Mae Bwrdd Ofcom yn darparu cyfeiriad strategol ar gyfer y sefydliad.
Mae ganddo Gadeirydd Anweithredol, Cyfarwyddwyr Gweithredol (gan gynnwys y Prif Weithredwr) a Chyfarwyddwyr Anweithredol.
Mae'r Weithrediaeth yn rhedeg y sefydliad ac maent yn atebol i’r Bwrdd.
Mae Bwrdd Ofcom yn cwrdd o leiaf deng waith y flwyddyn. Caiff agendâu, nodiadau cryno a chofnodion eu cyhoeddi ar wefan Ofcom yn rheolaidd.
Aelodau Bwrdd
Yn hanesyddol mae’r trefniadau rheoleiddio ar gyfer darlledu, telathrebu a rheoli sbectrwm wedi cynnwys amrywiaeth eang o fodelau llywodraethu.
Mae’r rhain wedi cynnwys goruchwyliaeth gan Gomisiwn a benodir gan y Llywodraeth, gan Gyfarwyddwr Cyffredinol a gan Asiantaeth o’r Llywodraeth.
Mae strwythur llywodraethu Ofcom yn wahanol. Mae’n seiliedig ar fodel sy’n gyfarwydd i’r sector masnachol ond sy’n wahanol i’r gorffennol.
Mae gan Ofcom Fwrdd gyda Chadeirydd ac aelodau gweithredol ac anweithredol. Mae’r Pwyllgor Gwaith yn rhedeg y sefydliad ac yn atebol i’r Bwrdd, ac mae nifer o gyrff cynghori yn cyfrannu at waith y Bwrdd a’r Pwyllgor Gwaith.
Bwrdd Ofcom sy’n rhoi cyfeiriad strategol i Ofcom. Dyma’r prif offeryn rheoleiddio statudol sydd â swyddogaeth hollbwysig o ran gweithredu Deddf Cyfathrebiadau 2003 yn effeithiol.
Mae aelodaeth Bwrdd Ofcom yn cael ei gyhoeddi a gall gynnwys hyd at ddeuddeg aelod. Mae'r nifer hwn yn cynnwys Prif Weithredwr Ofcom a hyd at dri aelod o'r Tîm Gweithredol.
Mae Bwrdd Ofcom yn cwrdd o leiaf unwaith y mis (ar wahân i fis Awst). Bydd agendâu a nodiadau cyfarfodydd yn cael eu cyhoeddi’n rheolaidd ar wefan Ofcom.
Mae gan y Bwrdd swyddogaeth lywodraethu ganolog, sy’n golygu ei fod yn goruchwylio dyletswyddau cyffredinol Ofcom a’i gyfrifoldebau statudol penodol ac yn sicrhau eu bod yn cael eu cyflawni, yn ogystal â sicrhau ei fod yn glynu wrth ethos sefydliad gwasanaeth cyhoeddus. Mae’r Bwrdd hefyd yn goruchwylio cyllid a gwariant y Bwrdd yn gyffredinol.
Mae’r Bwrdd yn gweithio ar y cyd. Fel y corff sy’n gyfrifol am reoli cyfeiriad strategol Ofcom, mae’r Bwrdd wedi cytuno y bydd ei aelodau’n dilyn yr egwyddorion canlynol:
- Bydd y Bwrdd yn gweithredu ar sail egwyddorion cydgyfrifoldeb, cydgefnogaeth a pharch.
- Dylai aelodau’r Bwrdd allu cael gafael ar yr holl wybodaeth angenrheidiol i sicrhau y ceir dadleuon cadarn ac y gwneir penderfyniadau effeithiol.
- Ym mhob sefyllfa, pennir y bydd holl aelodau’r Bwrdd wedi cytuno â phob penderfyniad.
- Ni fydd pwysau allanol yn newid prosesau’r Bwrdd ac eithrio ar gyfer amserlenni posibl.
- Mae disgwyl i ymddygiad aelodau’r Bwrdd mewn ymateb i benderfyniadau fod yr un fath y tu mewn a’r tu allan i Ofcom.
- Ni fydd safbwyntiau lleiafrif yn cael eu gwneud yn gyhoeddus yn fewnol nac yn allanol.
- Efallai y bydd gofyn i aelodau’r Bwrdd a enwebir (ar wahân i’r rheini a oedd yn anghytuno â phenderfyniad) egluro a mynegi penderfyniadau penodol.
- Os bydd aelod o’r Bwrdd yn ymddiswyddo, caiff ddatgan y rheswm dros yr anghytuno, ond ni chaiff ailadrodd dadleuon aelodau eraill y Bwrdd yn gyhoeddus.
