Mae gwasanaethau cyfathrebu ar-lein yn fwy poblogaidd nag erioed ac mae llawer yn ehangu'r gwasanaethau y maent yn eu cynnig i'w defnyddwyr. Mae posibilrwydd y gallai'r duedd hon arwain at ddatblygu apiau pob gwasanaeth, 'super-apps' fel y'u gelwir, sy'n cynnig ystod o wasanaethau a swyddogaethau. Mae Sunny Shergill a Nick Evans o dîm Strategaeth a Pholisi Ofcom yn trafod beth y gallai hyn ei olygu o ran sut rydym yn defnyddio gwasanaethau ar-lein a sut mae Ofcom yn ymateb i unrhyw faterion rheoleiddio a allai godi.
Mae gwasanaethau cyfathrebu ar-lein (OCS) yn cynnwys apiau a gwefannau annibynnol sy'n darparu gwasanaethau negeseua a ffonio preifat fel eu prif ddiben, megis WhatsApp a Snapchat. Maent hefyd yn cynnwys gwasanaethau sy'n cynnig negeseua gwib fel rhan o lwyfan cyfryngau cymdeithasol ehangach, fel Facebook ac Instagram.
Mae'r gwasanaethau hyn yn fwy poblogaidd nag erioed. Dangosodd ein hadroddiad Ein Gwlad Ar-lein diweddaraf fod y gwasanaethau mwyaf poblogaidd, WhatsApp a Facebook Messenger, yn cael eu defnyddio gan 85% a 70% o oedolion ar-lein yn y drefn honno. I lawer o bobl maent hyd yn oed yn disodli gwasanaethau cyfathrebu traddodiadol; mae ein hymchwil wedi dangos i tua dau draean o bobl 16 i 44 oed ddweud y byddai'n well ganddynt fod heb alwadau ffôn symudol am 44 awr na heb eu hoff apiau negeseua.
Gallai ehangu gwasanaethau ar-lein arwain at apiau pob gwasanaeth
Pan brynodd Elon Musk Twitter (X bellach) yn 2022, fe rannodd ei uchelgeisiau i'w droi'n 'ap i bopeth’. Mae hyn yn dilyn tueddiadau tebyg o wasanaethau ar-lein eraill sy'n ehangu cwmpas gwasanaethau ar eu llwyfannau. Er enghraifft, mae Facebook wedi cyflwyno siopa a chwarae gemau, mae Apple yn caniatáu i chi anfon a derbyn arian trwy Apple Cash ar yr ap Messages ac mae Uber bellach yn cynnig nid yn unig reidiau mewn car ond hefyd danfon siopa a threfnu teithiau. Mae hyn oll yn awgrymu tuedd tuag at gwmpas gwasanaeth ehangach.
Gallai'r duedd hon arwain at apiau pob gwasanaeth, cymwysiadau popeth yn yr un lle sy'n cynnig ystod o wasanaethau a swyddogaethau, megis prosesu taliadau, e-fasnachu a chyfathrebu. Mae apiau pob gwasanaeth eisoes yn hynod boblogaidd yn Asia. Mae enghreifftiau yn cynnwys WeChat yn Tsieina, sydd â mwy na biliwn o ddefnyddwyr gweithredol bob mis; Kakao Talk a ddefnyddir gan 90% o boblogaeth De Corea, a Grab, sydd wedi gwthio Uber allan o'i safle ym marchnad De Ddwyrain Asia. Mae'r apiau hyn yn aml yn cynnwys 'rhaglenni bach' - apiau ysgafn, weithiau wedi'u cynnig gan drydydd partïon, sy'n cynnig gwasanaethau ychwanegol. Mae gan WeChat dros filiwn o raglenni bach, gan gynnwys gwasanaethau Llywodraeth. Mae dadansoddwyr o Gartner yn darogan erbyn 2027, y bydd mwy na 50% o'r boblogaeth fyd-eang yn defnyddio apiau pob gwasanaeth lluosog yn weithredol bob dydd.
Nid yw'n glir i ba raddau y byddai ddefnyddwyr yn y Gorllewin yn cael ap pob gwasanaeth yn ddefnyddiol neu a fyddent yn ymddiried mewn un ap i gyflawni cynifer o wasanaethau. Mae hyn yn rhannol oherwydd eu bod yn gyfarwydd â defnyddio apiau lluosog a gellir dadlau bod llawer o wasanaethau wedi'u hymwreiddio. Er bod y ffactorau hyn yn gwneud datblygu apiau pob gwasanaeth yn y Gorllewin yn llai sicr, petaent yn mynd yn boblogaidd yn y DU, fe fyddai'n newid sylweddol yn y ffordd y mae defnyddwyr yn byw eu bywydau ar-lein. Felly, mae'n bwysig bod rheoleiddwyr, gan gynnwys Ofcom, yn ystyried y goblygiadau.
