- Ffynonellau newyddion ar-lein yn cael eu defnyddio mor eang â newyddion teledu erbyn hyn, a welodd ostyngiad sylweddol y llynedd
- YouTube yn herio sianeli newyddion traddodiadol
- Ond mae mwy o ymddiriedaeth yn y newyddion teledu a radio, wrth i Ofcom lansio adolygiad i gefnogi newyddion gwasanaeth cyhoeddus
- Daeth y rhan fwyaf o bobl ar draws cynnwys camarweiniol yn ystod yr Etholiad Cyffredinol
Nid teledu yw’r unig brif ffynhonnell newyddion ar gyfer oedolion yn y DU, gan fod ymchwil Ofcom yn dangos bod safleoedd ac apiau ar-lein bellach yr un mor boblogaidd â newyddion teledu am y tro cyntaf.
Mae teledu wedi cael ei ystyried yn brif ffynhonnell newyddion y DU ers y 1960au, gyda’r nifer a oedd yn berchen ar deledu yn cynyddu i nifer uwch na'r rhai a oedd yn berchen ar radio neu’n prynu papurau newydd. Ond mae astudiaeth flynyddol Ofcom o sut rydym yn cael gafael ar newyddion yn dangos bod 71% o oedolion yn gwneud hynny ar-lein erbyn hyn, o’i gymharu â 70% ar gyfer teledu, gan nodi newid o genhedlaeth i genhedlaeth yng nghydbwysedd y cyfryngau newyddion.
Y prif ffactor sy’n sbarduno’r newid yw’r defnydd cynyddol o gyfryngau cymdeithasol ar gyfer newyddion.[1] Mae dros hanner oedolion y DU (52%) nawr yn defnyddio llwyfannau fel Facebook, YouTube ac Instagram i gael gafael ar newyddion, i fyny o 47% yn 2023.
Roedd cyrhaeddiad newyddion ar y teledu yn arfer bod yn ffordd amlwg o gael gafael ar newyddion, ond mae'r cyrhaeddiad hwn wedi gostwng yn y blynyddoedd diwethaf, o 75% i 70% y llynedd.
Cenedlaethau hŷn yn troi at safleoedd newyddion
Mynd ar-lein yw’r ffordd fwyaf poblogaidd o bell ffordd i bobl iau gael gafael ar newyddion (88% o bobl ifanc 16-24 oed), ond mae cenedlaethau hŷn hefyd yn ychwanegu ffynonellau ar-lein yn raddol at eu deiet newyddion.
Mae dros hanner (54%) y bobl 55 oed a hŷn yn dod o hyd i newyddion ar-lein – i fyny o 45% yn 2018 – gyda’r rhan fwyaf yn llywio’n uniongyrchol i wefannau newyddion. Dim ond 28% sy’n cael gafael ar newyddion drwy gyfryngau cymdeithasol, sy’n sylweddol is na 16-24 oed ar 82%.
Er gwaethaf y duedd hon tuag at ffynonellau newyddion ar-lein, teledu yw’r prif lwyfan o bell ffordd ar gyfer newyddion ymysg grwpiau oedran hŷn (85%), o’i gymharu â dim ond hanner pobl 16-24 oed (49%).
Cyhoeddi'r 10 prif ffynhonnell newyddion
Mae darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yn dal yn ffordd bwysig o gael gafael ar newyddion. BBC One yw’r ffynhonnell newyddion unigol fwyaf poblogaidd o hyd, ac mae newyddion ar draws holl lwyfannau’r BBC (teledu, radio, gwefan newyddion, Sounds ac iPlayer) yn dal i gyrraedd 68% o holl oedolion y DU. ITV1 yw’r ail ffynhonnell newyddion unigol fwyaf poblogaidd.
Ond mae’r defnydd o’r ddwy sianel ar gyfer newyddion wedi gostwng yn raddol dros y pum mlynedd diwethaf (gweler y tabl uchod). Mae Channel 4 wedi disgyn o’r 10 safle uchaf am y tro cyntaf, gyda’r defnydd o newyddion wedi gostwng o 17% yn 2019 i 14% yn 2024.
Pedwar o’r deg ffynhonnell newyddion fwyaf poblogaidd yw’r gwasanaethau cyfryngau cymdeithasol ar Facebook, YouTube, Instagram a Facebook (gweler y tabl). Ymysg pobl ifanc rhwng 16 a 24 oed, mae’r llwyfannau hyn a TikTok yn cynnwys y pum prif le. Erbyn hyn, mae YouTube yn cael ei ddefnyddio mor eang i gael gafael ar gynnwys newyddion â’r News Channel ac mae’n fwy poblogaidd na BBC News Channel a BBC News Online.
Mae newyddion darlledu yn ddibynadwy ac yn werthfawr, gydag adolygiad ar y gweill i sicrhau ei ddyfodol
Mae ffynonellau newyddion ar-lein – a llwyfannau cyfryngau cymdeithasol yn benodol – yn cael sgôr llawer llai ffafriol na llwyfannau traddodiadol fel teledu a radio am gywirdeb, ymddiriedaeth a didueddrwydd (gweler y tabl isod).
