Newyddion a gwybodaeth am Covid-19: defnydd ac agweddau

Cyhoeddwyd: 17 Rhagfyr 2021
Diweddarwyd diwethaf: 16 Mawrth 2023

Mewn ymateb i Covid-19, mae Ofcom yn darparu amrywiaeth o wybodaeth ynghylch sut mae pobl yn cael gafael ar newyddion a gwybodaeth am yr argyfwng.

Ar ddiwedd mis Mawrth gwnaethon ni gomisiynu arolwg ar-lein wythnosol o oddeutu 2,000 o bobl yn wythnosol. Rydyn ni hefyd yn darparu canfyddiadau allweddol o setiau data eraill fel BARB a ComScore.

Rydyn ni'n cyhoeddi hwn fel rhan o'n dyletswyddau llythrennedd y cyfryngau a'n rhaglen Gwneud Synnwyr o'r Cyfryngau .  Mae'r gwaith hwn yn ehangu ein dealltwriaeth ynghylch mynediad, defnydd ac ymgysylltiad beirniadol gyda'r newyddion yn ystod y cyfnod hwn, gan adnabod y gall tueddiadau ddwysau neu newid oherwydd natur yr argyfwng. Am ddefnydd o'r newyddion ac agweddau cyn Covid-19, darllenwch Arolwg Defnydd o'r Newyddion Ofcom

Oherwydd y pryderon cynyddol ynghylch camwybodaeth yn ystod y cyfnod hwn, rydyn ni hefyd yn cynnig gwybodaeth ynghylch gwefannau ac offer gwirio ffeithiau a'r gwir a'r gau .

Canfyddiadau o wythnos 76

Cyflawnwyd y gwaith maes rhwng 3-4 Medi 2021, gan holi pobl am eu harferion a'u hagweddau yn ystod y saith niwrnod blaenorol. Codwyd y rhan fwyaf o gyfyngiadau cyfreithiol ar gyswllt cymdeithasol yn Lloegr ar 19 Gorffennaf 2021, yng Nghymru ar 7 Awst 2021 ac yn yr Alban ar 9 Awst 2021.

Defnydd o newyddion a gwybodaeth am y coronafeirws

  • Yn ystod yr wythnos ddiwethaf, dywedodd tri chwarter o bobl (73%) iddynt gyrchu newyddion am y coronafeirws o leiaf unwaith y dydd. Dyma ostyngiad ers fis diwethaf (81%) a gostyngiad o'i gymharu ag wythnos un (27-29 Mawrth 2020) pan gyrchodd bron pawb newyddion am y coronafeirws (99%).
  • Cyfryngau traddodiadol yw'r ffynhonnell newyddion a gwybodaeth a ddefnyddiwyd fwyaf o hyd am y coronafeirws, gydag wyth o bob deg o bobl (82%) yn eu defnyddio yn ystod yr wythnos ddiwethaf. O'r bobl hyn, dywedodd 63% mai dyma oedd eu ffynhonnell newyddion bwysicaf.
  • Dywedodd y rhan fwyaf o ddefnyddwyr cyfryngau cymdeithasol (79%) iddynt weld baneri, ffenestri naid a hysbysiadau amlwg am y coronafeirws o ffynonellau swyddogol, fel sefydliadau iechyd neu'r Llywodraeth, naill ai bob tro, y rhan fwyaf o'r amser neu weithiau wrth iddynt ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol.
  • Y ffordd fwyaf cyffredin i bobl rannu newyddion neu wybodaeth am y coronafeirws dros yr wythnos ddiwethaf oedd trwy siarad â theulu, ffrindiau neu gydweithwyr naill ai'n bersonol neu dros y ffôn (55%). Roedd dulliau eraill a ddefnyddiwyd gan bobl i rannu newyddion neu wybodaeth yn cynnwys ysgrifennu ar grwpiau negeseua caeedig fel WhatsApp neu Zoom (11%), postiadau cyfryngau cymdeithasol (7%) a galwadau fideo ar grwpiau negeseua caeedig (7%). Dywedodd pedwar o bob deg o bobl (38%) nad oeddent wedi rhannu unrhyw newyddion neu wybodaeth am y coronafeirws yn ystod yr wythnos ddiwethaf, cyfran debyg i'r mis diwethaf (34%).

Gwybodaeth anghywir mewn perthynas â'r coronafeirws

  • Dywedodd dros chwarter o bobl (24%) iddynt ddod ar draws honiadau am y coronafeirws y gellir eu hystyried yn anwir neu'n gamarweiniol yn ystod yr wythnos ddiwethaf, cyfran llai na'r mis diwethaf (27%). Roedd y rhai o dan 35 oed yn fwy tebygol i ddweud iddynt ddod ar draws honiadau a allai fod yn anwir neu gamarweiniol na'r rhai dros 35 oed (33% o bobl dan 35 oed o'i gymharu â 20% o'r rhai dros 35 oed).
  • Roedd chwarter o bobl (24%) yn ansicr a oeddent wedi dod ar draws honiadau am y coronafeirws y gellir eu hystyried yn anwir neu'n gamarweiniol yn ystod yr wythnos ddiwethaf, sef cyfran debyg i'r mis blaenorol (25%).
  • Rhoddwyd ysgogiadau i ymatebwyr ar ffurf rhestr o honiadau y gellir ystyried eu bod yn anwir neu'n gamarweiniol, a dywedodd 51% iddynt weld o leiaf un o'r honiadau ar y rhestr. Roedd hyn wedi bod yn dirywio'n gyson yn hanner cyntaf y flwyddyn, fodd bynnag mae wedi codi eto ers mis Mehefin (63% ym mis Ionawr, 60% ym mis Chwefror, 57% ym mis Mawrth, 53% ym mis Ebrill, 49% ym mis Mai); fodd bynnag cynyddodd dros gyfnod yr haf (50% ym mis Mehefin, 52% ym mis Gorffennaf a 59% ym mis Awst).
  • Yr honiadau mwyaf cyffredin a welwyd gan ymatebwyr o'r rhestr ysgogi oedd: ‘mae mygydau/gorchuddion wyneb yn cynnig dim amddiffyniad neu maent yn niweidiol’ (gwelwyd gan 22% o'i gymharu ag 28% o ymatebwyr ym mis Awst*); 'mae nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig â choronafeirws yn llawer is mewn gwirionedd nag sy'n cael ei adrodd' (17% o'i gymharu â 22% ym mis Awst*);  ‘mae'r ffliw ar ei ben ei hun yn llad mwy o bobl na'r coronafeirws’ (19%); ‘gallai'r brechlyn coronafeirws ostwng ffrwythlondeb’ (15% o'i gymharu â 19% ym mis Awst*). 'mae brechlyn y coronafeirws yn rhan o gynllun i fewnblannu meicrosglodion y gellir eu tracio i mewn i bobl’ (15% o'i gymharu â 19% ym mis Awst*).  'mae nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig â choronafeirws yn llawer is mewn gwirionedd nag sy'n cael ei adrodd' (17% yn erbyn 22% ym mis Awst, ‘nid yw’r Coronafeirws yn bodoli’n go iawn a chafodd ei beiriannu’n enetig (15%). (*arwyddocaol o wahanol i'r mis diwethaf).
  • Pan oedd ymatebwyr wedi gweld honiadau y gellir eu hystyried yn anwir neu'n gamarweiniol, dywedodd un o bob pedwar (27%) fod gweld yr honiadau hyn wedi gwneud iddynt feddwl dwywaith am y mater. Dyma gyfran debyg i'r mis diwethaf (25%).
  • Roedd gan draean o ymatebwyr (34%) bryderon am y maint o wybodaeth anwir neu gamarweiniol y gallent fod yn ei derbyn am y coronafeirws. Roedd gan chwech o bob deg o ymatebwyr (60%) bryderon am faint o wybodaeth anwir y gallai pobl eraill fod yn ei derbyn.
  • Cytunodd y rhan fwyaf o bobl (80%) ‘na ddylid postio na rhannu straeon anwir am y coronafeirws ar y cyfryngau cymdeithasol’. Fodd bynnag, cytunodd un o bob pump (19%) o bobl hefyd ei bod 'yn iawn i straeon anwir am y coronafeirws gael eu postio a'u rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol, cyn belled â'u bod yn cael eu nodi fel rhai a allai fod yn annibynadwy/anwir gan y llwyfan cyfryngau cymdeithasol' a chytunodd yr un gyfran fod 'gan bobl a sefydliadau hawl i ddweud beth y mynnant ar gyfryngau cymdeithasol, hyd yn oed os yw o bosib yn anwir (22%).
  • Nododd dros hanner (58%) o ddefnyddwyr cyfryngau cymdeithasol iddynt weld postiadau ar gyfryngau cymdeithasol gyda rhybuddion neu hysbysiadau y gallai'r wybodaeth fod yn annibynadwy neu'n anwir, sef cyfran debyg i'r mis diwethaf (58%). Cliciodd hanner (54%) y defnyddwyr cyfryngau cymdeithasol hyn trwodd i weld y cynnwys naill ai bob amser, y rhan fwyaf o'r amser neu weithiau wrth weld y rhybuddion hyn, sef yr un gyfran â'r mis diwethaf (55%).
  • Dywedodd tri chwarter y bobl 'mae angen i ni fynd yn ôl i fywyd normal gymaint â phosibl' (73%), tra dywedodd hanner yr ymatebwyr eu bod yn teimlo'n 'hyderus y bydd pethau'n mynd yn ôl i sefyllfa o "agos at normal"(51%). Fodd bynnag, dywedodd wyth o bob deg o bobl eu bod yn 'meddwl y bydd yn rhaid i ni fyw gyda'r Coronafeirws' (82%) ac roedd cyfran debyg yn credu 'dylem fod yn ofalus am y Coronafeirws y gaeaf hwn' (81%).

