Hygyrchedd ar BBC iPlayer neu wasanaeth fideo ar-alw arall

Cyhoeddwyd: 6 Mawrth 2024
Diweddarwyd diwethaf: 6 Mawrth 2024

Rydym yn annog darparwyr gwasanaethau fideo ar-alw i ddatblygu cynlluniau gweithredu hygyrchedd gyda golwg ar wneud eu gwasanaethau'n gynyddol hygyrch i bobl sydd ag anableddau. Mae'n ofynnol i ddarparwyr gwasanaethau fideo ar-alw roi copi o unrhyw gyfryw gynllun i ni.

Nid yw'r rheolau sy'n mynnu bod darlledwyr yn darparu lefelau penodol o isdeitlo, arwyddo a disgrifiadau sain (neu 'wasanaethau mynediad') yn ymestyn ar hyn o bryd i wasanaethau fideo ar-alw. Rydym yn eich annog i roi gwybod i'ch darparwr bod galw yn bodoli am y gwasanaethau hyn.

Os byddai'n well gennych gwyno'n uniongyrchol i Ofcom, llenwch ein ffurflen cwyno am y BBC ar gyfer BBC iPlayer a'n ffurflen cwyno am fideo ar-alw ar gyfer gwasanaethau fideo ar-alw eraill.

Gallwch hefyd yrru e-bost atom yn accessibilitycomplaints@ofcom.org.uk neu gysylltu dros y ffôn gan gynnwys cyfnewid fideo, neu drwy'r post.

Rydym yn croesawu cwynion i'n cyfeiriad e-bost mewn fformatau heblaw print, er enghraifft recordiad sain neu fideo Iaith Arwyddion Prydeinig. I ymateb mewn BSL:

  • Anfonwch recordiad atom ohonoch chi'n arwyddo eich ymateb. Ni ddylai hyn fod yn hwy na 5 munud. Fformatau ffeil addas yw DVD, ffeiliau wmv neu QuickTime. Neu
  • Uwchlwythwch fideo ohonoch chi'n arwyddo eich ymateb yn uniongyrchol i YouTube (neu wefan letya arall) ac anfonwch y linc atom.

Os oes arnoch angen yr wybodaeth ar y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, darllen hawdd, recordiad sain neu braille, cysylltwch â'r tîm digidol.

Rate this page

Thank you for your feedback.

We read all feedback but are not able to respond. If you have a specific query you should see other ways to contact us.

Was this page helpful?
Yn ôl i'r brig