People on their phones

Datgelu'r gwahaniaethau digidol rhwng dynion a menywod

Cyhoeddwyd: 28 Tachwedd 2024
  • Mae menywod cenhedlaeth ‘Gen Z’ yn treulio dros awr yn fwy ar lein bob dydd o’u cymharu â dynion yr un oedran
  • Mae dynion yn ddefnyddwyr mwy brwd o ddeallusrwydd artiffisial cynhyrchiol, gwefannau cwrdd â chariad a phornograffi, ac mae menywod yn fwy tebygol o ddefnyddio gwefannau iechyd
  • Mae menywod a merched yn eu harddegau yn fwy pryderus am niwed ar-lein
  • Mae Reddit, llwyfan digidol sydd â mwy o ddefnyddwyr sy’n ddynion nag yn fenywod, wedi cyrraedd y pumed safle ac ar y blaen i X ar y rhestr o'r cyfryngau cymdeithasol mwyaf poblogaidd yn y Deyrnas Unedig

Adolygiad blynyddol Ofcom ar dueddiadau digidol y genedl yn datgelu gwahaniaethau amlwg rhwng bywydau ar-lein dynion a menywod y Deyrnas Unedig. 

Mae menywod ym mhob grŵp oedran yn treulio mwy o amser na dynion ar lein - ar ffonau symudol, tabledi, a chyfrifiaduron. Ym mis Mai 2024 roedd menywod yn treulio cyfartaledd o 33 munud yn fwy ar-lein nag yr oedd dynion, gan dreulio cyfanswm o 4 awr 36 munud ar lein o’i gymharu â 4 awr 3 munud.  

Mae’r bwlch hwn rhwng y rhywiau’n fwy amlwg byth ymysg y genhedlaeth ‘Gen Z’.  Mae menywod rhwng 18 a 24 yn treulio dros awr yn fwy ar lein pob dydd nag y mae dynion o’r un oedran - maen nhw’n treulio cyfartaledd o 6 awr a 36 munud ar lein o’i gymharu â 5 awr 28 munud i ddynion (+21%).

ON24-CYM-NR Reddit-100

O edrych ar 10 o’r gwefannau ac apiau cyfryngau cymdeithasol mwyaf poblogaidd, menywod yw mwyafrif defnyddwyr Pinterest (79%), Snapchat (66%), Instagram (64%), TikTok (62%), a Facebook (61%). Ar y llaw arall, dynion sy’n cyfrif am fwyafrif yr amser a dreulir ar Quora (70%), X (63%), Reddit* (61%), LinkedIn (60%), a YouTube (56%). [1] 

Er bod menywod yn gyffredinol yn ymgysylltu fwy â’r byd ar-lein, maen nhw’n fwy tebygol o deimlo bod ganddynt gydbwysedd da rhwng yr amser maen nhw’n ei dreulio o flaen sgrin ac yn gwneud gweithgareddau yn y byd go iawn (69% o’i gymharu â 66%).[2] Maen nhw hefyd yn fwy amheus o werth personol a chymdeithasol y we, yn llai tebygol na dynion o feddwl bod manteision y byd ar-lein yn fwy na'r peryglon a ddaw o’i herwydd (65% o’i gymharu â 70%) ac yn llai tebygol o feddwl bod y we yn beth da i gymdeithas (34% o’i gymharu â 47%). 

ON24-CYM-NR Social-100

Mae menywod a merched yn eu harddegau yn fwy pryderus am niwed ar-lein 

Yn yr un modd, mae menywod yn fwy pryderus na dynion am niwed posibl ar-lein.  Mae cynnwys sy’n ymwneud ag Eithafiaeth (87% o’i gymharu â 77%), masnachu pobl (86% o’i gymharu â 76%) hunanladdiad (86% o’i gymharu â 77%) anffurfio organau cenhedlu benywod (85% yn erbyn 74%) a chynnwys cas neu sarhaus (83% o’i gymharu â 67%) yn destun pryder i fwy o fenywod nag o dynion.[3] 