Canlyniadau blaenorol

Wythnos 72

Fieldwork took place from 3-4 September 2021, asking people about their habits and attitudes in the previous seven days. Most legal restrictions on social contact were lifted in England on 19 July 2021, in Wales on 7 August 2021 and in Scotland on 9 August 2021.

Consumption of news and information about the coronavirus

  • In the last week, three quarters of people (73%) said they accessed news about the coronavirus at least once a day. This was a decrease from last month (79%) and from week one (27-29 March 2020) where almost everyone accessed news about coronavirus (99%).
  • Traditional media has remained the most-used source of news and information about the coronavirus, used by more than eight in ten people (82%) in the last week. Of these people, 63% said it was their most important news source.
  • Most social media users (79%) said that they had seen banners, pop-ups and upfront notices about the coronavirus from official sources, such as health organisations or the Government, either each time, most times or sometimes when they used social media.
  • The most common way people shared news or information about the coronavirus in the last week was by talking to family, friends or colleagues either in person or over the phone (55%). Other methods used by people to share news or information included: by writing on closed messenger groups such as WhatsApp or Zoom (11%); via social media posts (7%); and via video calls on closed messenger groups (7%). Four in ten people (38%) said they had not shared any news or information about coronavirus in the last week, an increase from last month (34%).

Misinformation related to the coronavirus

  • A quarter of people (24%) said they had come across claims about the coronavirus which could be considered false or misleading in the last week, a decrease from last month (27%). Those under the age of 35 were more likely to say that they had come across potentially false or misleading claims than those over the age of 35 (33% of under 35s vs. 20% of those 35+).
  • A quarter of people (24%) were unsure whether or not they had come across claims about the coronavirus which could be considered false or misleading in the last week, a similar proportion to last month (25%).
  • Respondents were prompted with a list of claims which could be considered false or misleading, and 51% said they had seen at least one of the claims on the list. This had been in steady decline in the first five months of the year (63% in January, 60% in February, 57% in March, 53% in April, 49% in May); however, it increased over the summer period (50% in June, 52% in July and 59% in August).
  • The most common claims seen by respondents, from the prompted list, were: ‘face masks/coverings offer no protection or are harmful’ (seen by 22% vs 28% in August*); ‘the flu alone is killing more people than coronavirus’ (19%); ‘ ‘the number of deaths linked to coronavirus is much lower in reality than is being reported’ (17% vs 22% in August*); ‘the coronavirus vaccine is a cover for a plan to implant trackable microchips into people’ (15% vs 19% in August*); the coronavirus vaccine may reduce fertility (15% vs 21% in August*); ‘'the Coronavirus does not really exist and was genetically engineered’ (15%). (*statistically different than last month).
  • Where respondents had seen claims that could be considered false or misleading, one in four (27%) said that seeing these claims had made them think twice about the issue. This was a similar proportion to last month (25%).
  • One third of respondents (34%) had concerns about the amount of false or misleading information they might be getting about the coronavirus. Six in ten respondents (60%) had concerns about the amount of misinformation other people may be getting.
  • One in ten people said that their ‘friends and family tend to believe these claims which some people are making about aspects of the Coronavirus that could be considered as false or misleading’ (12%). Those under the age of 35 were more likely to agree with this statement than those aged 45 and over (19% of under 35s vs. 6% of those 45+). One in five people said that ‘my friends and family aren't sure what to believe about these claims’ (21%).
  • Most people (80%) agreed that ‘untrue stories about the coronavirus should not be posted or shared on social media’. However, one in five (21%) agreed that ‘it’s OK for untrue stories about the coronavirus to be posted and shared on social media, as long as they are flagged as potentially untrustworthy/untrue by the social media platform’, and a similar proportion agreed that ‘people and organisations have a right to say what they want on social media about coronavirus, even if it might not be true’ (22%).
  • Over half (58%) of social media users said that they had seen posts on social media with warnings or notices that the information may be untrustworthy or untrue, the same proportion as last month (58%). Half of these social media users (54%) also clicked through to view the content either each time, most times or sometimes when they saw these warnings, which was a similar proportion to last month (55%).
  • Three quarters of people said 'we need to get back to normal as much as possible’ (73%), while half of the respondents said that they felt ‘confident that things will go back to a situation of “near normal”’(51%). However, eight in ten people said they ‘think we're just going to have to live with the Coronavirus’ (82%) and a similar proportion believed ‘we should be cautious about the Coronavirus this winter’ (81%).

Week 72

Cyflawnwyd y gwaith maes rhwng 6 ac 8 Awst 2021, gan holi pobl am eu harferion a'u hagweddau yn ystod y saith niwrnod blaenorol. Codwyd y rhan fwyaf o gyfyngiadau cyfreithiol ar gyswllt cymdeithasol yn Lloegr ar 19 Gorffennaf 2021 ac yng Nghymru ar 7 Awst 2021.

