Y sefydliadau rydym yn cydweithio â nhw

Cyhoeddwyd: 18 Ionawr 2024

Ofcom has statutory responsibility for the regulation of advertising on broadcast television and radio services, on-demand programme services, video-sharing platforms and for the online advertising of less healthy food and drink products. Ofcom shares this responsibility with the Advertising Standards Authority (ASA). Details of these co-regulatory arrangements are set out in the documents below.

Ofcom has also signed a memorandum of understanding with the ASA and the Committee of Advertising Practice (CAP), which establishes an informal framework for cooperation and information sharing between the three organisations in relation to the communications industries (including telecommunications and postal services).

Ar y cyd, mae CMA, ICO, FCA ac Ofcom wedi ffurfio'r Fforwm Cydweithredu ar Reoleiddio Digidol (DRCF) i gefnogi cydlynu wrth reoleiddio mewn gwasanaethau ar-lein, a chydweithredu ar feysydd o bwys cydfuddiannol.

Sefydlwyd EPRA ym 1995 wrth ymateb i'r angen am gydweithredu cynyddol rhwng awdurdodau rheoleiddio yn Ewrop. Gyda'i 20 mlynedd o brofiad a rhwydwaith cadarn o gysylltiadau lefel weithio, EPRA yw'r rhwydwaith hynaf a mwyaf o reoleiddwyr darlledu ac yn fforwm delfrydol ar gyfer cyfnewid gwybodaeth, achosion ac arferion gorau rhwng rheoleiddwyr darlledu yn Ewrop.

Mae Ofcom a'r Ganolfan Diogelwch Seiber Genedlaethol wedi cyhoeddi datganiad ar y cyd yn nodi sut y byddan nhw'n gweithio gyda'i gilydd o dan y Mesur Telegyfathrebiadau (Diogelwch) newydd, sy'n pasio trwy Senedd y DU ar hyn o bryd.

Joint statement from Ofcom and the National Cyber Security Centre – Telecoms Security Bill (PDF, 139.9 KB) (Saesneg yn unig)

Mae'r Comisiynydd Gwybodaeth ac Ofcom wedi llofnodi memorandwm o ddealltwriaeth sy'n sefydlu fframwaith ar gyfer cydweithredu a rhannu gwybodaeth rhwng y dau sefydliad

Memorandum of Understanding between the Information Commissioner and Ofcom (PDF, 249.3 KB) (Saesneg yn unig)

Mae Ofcom wedi dod ynghyd â rheoleiddwyr eraill i ffurfio Rhwydwaith Rheoleiddwyr y DU (UKRN).

Nod UKRN yw gwella cydweithio ar draws sectorau a reoleiddir, gan alluogi aelodau i gydweithio'n agosach ar faterion o bwys traws-sectoraidd, ac ar yr un pryd cynnal eu statws annibynnol.

Mae UKRN yn darparu'r strwythur i reoleiddwyr gyflawni prosiectau polisi unigryw, sy'n cyfuno eu cryfderau ac yn eu cynorthwyo i ddarparu budd i randdeiliaid, gan gynnwys defnyddwyr a buddsoddwyr.

Cydnabyddir natur amrywiol y sectorau y mae'r sefydliadau sy'n aelodau yn eu rheoleiddio ac mae'r gwaith y mae UKRN wedi'i wneud hyd yma wedi nodi meysydd penodol lle gall yr holl reoleiddwyr sicrhau gwell canlyniadau gyda'i gilydd.

Mae cynllun gwaith UKRN ar gyfer 2020/21 yn nodi tair blaenoriaeth strategol:

  • Gwella deilliannau i ddefnyddwyr sy'n agored i niwed neu ag anghenion ychwanegol
  • Addasu ein hymagwedd at reoleiddio lle y bo'n briodol i gefnogi'r arloesedd a'r buddsoddiad sy'n angenrheidiol ar gyfer adferiad economaidd, gwydnwch a thwf
  • Cryfhau galluoedd rheoleiddio ar y cyd i ymateb i heriau a rennir yn awr ac yn y dyfodol

Mae UKRN yn cynnwys y sefydliadau a ganlyn:

Mae Gwella'r GIG, y rheoleiddiwr sector ar gyfer iechyd, yn cymryd rhan yn y rhwydwaith a'i brosiectau fel y bo'n briodol. Mae Comisiwn Diwydiant Dŵr Yr Alban (WICS) a'r Bwrdd Gwasanaethau Cyfreithiol (BGLl) yn aelodau sy'n cyfrannu sy'n cymryd rhan fel arfer fel arsylwyr.

Yn ôl i'r brig