Yn hanesyddol mae’r trefniadau rheoleiddio ar gyfer darlledu, telegyfathrebiadau a rheoli sbectrwm wedi cynnwys amrywiaeth eang o fodelau llywodraethu.
Mae’r rhain wedi cynnwys goruchwyliaeth gan Gomisiwn a benodir gan y Llywodraeth, gan Gyfarwyddwr Cyffredinol a gan Asiantaeth o’r Llywodraeth.
Mae strwythur llywodraethu Ofcom yn wahanol. Mae’n seiliedig ar fodel sy’n gyfarwydd i’r sector masnachol ond sy’n wahanol i’r gorffennol.
Mae gan Ofcom Fwrdd gyda Chadeirydd ac aelodau gweithredol ac anweithredol. Mae’r Weithrediaeth yn rhedeg y sefydliad ac yn atebol i’r Bwrdd, ac mae nifer o gyrff cynghori yn cyfrannu at waith y Bwrdd a’r Weithrediaeth.
Bwrdd Ofcom sy’n rhoi cyfeiriad strategol i Ofcom. Dyma’r prif offeryn rheoleiddio statudol sydd â swyddogaeth hollbwysig o ran gweithredu Deddf Cyfathrebiadau 2003 yn effeithiol.
Cyhoeddir aelodaeth Bwrdd Ofcom a gall gynnwys hyd at ddeuddeg aelod. Mae'r rhif hwn yn cynnwys Prif Weithredwr Ofcom a hyd at dri aelod o’r Weithrediaeth.
Mae Bwrdd Ofcom yn cwrdd o leiaf unwaith y mis (ar wahân i fis Awst). Bydd agendâu a nodiadau cyfarfodydd yn cael eu cyhoeddi’n rheolaidd ar wefan Ofcom.
Mae gan y Bwrdd swyddogaeth lywodraethu ganolog, sy’n golygu ei fod yn goruchwylio dyletswyddau cyffredinol Ofcom a’i gyfrifoldebau statudol penodol ac yn sicrhau eu bod yn cael eu cyflawni, yn ogystal â sicrhau ei fod yn glynu wrth ethos sefydliad gwasanaeth cyhoeddus. Mae’r Bwrdd hefyd yn goruchwylio cyllid a gwariant y Bwrdd yn gyffredinol.
Mae’r Bwrdd yn gweithio ar y cyd. Fel y corff sy’n gyfrifol am reoli cyfeiriad strategol Ofcom, mae’r Bwrdd wedi cytuno y bydd ei aelodau’n dilyn yr egwyddorion canlynol:
- Bydd y Bwrdd yn gweithredu ar sail egwyddorion cydgyfrifoldeb, cydgefnogaeth a pharch.
- Dylai aelodau’r Bwrdd allu cael gafael ar yr holl wybodaeth angenrheidiol i sicrhau y ceir dadleuon cadarn ac y gwneir penderfyniadau effeithiol.
- Ym mhob sefyllfa, pennir y bydd holl aelodau’r Bwrdd wedi cytuno â phob penderfyniad.
- Ni fydd pwysau allanol yn newid prosesau’r Bwrdd ac eithrio ar gyfer amserlenni posibl.
- Mae disgwyl i ymddygiad aelodau’r Bwrdd mewn ymateb i benderfyniadau fod yr un fath y tu mewn a’r tu allan i Ofcom.
- Ni fydd safbwyntiau lleiafrif yn cael eu gwneud yn gyhoeddus yn fewnol nac yn allanol.
- Efallai y bydd gofyn i aelodau’r Bwrdd a enwebir (ar wahân i’r rheini a oedd yn anghytuno â phenderfyniad) egluro a mynegi penderfyniadau penodol.
- Os bydd aelod o’r Bwrdd yn ymddiswyddo, caiff ddatgan y rheswm dros yr anghytuno, ond ni chaiff ailadrodd dadleuon aelodau eraill y Bwrdd yn gyhoeddus.
Bydd y Bwrdd yn cwrdd ar y dyddiadau canlynol:
19 Gorffennaf 2023
20 Medi 2023
18 Hydref 2023
15 Tachwedd 2023
13 Rhagfyr 2023
7 Chwefror 2024
13 Mawrth 2024
17 Ebrill 2024
22 Mai 2024
19 Mehefin 2024
17 Gorffennaf 2024
25 Medi 2024
16 Hydref 2024
13 Tachwedd 2024
11 Rhagfyr 2024
Mae'r cynnwys isod ar gael yn Saesneg yn unig,
Ein polisi ni yw i gadw cofnodion y bwrdd a phwyllgor ar ein gwefan am ddwy flynedd yn unig. Gallwch ddod o hyd i gofnodion hŷn ar wefan yr Archif Genedlaethol.
Mae'r cynnwys isod ar gael yn Saesneg yn unig.