Defnydd o newyddion a gwybodaeth am y coronafeirws

  • Yn ystod yr wythnos ddiwethaf, dywedodd wyth o bob deg o bobl (79%) iddynt gyrchu newyddion am y coronafeirws o leiaf unwaith y dydd. Dyma gyfran debyg i'r mis diwethaf (81%) a gostyngiad o'i gymharu ag wythnos un (27-29 Mawrth 2020) pan gyrchodd bron pawb newyddion am y coronafeirws (99%).
  • Cyfryngau traddodiadol yw'r ffynhonnell newyddion a gwybodaeth a ddefnyddiwyd fwyaf o hyd am y coronafeirws, gydag wyth o bob deg o bobl (84%) yn eu defnyddio yn ystod yr wythnos ddiwethaf. O'r bobl hyn, dywedodd 61% mai dyma oedd eu ffynhonnell newyddion bwysicaf.
  • Dywedodd y rhan fwyaf o ddefnyddwyr cyfryngau cymdeithasol (81%) iddynt weld baneri, ffenestri naid a hysbysiadau amlwg am y coronafeirws o ffynonellau swyddogol, fel sefydliadau iechyd neu'r Llywodraeth, naill ai bob tro, y rhan fwyaf o'r amser neu weithiau wrth iddynt ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol.
  • Y ffordd fwyaf cyffredin i bobl rannu newyddion neu wybodaeth am y coronafeirws dros yr wythnos ddiwethaf oedd trwy siarad â theulu, ffrindiau neu gydweithwyr naill ai'n bersonol neu dros y ffôn (60%). Roedd dulliau eraill a ddefnyddiwyd gan bobl i rannu newyddion neu wybodaeth yn cynnwys ysgrifennu ar grwpiau negeseua caeedig fel WhatsApp neu Zoom (12%), postiadau cyfryngau cymdeithasol (10%) a galwadau fideo ar grwpiau negeseua caeedig (7%). Dywedodd un o bob tri o bobl (34%) nad oeddent wedi rhannu unrhyw newyddion neu wybodaeth am y coronafeirws yn ystod yr wythnos ddiwethaf, cyfran debyg i'r mis diwethaf (33%).

Gwybodaeth anghywir mewn perthynas â’r coronafeirws

  • Roedd chwarter o bobl (25%) yn ansicr a oeddent wedi dod ar draws honiadau am y coronafeirws y gellir eu hystyried yn anwir neu'n gamarweiniol yn ystod yr wythnos ddiwethaf, sef cyfran debyg i'r mis blaenorol (27%).
  • Rhoddwyd ysgogiadau i ymatebwyr ar ffurf rhestr o honiadau y gellir ystyried eu bod yn anwir neu'n gamarweiniol, a dywedodd 59% iddynt weld o leiaf un o'r honiadau ar y rhestr. Roedd hyn wedi bod yn dirywio'n gyson yn hanner cyntaf y flwyddyn, fodd bynnag mae wedi codi eto ers mis Mehefin (63% ym mis Ionawr, 60% ym mis Chwefror, 57% ym mis Mawrth, 53% ym mis Ebrill, 49% ym mis Mai, 50% ym mis Mehefin, 52% ym mis Gorffennaf).
  • Yr honiadau mwyaf cyffredin a welwyd gan ymatebwyr o'r rhestr ysgogi oedd: ‘mae mygydau/gorchuddion wyneb yn cynnig dim amddiffyniad neu maent yn niweidiol’ (gwelwyd gan 28% o'i gymharu ag 20% o ymatebwyr ym mis Gorffennaf*); 'mae nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig â choronafeirws yn llawer is mewn gwirionedd nag sy'n cael ei adrodd' (22% o'i gymharu â 18% ym mis Gorffennaf*);  ‘mae'r ffliw ar ei ben ei hun yn llad mwy o bobl na'r coronafeirws’ (21%); ‘gallai'r brechlyn coronafeirws ostwng ffrwythlondeb’ (21% o'i gymharu â 18% ym mis Gorffennaf*). 'mae brechlyn y coronafeirws yn rhan o gynllun i fewnblannu meicrosglodion y gellir eu tracio i mewn i bobl’ (19% o'i gymharu â 15% ym mis Gorffennaf*).  'mae nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig â choronafeirws yn llawer is mewn gwirionedd nag sy'n cael ei adrodd' (18%). (*arwyddocaol o wahanol i'r mis diwethaf).
  • Pan oedd ymatebwyr wedi gweld honiadau y gellir eu hystyried yn anwir neu'n gamarweiniol, dywedodd un o bob pedwar (25%) fod gweld yr honiadau hyn wedi gwneud iddynt feddwl dwywaith am y mater. Dyma gyfran debyg i'r mis diwethaf (26%).
  • Roedd gan draean o ymatebwyr (34%) bryderon am y maint o wybodaeth anwir neu gamarweiniol y gallent fod yn ei derbyn am y coronafeirws. Roedd gan chwech o bob deg o ymatebwyr (61%) bryderon am faint o wybodaeth anwir y gallai pobl eraill fod yn ei derbyn.
  • Cytunodd y rhan fwyaf o bobl (80%) ‘na ddylid postio na rhannu straeon anwir am y coronafeirws ar y cyfryngau cymdeithasol’. Fodd bynnag, cytunodd un o bob pump (19%) o bobl hefyd ei bod 'yn iawn i straeon anwir am y coronafeirws gael eu postio a'u rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol, cyn belled â'u bod yn cael eu nodi fel rhai a allai fod yn annibynadwy/anwir gan y llwyfan cyfryngau cymdeithasol' a chytunodd yr un gyfran fod 'gan bobl a sefydliadau hawl i ddweud beth y mynnant ar gyfryngau cymdeithasol, hyd yn oed os yw o bosib yn anwir (20%).
  • Nododd dros hanner (58%) o ddefnyddwyr cyfryngau cymdeithasol iddynt weld postiadau ar gyfryngau cymdeithasol gyda rhybuddion neu hysbysiadau y gallai'r wybodaeth fod yn annibynadwy neu'n anwir, sef cyfran debyg i'r mis diwethaf (57%). Cliciodd hanner (55%) y defnyddwyr cyfryngau cymdeithasol hyn trwodd i weld y cynnwys naill ai bob amser, y rhan fwyaf o'r amser neu weithiau wrth weld y rhybuddion hyn, sef yr un gyfran â'r mis diwethaf (55%).

Wythnos 67

Cafodd y gwaith maes ei gynnal rhwng 2-4 Gorffennaf 2021, yn gofyn i bobl am eu harferion a’u hagweddau dros y saith niwrnod diwethaf.

Cael gafael ar newyddion a gwybodaeth am y coronafeirws

  • Yn yr wythnos ddiwethaf, dywedodd wyth o bob deg o bobl (81%) eu bod yn cael gafael ar newyddion am y coronafeirws o leiaf unwaith y dydd. Roedd hyn yr un gyfran â’r mis diwethaf (81%) a gostyngiad ers wythnos un (27-29 Mawrth 2020) lle roedd bron pawb wedi cael gafael ar newyddion am y coronafeirws (99%).
  • Y cyfryngau traddodiadol yw’r ffynhonnell fwyaf poblogaidd o newyddion a gwybodaeth am y coronafeirws, a ddefnyddiwyd gan fwy nag wyth o bob deg o bobl (84%) yn ystod yr wythnos ddiwethaf. O’r bobl hyn, dywedodd 62% mai dyma oedd eu ffynhonnell newyddion bwysicaf.
  • Dywedodd y rhan fwyaf o ddefnyddwyr cyfryngau cymdeithasol (82%) eu bod wedi gweld baneri, ffenestri naid a hysbysiadau ymlaen llaw am y coronafeirws o ffynonellau swyddogol, fel sefydliadau iechyd neu’r Llywodraeth, naill ai bob tro, y rhan fwyaf o weithiau neu weithiau wrth ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol.
  • Y ffordd fwyaf cyffredin roedd pobl yn rhannu newyddion neu wybodaeth am y coronafeirws yn ystod yr wythnos ddiwethaf oedd drwy siarad â theulu, ffrindiau neu gydweithwyr naill ai wyneb yn wyneb neu dros y ffôn (61%). Roedd dulliau eraill a ddefnyddiwyd gan bobl i rannu newyddion neu wybodaeth yn cynnwys, drwy ysgrifennu ar grwpiau negeseuon caeedig fel WhatsApp neu Zoom (12% yn erbyn 10% ym Mehefin), drwy alwadau fideo ar grwpiau negeseuon caeedig (7%), a thrwy negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol (9%). Dywedodd un o bob tri (33%) nad oeddent wedi rhannu unrhyw newyddion na gwybodaeth am y coronafeirws yn ystod yr wythnos ddiwethaf, cyfran debyg i’r mis diwethaf (32%).

