Panel y Gronfa Radio Cymunedol

Cyhoeddwyd: 2 Tachwedd 2023
Diweddarwyd diwethaf: 25 Mehefin 2024

Mae Panel y Gronfa Radio Cymunedol yn cwrdd fel bo angen i archwilio ceisiadau a gwneud dyfarniadau o'r Gronfa Radio Cymunedol.

Mae Adran 359 Deddf Cyfathrebiadau 2003 yn ei wneud yn bosib i gronfa ar gyfer gweithredwyr radio cymunedol gael eu sefydlu, ac i Ofcom ei gweinyddu a "gwneud y cyfryw grantiau y mae'n pennu eu bod yn briodol" i drwyddedeion radio cymunedol.

Mae Llywodraeth y DU (yn benodol yr Adran dros Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon) yn darparu swm o arian sydd i'w ddosbarthu i orsafoedd radio cymunedol trwy gronfa o'r fath. Dim ond deiliaid trwydded radio cymunedol all ymgeisio am grant gan y Gronfa hon.

Mae Ofcom wedi sefydlu Panel y Gronfa Radio Cymunedol i gwrdd fel y bo angen i archwilio ceisiadau a gwneud dyfarniadau o'r Gronfa.

Mae'r ddogfen isod ar gael yn Saesneg yn unig.

Terms of reference for the Community Radio Fund Panel (PDF, 155.3 KB)

Bydd agendâu cyfarfodydd yn cael eu cyhoeddi yma.

Ein polisi yw cadw cofnodion byrddau a phwyllgorau ar ein gwefan am ddwy flynedd yn unig. Gellir cael mynediad i gofnodion hŷn trwy'r Archifau Cenedlaethol.

Bydd nodiadau cyfarfodydd blaenorol y Panel yn cael eu cyhoeddi yma.

Ein polisi yw cadw nodiadau byrddau a phwyllgorau ar ein gwefan am ddwy flynedd yn unig. Gellir cael mynediad i nodiadau hŷn trwy'r Archifau Cenedlaethol.

Mae Panel y Gronfa Radio Cymunedol yn cynnwys dau Aelod Anweithredol ac un Aelod Gweithredol. Dyma’r aelodau:

Mark Jones (Cadeirydd)

Mae gan Mark brofiad helaeth o adrodd, cynhyrchu a rheoli ar y radio. Yn y 1980au, bu’n gweithio i sefydlu a chefnogi grwpiau radio cymunedol bach ledled y DU yn ogystal â lobïo dros newid yng nghyfraith darlledu’r DU. Ymunodd â’r BBC i dreialu radio lleol ar raddfa fach yn ardal Birmingham cyn arwain y tîm sy’n gwneud rhaglenni optio allan yn ne Cumbria. Ef oedd gohebydd rhanbarthol BBC Radio Five Live yng ngogledd orllewin Lloegr am dros ddegawd.

Yn fwyaf diweddar, roedd Mark yn Olygydd Cynorthwyol yn BBC Radio Gloucestershire, gan gyfuno cyfrifoldebau rhaglennu, ariannol a rheoli.

Ymunodd Mark â’r Panel ar 1 Tachwedd 2021. Mae ei benodiad yn parhau tan 31 Hydref 2024.

Clare McNally-Luke

Clare yw Pennaeth Ymchwil Sain a Mewnwelediad yn y Grŵp Strategaeth ac Ymchwil yn Ofcom. Dechreuodd ei gyrfa yn gweithio ym maes Radio Masnachol yn Metro Radio Group / Emap plc. Yna, symudodd Clare i'r BBC lle'r oedd yn gweithio ym Mhencadlys Radio a Cherddoriaeth gan weithio gyda Chyfarwyddwr BBC Radio a'r tîm rheoli ar strategaeth a pherfformiad cyffredinol. Mae Clare yn awyddus i fod yn rhan o'r sector pwysig hwn o'r diwydiant radio sy'n canolbwyntio ar ymgysylltu'n agos â'r gymuned.

Ymunodd Clare â'r Panel ar 1 Ebrill 2024. Mae ei phenodiad yn parhau tan 31 Mawrth 2027.

Alan Stewart

Mae gan Alan brofiad sylweddol o reoleiddio darlledu ac yn fwy diweddar o redeg elusennau yn y gymuned. Roedd yn Bennaeth y Comisiwn Teledu Annibynnol yn yr Alban cyn symud i’r Swyddfa Gyfathrebiadau ddiwedd 2003 fel Pennaeth Darlledu’r Alban. Roedd yn gyfrifol am gysylltiadau â darlledwyr, gan gynnwys trwyddedigion radio cymunedol. Ar ôl gadael cyflogaeth lawn amser gydag Ofcom yn 2018, bu’n gweithio am gyfnod fel cyfarwyddwr annibynnol ei ymddiriedolaeth gymunedol leol ac ar hyn o bryd mae’n aelod o fwrdd elusen amgylcheddol. Mae ganddo ddiddordeb hefyd mewn darpariaeth ieithoedd lleiafrifol ar ôl bwrw ymlaen â chyfrifoldebau statudol Ofcom dros ddarlledu Gaeleg ac wedyn gwneud gwaith ymgynghori mewn maes cysylltiedig. Mae’n ddarlithydd gwadd achlysurol mewn prifysgolion yn yr Alban ar bynciau rheoleiddio a defnyddio’r cyfryngau.

Daeth Alan yn Aelod o’r Panel ar 1 Ebrill 2021. Mae ei benodiad yn parhau tan 31 Mawrth 2026.

Yn ôl i'r brig