Ymyriant i radio busnes

Cyhoeddwyd: 22 Awst 2023

Mae ymyriant i radio busnes fel arfer yn cael ei achosi gan:

  • aflonyddwch electromagnetig o gyfarpar neu osodiadau;
  • imiwnedd gwael neu ddetholusrwydd derbynyddion;
  • defnyddwyr lluosog sy’n defnyddio’r un sianel ar yr un pryd mewn ystod agos (tagfeydd); neu
  • defnyddio cyfarpar telegraffiaeth ddi-wifr heb drwydded.

Darllenwch fwy am yr hyn sy'n achosi ymyriant 

Beth gallwch chi ei wneud

Mae’r Ffederasiwn Gwasanaethau Cyfathrebu (FCS) yn gymdeithas ddielw yn y diwydiant ar gyfer sefydliadau sy’n darparu cyfathrebiadau llais a data ar gyfer cwsmeriaid busnes a’r sector cyhoeddus yn y DU. Mae canllawiau ar leihau ymyriant yn ei God Ymarfer ar gyfer Peirianneg Safle Radio Busnes.

Pan fydd ymyriant yn effeithio ar orsaf radio neu offer ac mae angen help i wella imiwnedd neu ddetholedd, dylech gysylltu â chontractwr sydd ag enw da.

Sut gallwn ni helpu

Mewn amgylchiadau eithriadol, efallai y byddwn yn ymchwilio i ymyriant i offer radio busnes pan fyddwn yn fodlon â’r canlynol:

  • mae’r ymyriant yn niweidiol;
  • mae y tu hwnt i'ch rheolaeth;
  • bod pob cam rhesymol wedi’i gymryd i leihau’r effaith.

Efallai y byddwn yn anfon peiriannydd allan i ymchwilio. Fodd bynnag, gallwch fod yn atebol am gost yr ymchwiliad os gwelwn nad yw’r meini prawf uchod wedi’u bodloni.

Beth yw ymyriant niweidiol?

Nid yw aflonyddwch electromagnetig neu sŵn, yn ymyriant ‘niweidiol’ ynddo’i hun.

Mae ymyriant i gyfathrebiadau radio yn cael ei ystyried yn niweidiol os yw’n:

  • creu perygl, neu risgiau o berygl, mewn perthynas â gweithrediad unrhyw wasanaeth a ddarperir dros delegraffiaeth ddi-wifr at ddibenion llywio neu fel arall at ddibenion diogelwch
  • achosi dirywiad, yn rhwystro neu’n ymyrryd dro ar ôl tro ag unrhyw beth sy'n cael ei ddarlledu neu fel arall yn cael ei drosglwyddo dros delegraffiaeth ddi-wifr ac yn unol â thrwydded telegraffiaeth ddi-wifr, neu ddyfarniad mynediad sbectrwm cydnabyddedig neu fel arall yn gyfreithlon.

Mae'n annhebygol y byddai Ofcom yn ymchwilio i adroddiad o ymyriant nad yw'n cael ei ystyried yn ‘niweidiol ’. Nid ein polisi ni yw hyn, ac nid oes gennym bwerau i wneud hyn yn effeithiol.

Rhoi gwybod am ymyriant

Cyn rhoi gwybod i ni am ymyriant, dylech wneud y canlynol:

  1. cofnodi pob digwyddiad am o leiaf wythnos gyda’r amser, y dyddiad a’r orsaf neu’r cyfarpar yr effeithir arnynt;
  2. sefydlu nad yw ffynhonnell yr ymyriant niweidiol o fewn eich rheolaeth chi (e.e o fewn eich eiddo chi eich hun);
  3. sicrhau bod yr orsaf neu’r cyfarpar yr effeithir arnynt yn gweithio’n iawn.

cysylltwch â ni am gyngor a chymorth, neu llenwch ein ffurflen ymyriant i radio busnes.

Rate this page

Thank you for your feedback.

We read all feedback but are not able to respond. If you have a specific query you should see other ways to contact us.

Was this page helpful?
Yn ôl i'r brig