Camwybodaeth sy’n ymwneud â’r coronafeirws

  • Dywedodd chwarter y bobl (25%) eu bod wedi dod ar draws honiadau am y coronafeirws y gellid eu hystyried yn ffug neu’n gamarweiniol yn yr wythnos diwethaf. Roedd hyn yr un peth â’r mis diwethaf (25%). Roedd y rheini o dan 35 oed yn fwy tebygol na’r cyfartaledd o ddweud eu bod wedi dod ar draws honiadau a allai fod yn ffug neu’n gamarweiniol (30% o bobl o dan 35 oed o’i gymharu â 24% o bobl dros 35 oed).
  • Roedd dros chwarter o bobl (27%) yn ansicr a oeddent wedi dod ar draws honiadau am y coronafeirws y gellid eu hystyried yn ffug neu’n gamarweiniol yn yr wythnos ddiwethaf, cyfran debyg i’r mis blaenorol (29%).
  • Rhoddwyd rhestr i ymatebwyr o honiadau y gellid eu hystyried yn ffug neu’n gamarweiniol, a dywedodd 52% eu bod wedi gweld o leiaf un o’r honiadau ar y rhestr. Mae hyn wedi bod yn gostwng yn gyson ers mis Ionawr, er ei fod yn debyg i’r mis diwethaf (63% ym mis Ionawr, 60% ym mis Chwefror, 57% ym mis Mawrth, 53% ym mis Ebrill, 49% ym mis Mai a 50% ym mis Mehefin).
  • Dyma’r honiadau mwyaf cyffredin a welwyd gan ymatebwyr, o’r rhestr a awgrymwyd: ‘nid yw masgiau/gorchuddion wyneb yn cynnig amddiffyniad neu maent yn niweidiol’ (a welwyd gan 20% o’r ymatebwyr); ‘mae’r ffliw ar ei ben ei hun yn lladd mwy o bobl na’r coronafeirws’ (20%); ‘mae nifer y marwolaethau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws yn llawer is mewn gwirionedd na’r hyn sy’n cael ei gofnodi’ (18%); ‘gallai’r brechlyn coronafeirws leihau ffrwythlondeb (18%); ‘mae nifer yr achosion sy’n gysylltiedig â'r coronafeirws yn llawer is mewn gwirionedd na’r hyn sy’n cael ei gofnodi’ (16%); ‘cynllun yw brechlyn y coronafeirws i roi microsglodion y gellir eu holrhain i bobl’ (15%).
  • Lle’r oedd ymatebwyr wedi gweld honiadau y gellid eu hystyried yn anwir neu’n gamarweiniol, dywedodd un o bob pedwar (26%) fod gweld yr honiadau hyn wedi gwneud iddynt feddwl ddwywaith am y mater. Roedd hyn yr un peth â’r mis diwethaf (26%).
  • Dywedodd tri ymatebwr o bob deg (33%) bod ganddynt bryderon am faint o wybodaeth ffug neu gamarweiniol y gallent fod yn ei chael am y coronafeirws. Dywedodd bron chwech o bob deg o’r ymatebwyr (57%) bod ganddynt bryderon am faint o gamwybodaeth y gallai pobl eraill fod yn ei chael.
  • Roedd y rhan fwyaf o bobl (79%) yn cytuno â’r datganiad ‘ni ddylid postio na rhannu straeon anwir am y coronafeirws ar gyfryngau cymdeithasol’. Fodd bynnag, roedd un o bob pump (21%) yn cytuno ‘ei bod hi’n iawn i straeon anwir am y coronafeirws gael eu postio a’u rhannu ar gyfryngau cymdeithasol, ar yr amod eu bod yn cael eu fflagio fel rhai a allai fod yn annibynadwy/anwir gan y llwyfan cyfryngau cymdeithasol’, ac roedd cyfran debyg yn cytuno bod gan ‘pobl a sefydliadau hawl i ddweud beth maen nhw ei eisiau ar y cyfryngau cymdeithasol am y coronafeirws, hyd yn oed os nad yw’n wir’ (22%).
  • Dywedodd dros hanner (57%) y rheini sy’n defnyddio cyfryngau cymdeithasol eu bod wedi gweld negeseuon ar gyfryngau cymdeithasol gyda rhybuddion neu hysbysiadau y gallai’r wybodaeth fod yn annibynadwy neu’n anwir, cyfran debyg i’r mis diwethaf (56%). Roedd hanner y defnyddwyr cyfryngau cymdeithasol hyn (56%) hefyd wedi clicio i weld y cynnwys naill ai bob tro, y rhan fwyaf o weithiau neu weithiau pan roedden nhw wedi gweld y rhybuddion hyn, a oedd yn gyfran debyg i’r mis diwethaf (55%).

Wythnos 67

Cafodd y gwaith maes ei gynnal rhwng 4 a 6 o Fehefin 2021, yn gofyn i bobl am eu harferion a’u hagweddau dros y saith niwrnod diwethaf. Roedd hyn yn dilyn llacio rhai cyfyngiadau symud ledled y DU ar 17 Mai.

Defnydd o newyddion a gwybodaeth am y coronafeirws

  • Yn yr wythnos ddiwethaf, dywedodd wyth o bob deg o bobl (81%) eu bod yn cael gafael ar newyddion am y coronafeirws o leiaf unwaith y dydd. Roedd hyn yr un gyfran â’r mis diwethaf (81%) a gostyngiad ers wythnos un (27-29 Mawrth 2020) lle roedd bron pawb wedi cael gafael ar newyddion am y coronafeirws (99%).
  • Y cyfryngau traddodiadol yw’r ffynhonnell fwyaf poblogaidd o newyddion a gwybodaeth am y coronafeirws, a ddefnyddiwyd gan fwy nag wyth o bob deg o bobl (82%) yn ystod yr wythnos ddiwethaf. O’r bobl hyn, dywedodd 64% mai dyma oedd eu ffynhonnell newyddion bwysicaf.
  • Dywedodd y rhan fwyaf o ddefnyddwyr cyfryngau cymdeithasol (82%) eu bod wedi gweld baneri, ffenestri naid a hysbysiadau ymlaen llaw am y coronafeirws o ffynonellau swyddogol, fel sefydliadau iechyd neu’r Llywodraeth, naill ai bob tro, y rhan fwyaf o weithiau neu weithiau wrth ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol.
  • Y ffordd fwyaf cyffredin roedd pobl yn rhannu newyddion neu wybodaeth am y coronafeirws yn ystod yr wythnos ddiwethaf oedd drwy siarad â theulu, ffrindiau neu gydweithwyr naill ai wyneb yn wyneb neu dros y ffôn (62%). Roedd dulliau eraill a ddefnyddiwyd gan bobl i rannu newyddion neu wybodaeth yn cynnwys, drwy ysgrifennu ar grwpiau negeseuon caeedig fel WhatsApp neu Zoom (10%), drwy alwadau fideo ar grwpiau negeseuon caeedig (7%), a thrwy negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol (9%). Dywedodd un o bob tri (32%) nad oeddent wedi rhannu unrhyw newyddion na gwybodaeth am y coronafeirws yn ystod yr wythnos ddiwethaf, cyfran debyg i’r mis diwethaf (33%).