Mae hyn yn wir hefyd am ferched yn eu harddegau rhwng 13 a 17 oed. Maen nhw’n fwy pryderus o lawer na bechgyn o’r un oedran am gynnwys rhywiol neu bornograffig (67% o’i gymharu â 48%) cynnwys sy’n dangos casineb tuag at fenywod (60% o’i gymharu â 51%), cynnwys treisgar (64% o’i gymharu â 52%) a chynnwys sy'n hyrwyddo hunan-niweidio (75% o’i gymharu â 59%) neu’n hyrwyddo diet/ymarfer corff gormodol neu afiach (51% o’i gymharu â 37%).

O ran profiadau uniongyrchol o niwed ar-lein, mae dynion yn fwy tebygol o ddod ar draws cam wybodaeth (41% o’i gymharu â 37%) sgamiau neu dwyll (36% o’i gymharu â 31%) a chynnwys cas (27% o’i gymharu â 24%). Mae menywod yn fwy tebygol na dynion o gael ceisiadau digroeso i fod yn ffrindiau neu’n ddilynwyr (30% o’i gymharu â 26%), ac o brofi cynnwys cas tuag at fenywod (23% o’i gymharu â 19%) a chynnwys sy’n gysylltiedig â delwedd y corff (21% o’i gymharu â 13%).

Mae bechgyn yn eu harddegau yn fwy tebygol na merched o ddod ar draws cynnwys sy’n dangos styntiau peryglus (29% o’i gymharu â 19%). Mae merched yn fwy tebygol na bechgyn o brofi niwed posibl ar-lein sy’n ymwneud â delwedd y corff; mae hyn yn cynnwys creu stigma ynghylch mathau penodol o gyrff (25% o’i gymharu ag 11%), cynnwys sy’n hyrwyddo diet/ymarfer corff gormodol neu afiach (19% o’i gymharu â 9%), codi cywilydd ar grwpiau (19% o’i gymharu â 10%) a chynnwys sy’n ymwneud ag anhwylderau bwyta (17% o’i gymharu â 5%). Fel menywod, mae merched yn eu harddegau yn fwy tebygol na bechgyn o ddweud eu bod wedi cael ceisiadau digroeso i fod yn ffrindiau neu’n ddilynwyr (33% o'i gymharu â 21%) ac wedi profi cynnwys sy’n dangos casineb at fenywod (23% o’i gymharu â 14%).

O’r wythnos nesaf ymlaen, bydd rhaid i gwmnïau technoleg weithredu dan gyfreithiau diogelwch newydd er mwyn amddiffyn oedolion a phlant ar-lein. Bydd y cyfreithiau yn mynd i'r afael â’r cynnwys mwyaf niweidiol ac anghyfreithlon yn gyntaf. Bydd canllawiau penodol i wasanaethau ar sut rydym ni’n disgwyl iddynt wneud y we yn le mwy diogel i fenywod a merched, a Chodau Ymarfer newydd i amddiffyn plant, yn cael eu rhyddhau yn hanner cyntaf 2025.   

Ymddygiad ar-lein ar sail rhywedd

Daw tueddiadau cyferbyniol dynion a menywod i'r amlwg mewn meysydd eraill o’u bywydau ar lein hefyd. Mae canfyddiadau nodedig eraill yr adroddiad yn cynnwys:

  • Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol. Mae dynion yn fwy tebygol na menywod o fod wedi defnyddio adnodd deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol yn y flwyddyn ddiwethaf (50% o’i gymharu â 33%). Mae menywod yn fwy tebygol na dynion o ddweud nad ydyn nhw’n gwybod beth yw'r dechnoleg yma (29% o’i gymharu â 19%) ac yn fwy tebygol o ddweud nad ydyn nhw’n gwybod sut i’w defnyddio (30% o’i gymharu â 23%). Mae gan ferched fwy o bryderon na dynion sy’n ymwneud â pheryglon defnyddio Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol (17% o’i gymharu â 11%) a’i effaith ar gymdeithas yn y dyfodol ( 64% o’i gymharu â 55%).
  • Newyddion Ar-lein. Roedd dynion (49%) a menywod (51%) yr un mor debygol o ymweld â gwasanaeth newyddion ar lein ym mis Mai 2024, ond roedd yr amser yr oedden nhw’n ei dreulio ar y gwefannau’n amrywio'n fawr. Ym mis Mai 2024, treuliodd dynion 39% yn fwy o amser na menywod ar y 10 gwasanaeth newyddion ar-lein mwyaf poblogaidd- 4 awr a 29 munud o’i gymharu â 3 awr a 28 munud.
  • Safleoedd cwrdd â chariad a phornograffi . Mae dynion yn fwy tebygol o lawer na menywod o ymweld â gwefannau cwrdd â chariad (65% o’i gymharu â 35%). Hinge yw'r unig un o’r 10 gwasanaeth mwyaf poblogaidd sydd â mwy o ddefnyddwyr sy’n fenywod nag yn ddynion (53% o’i gymharu â 47%). Mae dynion dwywaith yn fwy tebygol na menywod o ymweld â gwasanaeth pornograffi ar lein. Ym mis Mai 2024, defnyddiodd 43% (10.0 miliwn) o ddynion y gwasanaethau hyn o’i gymharu â 16% (3.8 miliwn) o fenywod. Ym mis Mai 2024, treuliodd ymwelwyr gwrywaidd gyfartaledd o 1 awr a 44 munud ar wefannau pornograffig o’i gymharu ag ymwelwyr benywaidd a dreuliodd tua awr.
  • Iechyd a Ffitrwydd. Mae menywod yn fwy tebygol na dynion o ymweld â gwefannau iechyd a llesiant (88% o’i gymharu â 80%). Ym mis Mai 2024, roedd 57% o’r bobl a ymwelodd â gwefannau’r GIG yn fenywod, ac roedd 43% ohonyn nhw’n ddynion. Roedd y patrwm hwn yn arbennig o amlwg ymysg ymwelwyr â gwefannau fel Healthline, WebMD, Fitbit, Medical News Today a Mayo Clinic: roedd pob un o’r rhain yn denu tua dwywaith cymaint o fenywod nag o ddynion.

DIWEDD

  1. Ar gyfartaledd mae menywod yn defnyddio amrywiaeth ychydig ehangach o apiau ar eu ffôn clyfar (39 o’i gymharu â 37). Mae’r 10 ap mwyaf poblogaidd yn eithaf tebyg ar gyfer y ddau ryw, ond mae TikTok yn eithriad; dyma’r degfed ap mwyaf poblogaidd i fenywod (46%) ond 16 yw ei safle ar restr poblogrwydd apiau’r dynion (33%). O ran apiau negeseuon, mae mwy o fenywod nag o ddynion yn defnyddio Whatsapp (53% o’i gymharu â 47%), ac mae dynion yn fwy tebygol o ddefnyddio Telegram a Discord (66% o’i gymharu â 34%).
  2. Mae dynion a menywod yr un mor debygol (68%) o fod â strategaeth ar waith i reoli’r amser maen nhw’n ei dreulio ar lein a’u llesiant. Mae dros chwarter (27%) o holl oedolion y Deyrnas Unedig yn neilltuo amser all-lein iddyn nhw eu hunain, yn defnyddio’r gosodiad ‘peidio â tharfu’ neu’n analluogi hysbysiadau ar ddyfeisiau (26%) ond dim ond un o bob pump (21%) sy’n dewis peidio â mynd â’u ffôn i’r gwely gyda nhw.
  3. Nid oedd unrhyw niwed penodol ar-lein lle'r oedd y lefelau pryder a fynegwyd yn uwch ymysg dynion na menywod.
  4. BBC, The Sun, Mail Online, Mirror, Guardian, Independent, Sky News, Apple News, Metro, Telegraph.
Yn ôl i'r brig