mesurau a weithredir ai beidio. (Gweler Adran 5 yr arweiniad).

Mae'n rhaid i ddarparwyr benderfynu a yw mesur yn briodol ar gyfer diogelu defnyddwyr rhag deunydd niweidiol. Mae mesur yn briodol os yw'n ymarferol ac yn gymesur, gan gymryd ffactorau megis natur y deunydd a'r niwed posib y gallai ei achosi, nodweddion defnyddwyr (er enghraifft, pobl dan 18 oed), maint a natur y gwasanaeth, a hawliau a buddiannau cyfreithlon defnyddwyr, darparwyr gwasanaethau a'r cyhoedd i ystyriaeth. (Gweler Adran 6 yr arweiniad).

Rydym yn annog darparwyr VSP yn gryf i roi proses ar waith i asesu a rheoli'r risg o niwed. Credwn mai dyma'r ffordd fwyaf effeithiol i ddarparwyr ddogfennu penderfyniadau i bennu pa fesurau sy'n briodol ar gyfer diogelu defnyddwyr rhag deunydd niweidiol. Bydd hefyd yn helpu darparwyr i ystyried risgiau newydd a rhai sy'n dod i'r amlwg er mwyn asesu a lliniaru (Gweler Adran 6 yr arweiniad).

Mae angen i VSPs a sefydlir yn y DU ddilyn gofynion i ddiogelu defnyddwyr rhag hysbysebu niweidiol a sicrhau bod hysbysebion yn dryloyw i ddefnyddwyr. Gallwch ddarllen mwy am y rheolau hysbysebu yng nghynigion Ofcom ar gyfer rheoleiddio hysbysebu ar VSP. Mae arweiniad terfynol ar y gofynion hysbysebu wedi'u cyhoeddi.

Mae gan Ofcom y pŵer i ymchwilio i amheuaeth o beidio â chydymffurfio a chymryd camau gorfodi os yw darparwr VSP wedi torri ei rwymedigaethau. Er hynny, byddwn fel arfer yn ceisio gweithio gyda darparwyr yn anffurfiol i geisio datrys pryderon cydymffurfio.

Os bydd tor rheol, mae ystod o bwerau sydd ar gael i Ofcom. Mae'n bosib y byddem yn ei gwneud yn ofynnol i'r darparwr VSP gymryd camau penodol i gydymffurfio neu i gywiro'r tor rheol a gallwn hefyd osod cosb ariannol ar ddarparwr. Yn y pen draw, yn yr achosion mwyaf difrifol, mae gan Ofcom y pŵer i atal neu gyfyngu ar wasanaeth.

I gael rhagor o wybodaeth am ddull Ofcom o fonitro a gorfodi, gweler Adran 8 yr arweiniad. Mae camau gorfodi yn dilyn ein Canllawiau Gorfodi. Mae gwybodaeth am gosbau ariannol ar gael yn ein Canllawiau Cosb.

Gall darparwyr yrru e-bost i Ofcom yn vspregulation@ofcom.org.uk os oes ganddynt unrhyw gwestiynau am y gyfundrefn VSP.

Noder na all Ofcom ddarparu cyngor cyfreithiol, a chyfrifoldeb i bob darparwr yw sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r rhwymedigaethau cyfreithiol perthnasol.

Yn ôl i'r brig