Gwybodaeth anghywir mewn perthynas â’r coronafeirws

  • Dywedodd chwarter y bobl (25%) eu bod wedi dod ar draws honiadau am y coronafeirws y gellid eu hystyried yn ffug neu’n gamarweiniol yn yr wythnos diwethaf. Roedd hyn yn gynnydd ers y mis diwethaf (22%). Roedd y rheini o dan 35 oed yn fwy tebygol na’r cyfartaledd o ddweud eu bod wedi dod ar draws honiadau a allai fod yn ffug neu’n gamarweiniol (33% o bobl o dan 35 oed o’i gymharu â 22% o bobl dros 35 oed).
  • Roedd tri o bob deg o bobl (29%) yn ansicr a oeddent wedi dod ar draws honiadau am y coronafeirws y gellid eu hystyried yn ffug neu’n gamarweiniol yn yr wythnos ddiwethaf, cynnydd ers y mis diwethaf (23%).
  • Rhoddwyd rhestr i ymatebwyr o honiadau y gellid eu hystyried yn ffug neu’n gamarweiniol, a dywedodd 50% eu bod wedi gweld o leiaf un o’r honiadau ar y rhestr. Mae hyn wedi bod yn gostwng yn gyson ers mis Ionawr, er ei fod yn debyg i’r mis diwethaf (63% ym mis Ionawr, 60% ym mis Chwefror, 57% ym mis Mawrth, 53% ym mis Ebrill a 49% ym mis Mai).
  • Dyma’r honiadau mwyaf cyffredin a welwyd gan ymatebwyr, o’r rhestr a awgrymwyd: ‘nid yw masgiau/gorchuddion wyneb yn cynnig amddiffyniad neu maent yn niweidiol’ (a welwyd gan 19% o’r ymatebwyr); ‘cynllun yw brechlyn y coronafeirws i roi microsglodion y gellir eu holrhain i bobl’ (17%); ‘mae nifer y marwolaethau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws yn llawer is mewn gwirionedd na’r hyn sy’n cael ei gofnodi’ (16%); ‘mae’r ffliw ar ei ben ei hun yn lladd mwy o bobl na’r coronafeirws’ (15%); ‘gallai’r brechlyn coronafeirws leihau ffrwythlondeb (15%); ‘mae nifer yr achosion sy’n gysylltiedig â'r coronafeirws yn llawer is mewn gwirionedd na’r hyn sy’n cael ei gofnodi’ (14%).
  • Lle’r oedd ymatebwyr wedi gweld honiadau y gellid eu hystyried yn anwir neu’n gamarweiniol, dywedodd un o bob pedwar (26%) fod gweld yr honiadau hyn wedi gwneud iddynt feddwl ddwywaith am y mater. Roedd hyn yn debyg i’r mis diwethaf (27%).
  • Dywedodd tri ymatebwr o bob deg (31%) bod ganddynt bryderon am faint o wybodaeth ffug neu gamarweiniol y gallent fod yn ei chael am y coronafeirws. Roedd gan chwech o bob deg o’r ymatebwyr (59%) bryderon am faint o gamwybodaeth y gallai pobl eraill fod yn ei chael.
  • Roedd y rhan fwyaf o bobl (81%) yn cytuno â’r datganiad ‘ni ddylid postio na rhannu straeon anwir am y coronafeirws ar gyfryngau cymdeithasol’. Fodd bynnag, roedd un o bob pump (20%) yn cytuno ‘ei bod hi’n iawn i straeon anwir am y coronafeirws gael eu postio a’u rhannu ar gyfryngau cymdeithasol, ar yr amod eu bod yn cael eu fflagio fel rhai a allai fod yn annibynadwy/anwir gan y llwyfan cyfryngau cymdeithasol’, ac roedd yr un gyfran yn cytuno bod gan ‘pobl a sefydliadau hawl i ddweud beth maen nhw ei eisiau ar y cyfryngau cymdeithasol am y coronafeirws, hyd yn oed os nad yw’n wir’.
  • Dywedodd dros hanner (56%) y rheini sy’n defnyddio cyfryngau cymdeithasol eu bod wedi gweld negeseuon ar gyfryngau cymdeithasol gyda rhybuddion neu hysbysiadau y gallai’r wybodaeth fod yn annibynadwy neu’n anwir, cyfran debyg i’r mis diwethaf (53%). Roedd hanner y defnyddwyr cyfryngau cymdeithasol hyn (55%) hefyd wedi clicio i weld y cynnwys naill ai bob tro, y rhan fwyaf o weithiau neu weithiau pan roedden nhw wedi gweld y rhybuddion hyn, a oedd yn gyfran debyg i’r mis diwethaf (54%).

Wythnos 59

Cyflawnwyd y gwaith maes rhwng 7 a 9 Mai 2021, gan holi pobl am eu harferion a'u hagweddau yn ystod y saith niwrnod blaenorol. Roedd hyn yn sgil llacio rhai o gyfyngiadau'r cyfnod clo ar draws y DU, gyda lletygarwch awyr agored a manwerthu'n ailagor yn Lloegr o 12 Ebrill ac ailagor campfeydd a chanolfannau hamdden yng Nghymru o 3 Mai. Roedd ychydig cyn llacio cyfyngiadau'r cyfnod clo ymhellach yn Lloegr a'r Alban ar 17 Mai, pan ailagorodd lletygarwch dan do a chaniatawyd ymgynnull dan do ar gyfer grwpiau o chwech neu ddwy aelwyd.

Defnydd o newyddion a gwybodaeth am y coronafeirws

  • Yn ystod yr wythnos ddiwethaf, dywedodd wyth o bob deg o bobl (81%) iddynt gyrchu newyddion am y coronafeirws o leiaf unwaith y dydd. Roedd hyn yn ostyngiad o'i gymharu â'r mis diwethaf (85%) ac wythnos un (27-29 Mawrth 2020) pan gyrchodd bron pawb newyddion am y coronafeirws (99%).
  • Cyfryngau traddodiadol yw'r ffynhonnell newyddion a gwybodaeth a ddefnyddiwyd fwyaf o hyd am y coronafeirws, gydag wyth o bob deg o bobl (83%) yn eu defnyddio yn ystod yr wythnos ddiwethaf. O'r bobl hyn, dywedodd 62% mai dyma oedd eu ffynhonnell newyddion bwysicaf.
  • Dywedodd y rhan fwyaf o ddefnyddwyr cyfryngau cymdeithasol (80%) iddynt weld baneri, ffenestri naid a hysbysiadau amlwg am y coronafeirws o ffynonellau swyddogol, fel sefydliadau iechyd neu'r Llywodraeth, naill ai bob tro, y rhan fwyaf o'r amser neu weithiau wrth iddynt ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol.
  • Y ffordd fwyaf cyffredin i bobl rannu newyddion neu wybodaeth am y coronafeirws dros yr wythnos ddiwethaf oedd trwy siarad â theulu, ffrindiau neu gydweithwyr naill ai'n bersonol neu dros y ffôn (61%), sef gostyngiad o'i gymharu â'r mis diwethaf (66%). Roedd dulliau eraill a ddefnyddiwyd gan bobl i rannu newyddion neu wybodaeth wedi gostwng hefyd o'i gymharu â'r mis diwethaf, gan gynnwys trwy ysgrifennu ar grwpiau negeseua caeedig fel WhatsApp neu Zoom (12% vs. 16% ym mis Ebrill), trwy alwadau fideo ar grwpiau negeseua caeedig (7% vs. 11% ym mis Ebrill) a thrwy bostiadau cyfryngau cymdeithasol (9% vs 11% ym mis Ebrill). Dwedodd un o bob tri o bobl (33%) nad oeddent wedi rhannu unrhyw newyddion neu wybodaeth am y coronafeirws yn ystod yr wythnos ddiwethaf, cynnydd o'i gymharu â'r mis diwethaf (27%).

