Harasio gan newyddiadurwyr y wasg

Cyhoeddwyd: 29 Mehefin 2020
Diweddarwyd diwethaf: 17 Mawrth 2023

Mae’r Sefydliad Safonau yn y Wasg Annibynnol (IPSO) yn rhedeg gwasanaeth 24 awr i helpu aelodau o'r cyhoedd sy’n poeni am ymyrryd a harasio gan y wasg.

Rhwng dydd Llun a dydd Gwener, 09:00 i 17:30, gallwch gysylltu รข’r Sefydliad Safonau yn y Wasg Annibynnol ar 0300 123 2220. Ar gyfer achosion brys y tu allan i oriau swyddfa, gallwch gael gafael ar un o aelodau staff y Sefydliad Safonau yn y Wasg Annibynnol drwy’r llinell 24 awr, sef 07799 903 929.

O dan delerau’r Cod Ymarfer Golygyddion, mae’r Sefydliad Safonau yn y Wasg Annibynnol yn gallu helpu unigolion sy’n cael eu harasio gan ffotograffydd neu newyddiadurwr y wasg. Mewn rhai achosion, mae hefyd yn gallu helpu - ar sail ewyllys da - gyda phryderon am weithredoedd newyddiadurwyr darlledu, yn enwedig pan fydd “sgrym” wasg wedi casglu sy’n achosi gofid.

Rate this page

Thank you for your feedback.

We read all feedback but are not able to respond. If you have a specific query you should see other ways to contact us.

Was this page helpful?
Yn ôl i'r brig