Datganiad a gyhoeddwyd 26 Hydref 2023
Mae niwtraliaeth y rhyngrwyd yn cefnogi'r 'rhyngrwyd agored', gan sicrhau bod defnyddwyr y rhyngrwyd (defnyddwyr a'r rhai sy'n gwneud a dosbarthu cynnwys fel ei gilydd) yn cadw rheolaeth dros yr hyn maen nhw'n ei weld ac yn ei wneud ar-lein - nid y darparwyr band eang na'r darparwyr symudol (sy’n cael eu hadnabod fel darparwyr gwasanaeth rhyngrwyd neu ISPs fel arall). Mae'r rheolau ynghylch niwtraliaeth y rhyngrwyd yn sicrhau bod y traffig sy'n cael ei gludo ar draws rhwydweithiau band eang a symudol yn cael ei drin yn gyfartal ac nad yw cynnwys neu wasanaethau penodol yn cael eu blaenoriaethu na'u harafu mewn ffordd sy'n ffafrio rhai dros eraill. Rydyn ni am sicrhau, wrth i dechnoleg esblygu ac wrth i fwy o'n bywydau symud ar-lein, bod niwtraliaeth y rhyngrwyd yn parhau i gefnogi arloesedd, buddsoddiad a thwf, gan ddarparwyr cynnwys a darparwyr gwasanaethau rhyngrwyd.
Mae'r rheolau presennol am niwtraliaeth y rhyngrwyd wedi'u nodi mewn deddfwriaeth. Byddai unrhyw newidiadau i'r rheolau yn y dyfodol yn fater i Lywodraeth a Senedd y DU. Ofcom sy'n gyfrifol am fonitro a sicrhau cydymffurfiaeth â'r rheolau a darparu canllawiau ar sut y dylai ISPs eu dilyn. Yn 2021 dechreuon ni adolygiad o niwtraliaeth y rhyngrwyd.
Mae ein hadolygiad wedi canfod, at ei gilydd, bod hyn wedi gweithio'n dda ac wedi cefnogi dewis defnyddwyr yn ogystal â galluogi darparwyr cynnwys i gyflwyno eu cynnwys a'u gwasanaethau i ddefnyddwyr. Fodd bynnag, mae meysydd penodol lle rydym yn darparu rhagor o eglurder yn ein canllawiau i alluogi ISPs i arloesi a rheoli eu rhwydweithiau'n fwy effeithlon, er mwyn gwella canlyniadau defnyddwyr.
- Gall ISPs gynnig cynigion manwerthu o ansawdd premiwm: Mae caniatáu i ISPs ddarparu pecynnau manwerthu o ansawdd premiwm yn golygu y gallant ddiwallu anghenion rhai defnyddwyr yn well. Er enghraifft, efallai y bydd pobl sy'n defnyddio cymwysiadau realiti rhithwir o ansawdd uchel am brynu gwasanaeth o ansawdd premiwm, tra gall defnyddwyr sy'n ffrydio a phori'r rhyngrwyd yn bennaf brynu pecyn rhatach. Mae ein canllawiau diweddaraf yn egluro y gall ISPs gynnig pecynnau premiwm, sy’n cynnig lefel oedi isel er enghraifft, cyn belled â'u bod yn ddigon clir i gwsmeriaid am yr hyn y gallant ei ddisgwyl o'r gwasanaethau y maent yn eu prynu.
- Gall ISPs ddatblygu 'gwasanaethau arbenigol' newydd: Mae rhwydweithiau 5G a ffeibr llawn newydd yn cynnig cyfle i ISPs arloesi a datblygu eu gwasanaethau. Mae ein canllawiau diweddaraf yn egluro pryd y gallant ddarparu 'gwasanaethau arbenigol' i ddarparu cynnwys a chymwysiadau penodol y mae angen eu hoptimeiddio, a allai gynnwys cyfathrebu amser real, realiti rhithwir a cherbydau di-yrrwr.
- Gall ISPs ddefnyddio mesurau rheoli traffig i reoli eu rhwydweithiau: Gall ISPs ddefnyddio mesurau rheoli traffig ar eu rhwydweithiau, fel bod gwasanaeth o ansawdd da yn cael ei gynnal i ddefnyddwyr. Mae ein canllawiau diweddaraf yn egluro pryd a sut y gall ISPs ddefnyddio mesurau rheoli traffig, gan gynnwys y gwahanol ddulliau y gallant eu mabwysiadu a sut y gallant wahaniaethu rhwng gwahanol gategorïau o draffig ar sail eu gofynion technegol.
- Bydd y rhan fwyaf o gynigion ar gyfradd sero’n yn cael eu caniatáu: Cyfradd sero yw lle nad yw'r data a ddefnyddir gan wefannau neu apiau penodol yn cael ei gyfrif tuag at lwfans data cyffredinol cwsmer. Mae ein canllawiau diweddaraf yn egluro y byddwn fel arfer yn caniatáu'r cynigion hyn, gan nodi'r amgylchiadau cyfyngedig lle gallai fod gennym bryderon.