Gwybodaeth anghywir mewn perthynas â’r coronafeirws

  • Dywedodd dau o bob deg o bobl (22%) iddynt ddod ar draws honiadau am y coronafeirws y gellir eu hystyried yn ffug neu'n gamarweiniol yn ystod yr wythnos ddiwethaf. Dyma ostyngiad o'i gymharu â'r mis diwethaf (28%). Roedd y rhai o dan 35 oed yn fwy tebygol na'r cyfartaledd i ddweud iddynt ddod ar draws honiadau anwir neu gamarweiniol (29% o bobl dan 35 oed o'i gymharu â 18% o'r rhai dros 45 oed).
  • Roedd un o bob pedwar o bobl (23%) yn ansicr a oeddent wedi dod ar draws honiadau am y coronafeirws y gellir eu hystyried yn anwir neu'n gamarweiniol yn ystod yr wythnos ddiwethaf, sef cyfran debyg i'r mis blaenorol (24%).
  • Rhoddwyd ysgogiadau i ymatebwyr ar ffurf rhestr o honiadau y gellir ystyried eu bod yn anwir neu'n gamarweiniol, a dywedodd 49% iddynt weld o leiaf un o'r honiadau ar y rhestr. Mae hyn wedi dirywio'n gyson ers mis Ionawr (63% ym mis Ionawr, 60% ym mis Chwefror, 57% ym mis Mawrth a 53% ym mis Ebrill).
  • Yr honiadau mwyaf cyffredin a welwyd gan ymatebwyr o'r rhestr ysgogi oedd: ‘mae mygydau/gorchuddion wyneb yn cynnig dim amddiffyniad neu maent yn niweidiol’ (gwelwyd gan 20% o ymatebwyr); 'mae nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig â choronafeirws yn llawer is mewn gwirionedd nag sy'n cael ei adrodd' (19%); ‘mae'r ffliw ar ei ben ei hun yn llad mwy o bobl na'r coronafeirws’ (19%); 'mae nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig â choronafeirws yn llawer is mewn gwirionedd nag sy'n cael ei adrodd' (15%); ‘mae brechlyn y coronafeirws yn rhan o gynllun i fewnblannu meicrosglodion y gellir eu tracio i mewn i bobl’ (14%) a 'bydd brechlyn y coronafeirws yn newid DNA dynol' (14%).
  • Pan oedd ymatebwyr wedi gweld honiadau y gellir eu hystyried yn anwir neu'n gamarweiniol, dywedodd un o bob pedwar (27%) fod gweld yr honiadau hyn wedi gwneud iddynt feddwl dwywaith am y mater. Dyma gyfran debyg i'r mis diwethaf (25%).
  • Roedd gan draean o ymatebwyr (32%) bryderon am y maint o wybodaeth anwir neu gamarweiniol y gallent fod yn ei derbyn am y coronafeirws. Roedd gan chwech o bob deg o ymatebwyr (58%) bryderon am faint o wybodaeth anwir y gallai pobl eraill fod yn ei derbyn.
  • Mae'r rhan fwyaf o bobl (81%) cytuno ‘na ddylid postio na rhannu straeon anwir am y coronafeirws ar y cyfryngau cymdeithasol’. Fodd bynnag, cytunodd un o bob pump (21%) o bobl hefyd ei bod 'yn iawn i straeon anwir am y coronafeirws gael eu postio a'u rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol, cyn belled â'u bod yn cael eu nodi fel rhai a allai fod yn annibynadwy/anwir gan y llwyfan cyfryngau cymdeithasol' a chytunodd yr un gyfran fod 'gan bobl a sefydliadau hawl i ddweud beth y mynnant ar gyfryngau cymdeithasol, hyd yn oed os yw o bosib yn anwir’.
  • Nododd hanner (53%) o ddefnyddwyr cyfryngau cymdeithasol iddynt weld postiadau ar gyfryngau cymdeithasol gyda rhybuddion neu hysbysiadau y gallai'r wybodaeth fod yn annibynadwy neu'n anwir, sef cyfran debyg i'r mis diwethaf (54%). Cliciodd hanner (54%) y defnyddwyr cyfryngau cymdeithasol hyn trwodd i weld y cynnwys naill ai bob amser, y rhan fwyaf o'r amser neu weithiau wrth weld y rhybuddion hyn, sef yr un gyfran â'r mis diwethaf (52%).

Wythnos 55

Cyflawnwyd y gwaith maes rhwng 9 a 11 Ebrill 2021, gan holi pobl am eu harferion a'u hagweddau yn ystod y saith niwrnod blaenorol. Cyflawnwyd hyn yn sgil llacio rhai o gyfyngiadau'r cyfnod clo ar draws y DU, gydag ymgynnull awyr agored yn cael ei ganiatáu ar gyfer grwpiau o chwech neu ddau aelwyd yn Lloegr o 29 Mawrth. Roedd ychydig cyn llacio cyfyngiadau'r cyfnod clo ymhellach yn Lloegr ar 12 Ebrill, pan ganiatawyd i fanwerthu ailagor yn ei gyfanrwydd.

Defnydd o newyddion a gwybodaeth am y coronafeirws

  • Yn ystod yr wythnos ddiwethaf, dywedodd dros wyth o bob deg o bobl (85%) iddynt gyrchu newyddion am y coronafeirws o leiaf unwaith y dydd. Dyma'r un gyfran â'r mis diwethaf (84%). Roedd mynediad i newyddion ar ei uchaf ym mis Mawrth 2020 (99%).
  • Cyfryngau traddodiadol yw'r ffynhonnell newyddion a gwybodaeth a ddefnyddiwyd fwyaf o hyd am y coronafeirws, gydag wyth o bob deg o bobl (85%) yn eu defnyddio yn ystod yr wythnos ddiwethaf. O'r bobl hyn, dywedodd 62% mai dyma oedd eu ffynhonnell newyddion bwysicaf.
  • Dywedodd y rhan fwyaf o ddefnyddwyr cyfryngau cymdeithasol (83%) iddynt weld baneri, ffenestri naid a hysbysiadau amlwg am y coronafeirws o ffynonellau swyddogol, fel sefydliadau iechyd neu'r Llywodraeth, naill ai bob tro, y rhan fwyaf o'r amser neu weithiau wrth iddynt ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol.
  • Y ffordd fwyaf cyffredin i bobl rannu newyddion neu wybodaeth am y coronafeirws dros yr wythnos ddiwethaf oedd trwy siarad â theulu, ffrindiau neu gydweithwyr naill ai'n bersonol neu dros y ffôn (66%). Rhannodd pobl y newyddion neu'r wybodaeth hon hefyd trwy grwpiau negeseua caeedig megis Whatsapp neu Zoom (16%), trwy alwadau fideo ar grwpiau negeseua caeedig (11%) a thrwy bostiadau cyfryngau cymdeithasol (11%).