Mae cynulleidfaoedd yn dal i ystyried ‘newyddion dibynadwy a chywir o’r DU’ fel nodwedd gymdeithasol bwysicaf y cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus (PSM), gyda bron i hanner yr ymatebwyr (49%) yn ei nodi ymhlith y tair prif nodwedd.[3] Mae ein hymchwil hefyd yn dangos bod darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus, ar y cyfan, yn cyflawni’n dda yn gyson yn y maes hwn, gyda 63% o’r ymatebwyr yn nodi bod newyddion darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yn ‘ddibynadwy a chywir’.
Mae Ofcom eisiau cefnogi argaeledd newyddion cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus dibynadwy a gwerthfawr lle mae pobl yn cael gafael arno, felly heddiw rydyn ni’n gosod y fframwaith ar gyfer ein hadolygiad nesaf o gyfryngau gwasanaeth cyhoeddus. Bydd hyn yn adeiladu ar ganfyddiadau ein hadolygiad diwethaf – Sgrin Fach: Trafodaeth Fawr – lle gwelwyd llawer o’n hargymhellion i’r Llywodraeth yn cael eu rhoi ar waith drwy Ddeddf Cyfryngau diweddar 2024.
Bydd cam cyntaf ein hadolygiad yn edrych ar ba mor dda mae darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus wedi cyflawni ar gyfer cynulleidfaoedd yn y DU, gan gynnwys sut mae newyddion darlledu gwasanaeth cyhoeddus ar gael i gynulleidfaoedd ar-lein. Bydd yr ail gam yn ystyried opsiynau posibl ar gyfer newidiadau mewn rheoliadau neu ddeddfwriaeth i gefnogi cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus yn y dyfodol.
Mae teledu wedi dominyddu arferion newyddion pobl ers y chwedegau, ac mae pobl yn dal i ymddiried ynddo. Ond rydyn ni’n gweld newid o genhedlaeth i genhedlaeth i newyddion ar-lein, sy’n aml yn cael ei ystyried yn llai dibynadwy – ynghyd ag ofnau cynyddol am gamwybodaeth a chynnwys ffugiadau dwfn. Mae Ofcom eisiau sicrhau newyddion o ansawdd uchel ar gyfer y genhedlaeth nesaf, felly rydyn ni’n dechrau ar adolygiad o’r cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus sy’n helpu i ategu democratiaeth a thrafodaeth gyhoeddus y DU.
Yih-Choung Teh, Cyfarwyddwr y Grŵp Strategaeth ac Ymchwil Ofcom.
Sut y dilynodd pobl yr Etholiad Cyffredinol
Mae Ofcom hefyd wedi ymchwilio i gael gafael ar newyddion yn ystod cyfnod Etholiad Cyffredinol 2024. Gwnaethom olrhain ymgysylltiad oedolion yn y DU â newyddion, rôl y cyfryngau o ran eu helpu i ffurfio barn, a phrofiadau o gamwybodaeth bosibl. Roedd ein canfyddiadau’n cynnwys y canlynol:
- Roedd naw o bob deg yn dilyn yr etholiad, gydag oedolion iau yn benodol â diddordeb. Roedd y cynnydd mwyaf mewn diddordeb mewn newyddion yn ystod cyfnod yr etholiad ymysg oedolion iau 18-24 oed – hyd at 58% o’i gymharu â 39% yn ystod cyfnodau arferol. I’r gwrthwyneb, roedd oedolion hŷn 50+ oed, menywod, a’r rheini mewn aelwydydd economaidd-gymdeithasol is, i gyd yn fwy tebygol nag arfer o fod â diddordeb mewn newyddion yn ystod cyfnod yr etholiad.
- Roedd y rhan fwyaf o bobl wedi gweld cynnwys camarweiniol. Roedd chwech o bob deg (60%) yn dweud eu bod wedi gweld gwybodaeth roeddent yn teimlo ei bod yn ffug neu’n gamarweiniol. O’r rhain, dywedodd un o bob deg eu bod yn gweld y math hwn o gynnwys sawl gwaith y dydd.
- Pryderon ynghylch fideo a sain ffugiadau dwfn. Mynegodd dros hanner y bobl (57%) bryder am effaith cynnwys ffugiadau dwfn yn ystod ymgyrch yr Etholiad Cyffredinol. Roedd dros chwarter (27%) yr oedolion yn dweud eu bod wedi dod ar draws ffugiad dwfn yn ystod yr wythnos flaenorol.
Nodiadau i olygyddion:
- Wrth ddarllen yr adroddiad hwn, pan fydd ymatebydd yn nodi ei fod yn defnyddio llwyfannau ar-lein neu gyfryngau cymdeithasol ar gyfer newyddion, mae’n bosibl ei fod yn cyfeirio at gynnwys neu negeseuon gan gyhoeddwyr newyddion traddodiadol fel y BBC, negeseuon gan newyddiadurwyr neu ffigurau cyhoeddus, neu gynnwys sy’n cael ei bostio/rhannu gan ffrindiau a theulu, ac ati.
- Instagram (41%), YouTube (37%), Facebook (35%), TikTok (33%) a ‘X’ (27%)
- Traciwr Cyfryngau Gwasanaeth Cyhoeddus 2023 Ofcom.