Mae'r cynnydd posibl mewn apiau pob gwasanaeth yn codi materion penodol ar gyfer rheoleiddwyr
Ar hyn o bryd daw gwasanaethau cyfathrebu ar-lein o dan ein cylch gwaith fel y rheoleiddiwr diogelwch ar-lein. Rydym yn ymchwilio i sut y gall niwed anghyfreithlon ddod i'r amlwg ar y gwasanaethau hyn yn ein Hymgynghoriad niwed anghyfreithlon a byddwn yn argymell pa gamau y gallai gwasanaethau ar-lein eu cymryd i liniaru’r risg o niwed anghyfreithlon. Pe bai apiau pob gwasanaeth yn dod i'r amlwg, byddent yn debygol o gynnwys ystod ehangach o swyddogaethau, a allai o bosibl gynyddu'r risg y bydd defnyddwyr yn agored i niwed ar-lein. Er enghraifft, gallai cynnwys e-fasnachu o fewn apiau negeseua gynyddu'r risg o dwyll, gwe-rwydo a sgamiau.
O safbwynt cystadleuaeth, yn ôl ein hasesiad, er bod rhai risgiau i ddefnyddwyr o ran cystadleuaeth, mae gwasanaethau cyfathrebu ar-lein ar hyn o bryd yn ysgogi canlyniadau gweddol gadarnhaol i ddefnyddwyr (asesiad lefel uchel oedd hwn nad oedd yn ystyried meysydd fel niwed ar-lein neu ecosystemau llwyfannau ehangach). Fodd bynnag, gallai ymddangosiad apiau pob gwasanaeth godi pryderon newydd o ran cystadleuaeth. Er enghraifft, os bydd cwsmeriaid yn dibynnu ar apiau pob gwasanaeth ar gyfer swyddogaethau pwysig lluosog, gallai ei gwneud hi'n anodd iddynt newid o un i'r llall. Gallai hyn yn ei dro ei gwneud hi'n anoddach i newydd-ddyfodiaid ddenu defnyddwyr. At hynny, mae'n bosibl y byddai modd i apiau pob gwasanaeth roi triniaeth ffafriol i'w gwasanaethau eu hunain a chaniatáu i wasanaethau trydydd parti integreiddio dim ond os nad ydyn nhw'n gystadleuwyr brwd. Fodd bynnag, efallai y gellir lliniaru'r materion hyn i ryw raddau os bydd apiau pob gwasanaeth yn caniatáu lefel ddigonol o ryngweithredu - pwnc yr ydym yn ei drafod yn fanylach yn ein papur trafod diweddar.
Mae cydnerthedd gwasanaethau cyfathrebu ar-lein eisoes yn bwysig, gan fod llawer o bobl yn dibynnu arnynt i gyfathrebu. Mae hyn hyd yn oed yn bwysicach ar gyfer apiau pob gwasanaeth, am eu bod yn cael eu defnyddio at ystod ehangach o ddibenion. Gellid gweld hyn drwy effaith sylweddol y nam a fu'n para am ddyddiau yn yr ap pob gwasanaeth yn Ne Corea, KakaoTalk.
Gallai cwmpas eang apiau pob gwasanaeth gynyddu risgiau i breifatrwydd, gan y gallai canoli data a systemau gynyddu difrifoldeb toriadau. Fodd bynnag, efallai y bydd gan apiau pob gwasanaeth fuddion o ran preifatrwydd. Er enghraifft, gallent alluogi proses neu ryngwyneb rheoli caniatâd canolog, yn hytrach na bod yn rhaid i ddefnyddwyr reoli eu dewisiadau preifatrwydd ar draws nifer o apiau gwahanol.
Mae’n bwysig bod rheoleiddwyr yn parhau i fonitro datblygiad gwasanaethau cyfathrebu ar-lein, yn ogystal â datblygiad posibl apiau pob gwasanaeth – a dylent ystyried y materion rheoleiddio cysylltiedig. Efallai y bydd rhai o'r materion hyn yn fwy perthnasol i gylchoedd gwaith rheoleiddwyr eraill. Er enghraifft, mae materion data a phreifatrwydd yn berthnasol i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), a byddai materion sy’n ymwneud â chystadleuaeth yn berthnasol i’r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA), fel y crybwyllwyd yn nogfen Adroddiad Sganio'r Gorwel y CMA. O ystyried pwysigrwydd y duedd hon a’i heffaith bosibl ar y sector cyfathrebu, byddwn yn parhau i fonitro datblygiadau newydd, ac ar yr un pryd gweithio gyda’n partneriaid yn y Fforwm Cydweithredu ar Reoleiddio Digidol i ystyried unrhyw faterion sy'n dod i'r amlwg.