Gwybodaeth anghywir mewn perthynas â’r coronafeirws

  • Dywedodd dri o bob deg o bobl (28%) iddynt ddod ar draws honiadau am y coronafeirws y gellir eu hystyried yn ffug neu'n gamarweiniol yn ystod yr wythnos ddiwethaf, cyfran debyg i'r mis diwethaf. Roedd y rhai o dan 18 oed yn fwy tebygol na'r cyfartaledd i ddweud iddynt ddod ar draws honiadau anwir neu gamarweiniol (35% o bobl 18-24 oed o'i gymharu â 24% o'r rhai dros 45 oed).
  • Roedd un o bob pedwar o bobl (24%) yn ansicr a oeddent wedi dod ar draws honiadau am y coronafeirws y gellir eu hystyried yn anwir neu'n gamarweiniol yn ystod yr wythnos ddiwethaf, sef cyfran debyg i'r mis blaenorol (25%).
  • Rhoddwyd ysgogiadau i ymatebwyr ar ffurf rhestr o honiadau y gellir ystyried eu bod yn anwir neu'n gamarweiniol, a dywedodd 53% iddynt weld o leiaf un o'r honiadau ar y rhestr. Mae hyn wedi dirywio'n gyson ers mis Ionawr (63% ym mis Ionawr, 60% ym mis Chwefror a 57% ym mis Mawrth).
  • Yr honiadau mwyaf cyffredin a welwyd gan ymatebwyr o'r rhestr ysgogi oedd: ‘mae mygydau/gorchuddion wyneb yn cynnig dim amddiffyniad neu maent yn niweidiol’ (gwelwyd gan 21% o ymatebwyr); 'mae nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig â choronafeirws yn llawer is mewn gwirionedd nag sy'n cael ei adrodd' (18%); ‘mae'r ffliw ar ei ben ei hun yn llad mwy o bobl na'r coronafeirws’ (18%); 'mae nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig â choronafeirws yn llawer is mewn gwirionedd nag sy'n cael ei adrodd' (16%); ‘gallai'r brechlyn coronafeirws ostwng ffrwythlondeb’ (16%); ac ‘mae brechlyn y coronafeirws yn rhan o gynllun i fewnblannu meicrosglodion y gellir eu tracio i mewn i bobl’ (16%).
  • Pan oedd ymatebwyr wedi gweld honiadau y gellir eu hystyried yn anwir neu'n gamarweiniol, dywedodd un o bob pedwar (25%) fod gweld yr honiadau hyn wedi gwneud iddynt feddwl dwywaith am y mater. Dyma'r gyfran debyg i'r mis diwethaf (23%).
  • Roedd gan draean o ymatebwyr (32%) bryderon am y maint o wybodaeth anwir neu gamarweiniol y gallent fod yn ei derbyn am y coronafeirws. Roedd gan chwech o bob deg o ymatebwyr (59%) bryderon am faint o wybodaeth anwir y gallai pobl eraill fod yn ei derbyn.
  • Mae'r rhan fwyaf o bobl (79%) cytuno ‘na ddylid postio na rhannu straeon anwir am y coronafeirws ar y cyfryngau cymdeithasol’. Fodd bynnag, cytunodd un o bob pump (21%) o bobl hefyd ei bod 'yn iawn i straeon anwir am y coronafeirws gael eu postio a'u rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol, cyn belled â'u bod yn cael eu nodi fel rhai a allai fod yn annibynadwy/anwir gan y llwyfan cyfryngau cymdeithasol' a chytunodd yr un gyfran fod 'gan bobl a sefydliadau hawl i ddweud beth y mynnant ar gyfryngau cymdeithasol, hyd yn oed os yw o bosib yn anwir’.
  • Nododd hanner (54%) o ymatebwyr eu bod wedi gweld postiadau ar gyfryngau cymdeithasol gyda rhybuddion neu hysbysiadau y gallai'r wybodaeth fod yn annibynadwy neu'n anwir, sef cyfran debyg i'r mis diwethaf (52%). Cliciodd hanner (52%) y defnyddwyr cyfryngau cymdeithasol hyn trwodd i weld y cynnwys naill ai bob amser, y rhan fwyaf o'r amser neu weithiau wrth weld y rhybuddion hyn, sef yr un gyfran â'r mis diwethaf (53%).

Rydyn ni hefyd wedi cyhoeddi'r dadansoddiad canlynol sydd ar gael yn Saesneg yn unig.

Effects of Covid-19 on TV viewing (April 2021) (PDF, 238.1 KB)

Arolwg defnydd plant o'r newyddion: Prif Ganfyddiadau Covid-19 Mawrth 2021 

Fel rhan o'n hastudiaeth Defnydd Newyddion yn y DU yn 2021, gwnaethon ni holi tua 500 o bobl ifanc 12-15 oed am eu defnydd o gynnwys newyddion ar draws gwahanol lwyfannau yn ystod pandemig Covid-19 rhwng 24 Tachwedd a 7 Rhagfyr 2020. Gwnaethon ni holi tua 500 o bobl ifanc 12-15 oed arall am eu defnydd o gynnwys newyddion rhwng 27 Chwefror a 24 Mawrth 2021 wrth i bandemig Covid-19 barhau.

  • Ym mis Mawrth 2021, fel ym mis Tachwedd/Rhagfyr 2020, dywedodd 93% o bobl 12-15 oed eu bod wedi cael gafael ar newyddion a gwybodaeth am y coronafeirws 'yn ystod yr wythnos ddiwethaf'.
  • Ym mis Mawrth 2021, fel ym mis Tachwedd/Rhagfyr 2020, dywedodd 93% o bobl 12-15 oed eu bod wedi cael gafael ar newyddion a gwybodaeth am y coronafeirws 'yn ystod yr wythnos ddiwethaf'.
  • Ar gyfartaledd, roedd pobl ifanc 12-15 oed yn defnyddio 4.6 ffynhonnell ar gyfer newyddion am y coronafeirws ym mis Mawrth 2021.Teulu (55%), Teledu’r BBC (35%), ffrindiau (32%) ac 'ysgol neu athro' (32%) yw'r ffynonellau mwyaf poblogaidd o hyd ar gyfer newyddion a gwybodaeth am y coronafeirws ymhlith pobl ifanc 12-15 oed.
  • O'i gymharu â mis Tachwedd/Rhagfyr 2020, ym mis Mawrth 2021, cafwyd cynnydd yn y defnydd o deledu'r BBC (35% o gymharu â 27% ym mis Tachwedd/Rhagfyr 2020), cyrff swyddogol fel Sefydliad Iechyd y Byd neu'r GIG (16% o gymharu â 9% ym mis Tachwedd/Rhagfyr 2020) a ffynonellau cyfryngau cymdeithasol (53% o gymharu â 39% ym mis Tachwedd/Rhagfyr 2020) ar gyfer dod o hyd i newyddion a gwybodaeth am y coronafeirws.
  • Roedd 63% o bobl ifanc 12-15 oed yn cytuno bod gormod yn y newyddion am coronafeirws ym mis Mawrth 2021, i fyny o 54% ym mis Tachwedd/Rhagfyr 2020.
  • Roedd 66% o bobl ifanc 12-15 oed yn cytuno eu bod yn ei chael hi'n anodd gwybod beth oedd yn wir a beth oedd yn ffug am coronafeirws, yn gyson â Thachwedd/Rhagfyr 2020 (62%). Roedd y rhai sy'n dibynnu'n bennaf neu'n llwyr ar bobl y maent yn eu hadnabod am newyddion am coronafeirws, gan gynnwys ar y cyfryngau cymdeithasol, yn fwy tebygol o gytuno â hyn (76% yn cytuno) na'r rhai sy'n dibynnu'n bennaf neu'n llwyr ar y cyfryngau neu ffynonellau swyddogol (62% yn cytuno).
  • Ym mis Mawrth 2021 gofynnwyd i bobl ifanc 12-15 oed a oeddent yn dibynnu ar y cyfryngau a ffynonellau swyddogol neu bobl y maent yn eu hadnabod (fel ffrindiau neu deulu), gan gynnwys ar y cyfryngau cymdeithasol, am newyddion am coronafeirws. Dywedodd 45% eu bod yn dibynnu'n llwyr/yn bennaf ar y cyfryngau neu ffynonellau swyddogol. Roedd 28% yn dibynnu'n gyfartal ar y cyfryngau a ffynonellau swyddogol, a phobl y maent yn eu hadnabod. Yn olaf, roedd 27% yn dibynnu'n llwyr/yn bennaf ar bobl yr oeddent yn eu hadnabod - oll yn gyson â'r canfyddiadau ym mis Tachwedd/Rhagfyr 2020.

