Ofcom yng Nghymru

Cyhoeddwyd: 8 Rhagfyr 2023

Mae'r tîm yn Ofcom Cymru yn cynrychioli Ofcom yng Nghymru a Chymru o fewn Ofcom – yn rheoli cysylltiadau a chyfathrebiadau gyda'r cyhoedd ac ystod eang o randdeiliaid y diwydiant, yn cynnwys gwleidyddion, darlledwyr a'r cyfryngau.

Mae'r tîm yn ymdrin â holl agweddau cylch gwaith Ofcom ac yn cynnig mewnbwn a chyngor am faterion sy'n ymwneud â Chymru i dimoedd polisi a phrosiect ar draws y sefydliad. Mae gan Gymru gynrychiolaeth ar Fwrdd Cynnwys Ofcom a'i Phwyllgor Cynghori ei hunan.

Drwy weithgareddau ymgynghori dwys, amrywiaeth o ddigwyddiadau a chysylltiadau gwaith cryf gyda rhanddeiliaid, mae'r tîm ar flaen y gad yn ei ddealltwriaeth o anghenion y diwydiant, defnyddwyr a dinasyddion yng Nghymru.

Eleanor Marks, Cyfarwyddwr, Cymru

Eleanor sy'n gyfrifol am holl agweddau gwaith Ofcom yng Nghymru. Mae'n gweithio gyda chydweithwyr ar draws y sefydliad i sicrhau bod Ofcom yn gwbl effeithiol yn cyflawni ei amcanion yng Nghymru yn ogystal â chyfrannu at ei effeithiolrwydd yn ymdrin â rhanddeiliaid, rheoli cysylltiadau allanol a materion cyhoeddus. I gysylltu ag Eleanor: eleanor.marks@ofcom.org.uk

Elinor Williams, Pennaeth, Materion Rheoleiddiol

Mae Elinor yn gofalu am randdeiliaid Ofcom yng Nghymru ac yn cydlynu rhaglen greadigol o ddigwyddiadau i ymgysylltu gyda'r sawl sydd â diddordeb yng ngwaiith Ofcom. Hi sy'n rheoli'r holl gyfathrebiadau gyda'r wasg a'r cyfryngau yn ogystal â chyfathrebu gyda gwleidyddion a gweision sifil Cymru. Elinor hefyd sy'n goruchwylio gweithgareddau iaith Gymraeg Ofcom. I gysylltu ag Elinor: elinor.williams@ofcom.org.uk

Meleri Evans, Rheolwr Materion Rheoleiddiol, Cymru

Mae Meleri yn gweithio ar draws yr holl feysydd polisi i helpu sicrhau bod Ofcom yn gallu cyflawni ei amcanion yn effeithiol. Yn ogystal, mae hi'n canolbwyntio ar fonitro gwleidyddol a chysylltiadau gyda rhanddeiliaid allweddol yn Nghymru. I gysylltu â Meleri: meleri.evans@ofcom.org.uk

David Symons, Swyddog Iaith Gymraeg

David yw ein Swyddog yr Iaith Gymraeg. Mae e'n cefnogi ein gweithgareddau Cymraeg ac yn rheoli anghenion cyfieithu Ofcom. I gysylltu â David: david.symons@ofcom.org.uk

Liz Nash, Cynorthwyydd Materion Rheoleiddiol

Mae Liz yn goruchwylio holl agweddau gweinyddol, cyfleusterau, cyllid a rheoli swyddfa yng Nghaerdydd a chyflawni gwaith gweinyddol ar gyfer tîm Ofcom Cymru. I gysylltu â Liz: liz.nash@ofcom.org.uk

Mae Pwyllgor Cynghori Cymru yn rhoi cyngor i Ofcom am ddiddordebau a safbwyntiau pobl yng Nghymru am bynciau sy'n ymwneud â materion cyfathrebu. Ceir rhagor o wybodaeth am y pwyllgor ar y dudalen am y Pwyllgor a'i aelodau.

Rydym yn falch o'n hymrwymiad i'r Gymraeg a'r ffordd yr ydym yn ei hintegreiddio i'n gwaith. Mae mwy o wybodaeth ar gael am ein gwaith yn y Gymraeg.

Yn ôl i'r brig