Mae Ofcom yn rheoleiddiwr sy'n seilio ei waith ar dystiolaeth, felly mae ymchwil i'r farchnad yn bwysig i ni. Caiff llawer o'n penderfyniadau eu cyferio gan dystiolaeth o ymchwil, ac mae ein hymchwil i'r farchnad yn sicrhau bod gennym ddealltwriaeth drylwyr, gadarn a diweddar o ddefnyddwyr yn y DU.
Ymchwil i'r farchnad
Rydym yn gweithio gydag asiantaethau ymchwil y farchnad annibynnol i gynnal ymchwil ymhlith defnyddwyr yr holl wasanaethau cyfathrebu, a chyda chyflenwyr arbenigol mewn meysydd megis cywain data ar y cyflymder band eang llinell sefydlog a symudol y bydd defnyddwyr yn eu derbyn mewn gwirionedd.
Ein harolygon tracio parhaus
Mae gennym nifer o arolygon tracio rheolaidd a chylchol a gynhelir unwaith y flwyddyn neu'n amlach, i roi data cyfres amser i ni am ymddygiad ac agweddau defnyddwyr mewn perthynas â dyfeisiau a gwasanaethau cyfathrebu. Mae'r arolygon tracio yn bwydo i mewn i amrywiaeth eang o gyhoeddiadau a phrosiectau Ofcom, a gellir gweld yr holl ddatganiadau data yn y calendr datganiadau ystadegol, ac ym mhorth data agored Ofcom.
We are confirming the change to the frequency of Ofcom’s Comparing Customer Service Trackers, which will now be conducted biennially and will next be run in Q4 2024, for publication in 2025.
The three Comparing Customer Service (CCS) trackers – the Customer Satisfaction Tracker, the Reason to Complain Tracker and the Complaints Handling Tracker – provide Ofcom with data about customer satisfaction levels and satisfaction with complaints handling processes across the residential landline, mobile, fixed broadband and pay-TV services, and how these compare by provider and over time.
For more information about this change, please read our CCS confirmation of changes document (PDF, 90.5 KB).
We are confirming the change to the frequency of Ofcom’s Comparing Customer Service Trackers, which will now be conducted biennially and will next be run in Q4 2024, for publication in 2025.
The three Comparing Customer Service (CCS) trackers – the Customer Satisfaction Tracker, the Reason to Complain Tracker and the Complaints Handling Tracker – provide Ofcom with data about customer satisfaction levels and satisfaction with complaints handling processes across the residential landline, mobile, fixed broadband and pay-TV services, and how these compare by provider and over time.
For more information about this change, please read our CCS confirmation of changes document (PDF, 90.5 KB).
Rydym yn cadarnhau'r newid i amlder Offeryn Tracio Newid Darparwr Ofcom, a fydd nawr yn cael ei gynnal bob dwy flynedd ac a fydd yn rhedeg nesaf yn 2025.
Mae'r Offeryn Tracio Newid Darparwr yn ffynhonnell ddata allweddol ar gyfer Ofcom ar lefelau newid darparwr, agweddau a phrofiadau ar draws y marchnadoedd cyfathrebu (llinell dir sefydlog, symudol, band eang sefydlog a theledu aml-sianel/teledu-drwy-dalu). Ers 2010, mae Ofcom wedi cynnal yr astudiaeth dracio hon yn flynyddol gydag oedolion yn y DU i fesur lefelau cyfranogiad, cyfraddau newid a rhwyddineb newid ym mhob marchnad.
Am fwy o wybodaeth am y newid hwn, darllenwch ein cadarnhad o newidiadau (PDF, 127.0 KB) (Saesneg yn unig).
Research for our regular annual publications
Our annual publications such as the Communications Market Report, the Online Nation report, the Comparing Service Quality report, the Connected Nations report, Media Nations report and our media literacy reports, use data collected from our tracker surveys, as well as data that we collect directly from broadcasters and telecoms operators as part of our regulatory duties, and third-party data that we buy from specialist providers.
Ymchwil ar gyfer ein cyhoeddiadau blynyddol rheolaidd
Mae ein cyhoeddiadau blynyddol megis Adroddiad y Farchnad Gyfathrebu, adroddiad Ein Gwlad Ar-lein, adroddiad Cymharu Ansawdd Gwasanaeth, adroddiad Cysylltu'r Gwledydd, adroddiad Cyfryngau'r Genedl a'n hadroddiadau llythrennedd y cyfryngau, yn defnyddio data a gasglwyd o'n harolygon tracio, yn ogystal â data a gasglwn yn uniongyrchol gan ddarlledwyr a gweithredwyr telathrebu fel rhan o'n dyletswyddau rheoleiddio, ynghyd â data trydydd parti a brynwn gan ddarparwyr arbenigol.
Ymchwil ad-hoc gyda defnyddwyr
Rydym hefyd yn comisiynu darnau penodol o ymchwil wrth ymateb i bynciau newydd sy'n codi yn y marchnadoedd a reoleiddiwn, ac mewn perthynas â phryderon newidiol neu ddatblygol defnyddwyr. Ymysg enghreifftiau diweddar (2019) mae ymchwil i niwed ar-lein a gwefru ffonau symudol.
Cywain data
Mae ein tîm gwybodaeth y farchnad yn cywain ac yn dadansoddi gwybodaeth o'r diwydiant; yn uniongyrchol, drwy ddefnyddio ein pŵer i wneud ceisiadau ffurfiol; ac yn anuniongyrchol, drwy ddefnyddio ffynonellau gwybodaeth trydydd parti. Mae'n monitro ac yn dehongli datblygiadau yn y farchnad a thueddiadau'r diwydiant, ar draws y sectorau cyfryngau a thelathrebu a diwydiannau perthnasol eraill, ar lefelau cwmnïau, sectorau, y DU a thramor. Rydym yn cyhoeddi diweddariadau data telathrebu chwarterol ac ystadegau cwynion telathrebu a theledu drwy dalu, a data cyflymder band eang.
Ble gallaf ddod o hyd i gyhoeddiadau ymchwil a data Ofcom?
Rydym yn cyhoeddi ein hymchwil, fel y gall pawb, gan gynnwys rhanddeiliaid y diwydiant a defnyddwyr, elwa ohono. Gallwch chwilio ein cyhoeddiadau ymchwil ar ein gwefan. Rydym hefyd yn cyhoeddi cymaint â phosibl o'n data crai fel data agored, mewn fformatau .csv ac agored tebyg. Mae tudalen 'Ffeithiau Cyflym', y gellir cyfeirio ati'n gyflym, hefyd.