Wythnos 51

Defnydd o newyddion a gwybodaeth am y coronafeirws

  • Yn ystod yr wythnos ddiwethaf, roedd dros wyth o bob deg o bobl (84%) eu bod wedi cael newyddion am y coronafeirws o leiaf unwaith y dydd. Roedd hyn yn ostyngiad ers y mis diwethaf (88%) ac o wythnos un (99%).
  • Cyfryngau traddodiadol yw'r ffynhonnell newyddion a gwybodaeth a ddefnyddir amlaf am y coronafeirws, a ddefnyddir gan bron i naw o bob deg o bobl (86%) yn ystod yr wythnos ddiwethaf. O'r bobl hyn, dywedodd 63% mai dyma oedd eu ffynhonnell newyddion bwysicaf.
  • Mae'r rhan fwyaf o ddefnyddwyr cyfryngau cymdeithasol (84%) eu bod wedi gweld baneri, ffenestri naid a hysbysiadau ymlaen llaw am y coronafeirws o ffynonellau swyddogol, fel sefydliadau iechyd neu'r llywodraeth, naill ai bob tro, y rhan fwyaf o weithiau neu weithiau pan oeddent yn defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol.
  • Y ffordd fwyaf cyffredin y rhannodd pobl newyddion neu wybodaeth am y coronafeirws yn ystod yr wythnos ddiwethaf oedd drwy siarad â theulu, ffrindiau neu gydweithwyr naill ai'n bersonol neu dros y ffôn (67%). Roedd pobl hefyd yn rhannu'r newyddion neu wybodaeth hon drwy grwpiau negeseua caeëdig fel Whatsapp neu Zoom (15%), drwy alwadau fideo ar grwpiau negeseua caeëdig (12%) a thrwy negeseuon cyfryngau cymdeithasol (11%).

Gwybodaeth anghywir mewn perthynas â’r coronafeirws

  • Dywedodd tri o bob deg o bobl (28%) eu bod wedi dod ar draws honiadau am y coronafeirws y gellid eu hystyried yn ffug neu'n gamarweiniol yn ystod yr wythnos ddiwethaf, cyfran debyg i'r mis diwethaf (29%). Roedd y rhai o dan 35 oed yn fwy tebygol na'r cyfartaledd o ddweud eu bod wedi dod ar draws hawliadau ffug neu gamarweiniol (35% o bobl o dan 35 oed yn erbyn 24% o bobl dros 35 oed).
  • Roedd un o bob pedwar o bobl (25%) yn ansicr a oeddent wedi dod ar draws honiadau am y coronafeirws y gellid eu hystyried yn anwir neu'n gamarweiniol yn ystod yr wythnos ddiwethaf, cyfran debyg i'r mis diwethaf (27%). Ysgogwyd yr ymatebwyr gyda rhestr o honiadau y gellid eu hystyried yn ffug neu'n gamarweiniol, a dywedodd 57% eu bod wedi gweld o leiaf un o'r honiadau ar y rhestr. Mae hyn wedi bod yn lleihau’n gyson ers mis Ionawr (63% ym mis Ionawr, 60% ym mis Chwefror).
  • Yr honiadau mwyaf cyffredin a welwyd gan ymatebwyr, o'r rhestr a ysgogwyd, oedd: 'nid yw masgiau/gorchuddion wyneb yn cynnig unrhyw amddiffyniad neu maent yn niweidiol' (a welwyd gan 23% o'r ymatebwyr); 'mae nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig â chorafeirws yn llawer is mewn gwirionedd nag sy'n cael ei adrodd' (21%); 'gall y brechlyn coronafeirws leihau ffrwythlondeb' (18%); ac 'mae'r brechlyn coronafeirws yn orchudd ar gyfer cynllun i fewnblannu microsglodion er mwyn gallu tracio pobl' (17%). Lle'r oedd ymatebwyr wedi gweld honiadau y gellid eu hystyried yn anwir neu'n gamarweiniol, roedd un o bob pedwar (23%) bod gweld yr honiadau hyn wedi gwneud iddynt feddwl ddwywaith am y mater. Roedd hyn yr un gyfran â'r mis diwethaf. Roedd traean o'r ymatebwyr (32%) oedd â phryderon am faint o wybodaeth ffug neu gamarweiniol y gallent fod yn ei chael am y coronafeirws. Mae bron i ddwywaith cymaint (61%) â phryderon am faint o wybodaeth anghywir y gallai pobl eraill fod yn ei chael.
  • Mae'r rhan fwyaf o bobl (81%) yn cytuno ‘na ddylid postio na rhannu straeon anwir am y coronafeirws ar y cyfryngau cymdeithasol.’ Fodd bynnag, roedd un o bob pump (20%) yn cytuno hefyd ei bod yn 'iawn i straeon anwir am y coronafeirws gael eu postio a'u rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol, cyn belled â'u bod yn cael eu nodi fel rhai a allai fod yn anniben/anwir gan blatfform y cyfryngau cymdeithasol'. Roedd yr un gyfran (20%) yn cytuno bod gan 'bobl a sefydliadau hawl i ddweud beth maen nhw ei eisiau ar y cyfryngau cymdeithasol am coronafeirws, hyd yn oed os nad yw'n wir efallai'.
  • Roedd hanner (52%) o ddefnyddwyr cyfryngau cymdeithasol yn dweud eu bod wedi gweld swyddi ar y cyfryngau cymdeithasol gyda rhybuddion neu hysbysiadau y gallai'r wybodaeth fod yn anniben neu'n anghywir, cyfran debyg i'r mis diwethaf (55%).Gwnaeth hanner y defnyddwyr cyfryngau cymdeithasol hyn (53%) glicio ymhellach hefyd i weld y cynnwys naill ai bob tro, y rhan fwyaf o weithiau, neu ar adegau pan welsant y rhybuddion hyn a oedd yr un gyfran â'r mis diwethaf (53%).

Rydyn ni hefyd wedi cyhoeddi'r dadansoddiad canlynol sydd ar gael yn Saesneg yn unig.

Effects of Covid-19 on TV viewing (March 2021) (PDF, 398.8 KB)

Rate this page

Thank you for your feedback.

We read all feedback but are not able to respond. If you have a specific query you should see other ways to contact us.

Was this page helpful?
Yn ôl i'r brig