Cyhoeddwyd:
23 Mawrth 2022
Diweddarwyd diwethaf:
4 Medi 2023
Mae galwadau ymosodol neu fygythiol, boed nhw gan bobl rydych yn eu hadnabod neu ddieithriaid, yn drosedd.
Ffoniwch eich darparwr ffôn a gofyn am gael siarad â’r tîm galwadau niwsans.
Os ydy'r galwr yn eich bygwth chi neu’ch teulu a chithau’n credu bod y bygythiadau hynny’n rhai go iawn, ffoniwch 999 ar unwaith.
Os ydych yn credu nad yw'r bygythiadau yn mynd i gael eu cyflawni ar unwaith, ffoniwch eich gorsaf heddlu leol ar 101.
Darllenwch ein canllawiau ar alwadau ymosodol a bygythiol.