Marchnadoedd digidol, cyfathrebiadau a’r cyfryngau: diweddaru meysydd ffocws Ofcom

Cyhoeddwyd: 5 Rhagfyr 2024

Dyma ein diweddariad i'n meysydd ffocws o dan ein Strategaeth Marchnadoedd Digidol.

Ym mis Medi 2022, cyhoeddwyd ein Strategaeth Marchnadoedd Digidol, a oedd yn nodi sut y byddem yn cefnogi cystadleuaeth a'r canlyniadau gorau i gwsmeriaid a busnesau wrth ystyried effaith marchnadoedd digidol ar sectorau cyfathrebu a'r cyfryngau yn y DU.

Yn unol â'n strategaeth, rydym wedi cwblhau astudiaeth marchnad i wasanaethau cwmwl yn y DU o dan Ddeddf Menter 2002 a gwaith arall ar niwtraliaeth net, gwasanaethau cyfathrebu personol ar-lein a llwyfannau teledu cysylltiedig.  Ar wahân, rydym wedi cyhoeddi diweddariad ar lwyfannau teledu cysylltiedig.  

Mae'r ddogfen hon yn nodi ein meysydd ffocws mwyaf diweddar  o dan ein Strategaeth Marchnadoedd Digidol. Mae'r rhain yn cynnwys effeithiau cwmnïau digidol mawr ar fand eang symudol a'r cysylltiadau esblygol rhwng llwyfannau a chyhoeddwyr chwilio a chyfryngau cymdeithasol.

Yn 2024 daeth Deddf Marchnadoedd Digidol, Cystadleuaeth a Defnyddwyr 2024 i rym sy'n galluogi’r  CMA i rhoi ar waith ccyfundrefn  marchnadoedd digidol sy’n hyrwyddo  cystadleuaeth. Mae'r ddogfen hon yn nodi sut y byddwn yn cydgysylltu â'r CMA i sicrhau ein bod yn cymryd ymagwedd gydgysylltiedig at reoleiddio digidol.

Yn ôl i'r brig