Digital disadvantage web

Sut mae ‘anfantais ddigidol’ yn effeithio ar bobl yn y Deyrnas Unedig?

Cyhoeddwyd: 2 Ebrill 2025

Mae adroddiad newydd a gomisiynwyd gan Ofcom yn datgelu bod pobl sy’n wynebu rhwystrau neu anawsterau ar-lein yn gallu profi iechyd meddwl a chorfforol gwaeth, colli cyfleoedd gwaith a chael eu hallgáu’n gymdeithasol.

Mae ymchwil yn awgrym nad oes gan 2.8 miliwn o bobl (5% o boblogaeth y DU) fynediad i’r rhyngrwyd o gwbl – er bod y gyfran hon wedi mwy na haneru ers cyn y pandemig. Mae wyth y cant o ddefnyddwyr y rhyngrwyd hefyd yn dweud nad oes ganddynt lawer o hyder ar-lein.

Er mwyn gwella ein dealltwriaeth o’r heriau mae grwpiau penodol yn eu hwynebu ar-lein – a sut mae hyn yn effeithio ar eu hymgysylltiad digidol a’u bywydau o ddydd i ddydd – fe wnaeth Ofcom gomisiynu Blue Marble i gynnal darn o ymchwil ansoddol manwl.

Cafodd 70 o bobl o bob cwr o’r DU eu cyfweld gan ymchwilwyr, gan gynnwys llawer sy’n wynebu mathau unigryw o anfantais ddigidol ar sail eu hunaniaeth neu eu hamgylchiadau. Roedd hyn yn cynnwys: pobl anabl, pobl mewn tai anniogel, grwpiau ethnig lleiafrifol, unigolion sydd â lefel isel o hyfedredd yn y Saesneg, a phobl nad ydynt yn defnyddio’r rhyngrwyd yn aml.

Ein canfyddiadau

Roedd y cyfranogwyr yn disgrifio’r rhyngrwyd fel cledd dwy ochr, gan gydnabod manteision cyfathrebu ar-lein, ond gan sôn hefyd am amrywiaeth o heriau. Roedd hyn yn cynnwys problemau gyda chysylltedd, pryderon am gostau, profiadau niweidiol ar-lein, materion hygyrchedd a diffyg hyder digidol. Roedd yr heriau hyn yn effeithio ar lawer o agweddau ar eu bywydau bob dydd ac roeddent yn cael eu profi ar draws amrywiaeth o sectorau a gwasanaethau – o gyfathrebu i fancio, gwasanaethau cyhoeddus, cyflogaeth ac addysg.

Mae’r adroddiad hefyd yn datgelu’r effeithiau seicolegol, logistaidd a chymdeithasol ar bobl sy’n wynebu anfantais ddigidol. Roedd hyn yn cynnwys effeithiau niweidiol ar eu hiechyd meddwl a chorfforol, teimlo’n ynysig yn gymdeithasol, a chael eu heithrio o gyfleoedd gwaith a gwasanaethau cymorth.

Yn gryno:

  • Roedd pobl anabl yn sôn am yr effeithiau negyddol ar eu hiechyd corfforol oherwydd bod ar-lein, gan gynnwys blinder, anghysur corfforol wrth ddefnyddio dyfeisiau anaddas, a phryder. Roedd rhai pobl anabl hefyd wedi sôn am broblemau hygyrchedd o ran sut mae rhai gwasanaethau ar-lein yn cael eu dylunio.
  • Roedd pobl sy’n cael heriau tai yn disgrifio ystod eang o heriau wrth ddefnyddio’r rhyngrwyd a oedd yn effeithio ar eu bywydau bob dydd. Roedd gorlenwi mewn cartrefi gyda nifer o breswylwyr yn effeithio ar gyflymder ac ansawdd y rhyngrwyd, ac roedd pobl a oedd yn byw mewn llety tymor byr neu’n aros dros dro yng nghartref rhywun arall yn wynebu rhwystrau wrth ddewis a chofrestru gyda darparwr rhyngrwyd. Roedd diffyg mynediad i’r rhyngrwyd hefyd yn achosi problemau o ran gweithio ac astudio gartref.
  • Roedd pobl o grwpiau ethnig lleiafrifol yn teimlo bod diffyg cynrychiolaeth mewn mannau ar-lein roeddent yn ymweld â nhw, ac yn siarad am weld iaith wahaniaethol a hiliol ar-lein. Mae hyn yn ategu tystiolaeth arall bod bron i hanner (48%) y bobl mewn grwpiau ethnig lleiafrifol wedi dod ar draws cynnwys cas neu sarhaus ar-lein yn ystod y pedair wythnos flaenorol.
  • Soniodd pobl â lefelau is o Saesneg am rwystrau sylweddol rhag mynd ar-lein, gan gynnwys dyluniad llwyfannau ar gyfer pobl nad ydynt yn siarad Saesneg.
  • Roedd pobl nad ydynt yn defnyddio’r rhyngrwyd yn aml wedi cael profiadau gwael o ddefnyddio gwasanaethau hanfodol, yn enwedig gyda thasgau beunyddiol pwysig gan gynnwys trefnu apwyntiadau gyda meddygon.

Mae Ofcom wedi cyhoeddi ei ymateb i ganfyddiadau’r ymchwil, gan nodi sut bydd yr adroddiad yn llywio, ymysg pethau eraill, ein gwaith ar ymwybyddiaeth o’r cyfryngau a grymuso defnyddwyr, ein gwaith i gefnogi trosglwyddiadau digidol o hen dechnolegau, a’n disgwyliadau o ddiwydiant.

Ewch i ganolfan newyddion Ofcom i gael rhagor o wybodaeth.

Yn ôl i'r brig