Cysylltu ag Ofcom

Cyhoeddwyd: 11 Mawrth 2024

Gwneud cwyn ar-lein

Gallwch wneud cwyn am wasanaethau ffôn neu'r rhyngrwyd, rhaglenni teledu neu radio, ymyriant i ddyfeisiau di-wifr, neu am rywbeth rydych chi wedi'i weld ar lwyfan rhannu fideos.

Rhifau ffôn Ofcom

Adran

Rhif ffôn

Llinell laith Gymraeg - Cyngor a Chwynion

0300 123 2023

Cyngor a Chwynion (Saesneg)

0300 123 3333 neu 020 7981 3040

Trwyddedu Sbectrwm

0300 123 1000 neu 020 7981 3131

Gwneud Rhaglenni a Digwyddiadau Arbennig

020 7981 3803

Switsfwrdd

0300 123 3000 neu 020 7981 3000

Swyddfa’r Alban

0131 220 7300

Swyddfa Cymru

029 2046 7200

Swyddfa Gogledd Iwerddon

028 9041 7500

Gweler ein canllaw ar gostau galwadau i gael syniad faint mae’n costio i ffonio’r rhifau hyn.

Os oes gennych chi ffôn testun a’ch bod am ein ffonio ni’n uniongyrchol, ffoniwch 020 7981 3043 neu 0300 123 2024. Dim ond ar gyfer galwadau rhwng ffonau testun y mae’r rhifau hyn yn gweithio.

Os hoffech chi gysylltu ag Ofcom ar ein llinell ffôn Gymraeg, ffoniwch ni ar 0300 123 2023.

I gysylltu â ni gan ddefnyddio Iaith Arwyddion Prydain, defnyddiwch ein gwasanaeth cyfnewid fideo.

I gysylltu â ni ar y cyfryngau cymdeithasol, mae gennym ni gyfrifon TwitterFacebook ac Instagram.

Rydyn ni’n gweithredu’r rhifau ffôn a’r sianeli hyn rhwng 9.00am a 5.00pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Gwneud cwyn drwy’r post

Er ei fod yn haws i ni dderbyn eich cwyn ar-lein neu dros y ffôn, gallwch wneud cwyn i ni yn ysgrifenedig os dymunwch. Y cyfeiriad yw:

Blwch Post 1285
Warrington
WA1 9GL

Ar gyfer cwynion lle tybiwch y cawsoch chi neu eich sefydliad ei drin yn annheg ac/neu y tarfwyd ar eich preifatrwydd chi neu eu preifatrwydd nhw mewn rhaglen, gyrrwch lythyr yn uniongyrchol i 'Cwynion Tegwch a Phreifatrwydd Ofcom' yng nghyfeiriad ein prif swyddfa isod.

Prif swyddfa

Ofcom
Riverside House
2a Southwark Bridge Road
Llundain
SE1 9HA

Switsfwrdd: 0300 123 3000 or 020 7981 3000

Os ydych chi’n ddarparwr cyfathrebu sydd eisiau gwneud cais am rifau ffôn, edrychwch ar ein tudalennau rhifau neu gallwch gysylltu â Thîm Rhifau Ofcom drwy ein switsfwrdd.

Ymholiadau trwyddedu darlledu

Os oes angen help arnoch chi gyda'ch trwydded darlledu radio a theledu, cysylltwch â: broadcast.licensing@ofcom.org.uk

Ymholiadau trwyddedu sbectrwm

Os oes gennych chi ymholiad ynghylch trwyddedau sbectrwm, cysylltwch â Thrwyddedu Sbectrwm ar 0300 123 1000 neu 020 7981 3131.

Rydyn ni ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9.00am a 5.00pm.

E-bost: spectrum.licensing@ofcom.org.uk

Ymholiadau Cynhyrchu Rhaglenni a Digwyddiadau Arbennig

PMSE Licensing,
Riverside House,
2a Southwark Bridge Road,
Llundain
SE1 9HA

Ffôn: 020 7981 3803.

Ffacs: 020 7981 3235
E-bost: pmse@ofcom.org.uk

Rydyn ni ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9.00am a 5.00pm.

Os oes angen help arnoch chi ar frys y tu allan i oriau swyddfa, cysylltwch â’n cydlynydd brys y tu allan i oriau swyddfa ar 07866 423 619. Cofiwch y bydd pob cais y bydd y cydlynydd brys yn ei gwblhau y tu allan i oriau swyddfa yn arwain at ffi weinyddol o £55 ar ben ffi’r drwydded.

Er mwyn cysylltu â swyddfeydd Ofcom yn y gwledydd ac yn rhanbarthau Lloegr, edrychwch ar adran Ofcom yn y gwledydd a’r rhanbarthau ein gwefan.

Os ydych chi’n newyddiadurwr neu’n ddadansoddwr, cysylltwch â’n Swyddfa Cyfryngau yn uniongyrchol.

Os ydych yn Seneddwr neu'n gweithio yn swyddfa Seneddwr, cysylltwch â'n tîm Polisi Cyhoeddus yn uniongyrchol..

Os ydych chi eisiau gwneud cais am wybodaeth o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, llenwch ein ffurflen cais am wybodaeth.

Rhagor o arweiniad am gael gafael ar wybodaeth

Cofrestrwch i gael diweddariadau e-bost a'r newyddion a chyhoeddiadau diweddaraf gan Ofcom.

Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw ddolenni diffygiol neu'n profi anhawster wrth ddefnyddio ein gwefan, gallwch gysylltu â'r tîm digidol.

Os yw'r mater yn ymwneud â'r porth amatur a thrwyddedau radio'r llongau, ffoniwch y tîm Trwyddedau Sbectrwm ar 0300 123 1000 neu 020 7981 3131, neu ebostiwch: spectrum.licensing@ofcom.org.uk

Mae proses dau gam i chi ei dilyn os ydych yn ystyried bod gweithwyr Ofcom:

  • wedi methu â dilyn gweithdrefnau Ofcom yn gywir; ac/neu
  • wedi methu ag ymdrin â'u cyswllt â chi'n briodol.

Cam un

Dylech chi gysylltu â'r gweithwyr yn Ofcom sy'n ymdrin â'ch cyswllt. Mae hyn rhoi cyfle iddynt ymchwilio i'ch pryderon a, phan fydd angen, cywiro pethau.

Cam dau

Os, ar ôl i chi gysylltu â'r gweithwyr hyn, yr ydych yn credu bod tystiolaeth o gamarfer a bod hyn yn parhau heb ei ddatrys gan y tîm gwreiddiol, gallwch chi ofyn i Ysgrifennydd Corfforaeth Ofcom adolygu'r mater.

Wrth ddarparu gwasanaeth yn y Gymraeg, rydym yn ceisio sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei thrin yn ddim llai ffafriol na'r Saesneg.

Gellir dod o hyd i wybodaeth bellach am hyn yma. Os ydych am wneud cwyn ynghylkch gwaith Ofcom yn y maes hwn, gofynnir i chi lenwi a chwblhau ein ffurflen gwyno ar-lein. Byddwn yn adolygu eich achos ac yn ymateb mor fuan â phosibl.

Rate this page

Thank you for your feedback.

We read all feedback but are not able to respond. If you have a specific query you should see other ways to contact us.

Was this page helpful?
Yn ôl i'r brig