Fel rheoleiddiwr cyfathrebiadau'r DU, mae Ofcom yn derbyn cwynion gan gwsmeriaid am eu gwasanaethau llinell dir, band eang sefydlog, symudol talu'n fisol a theledu-trwy-dalu.
Er mwyn deall yn well y rhesymau dros anfodlonrwydd ymhlith cwsmeriaid preswyl yn ein sectorau, rydym yn cydgrynhoi'r data hwnnw ac yn pennu nifer y cwynion a dderbyniwyd fesul darparwr a fesul gwasanaeth. Er mwyn cymharu perfformiad darparwyr, bob chwarter rydym yn cyhoeddi nifer y cwynion a dderbyniom amdanynt yn berthynol i faint eu sylfaen cwsmeriaid (h.y. fesul 100,000 o gwsmeriaid).
Tueddiadau cyffredinol
Yn y chwarter rhwng Gorffennaf a Medi 2023 (Ch3 2023), cododd cwynion i Ofcom ychydig o gymharu â’r chwarter blaenorol (Ch2 2023: Ebrill i Mehefin 2023). Cododd cwynion am linell sefydlog, band eang sefydlog a theledu-drwy-dalu i gyd ers y chwarter blaenorol ac arhosodd cwynion am symudol talu'n fisol ar lefelau tebyg.
- Virgin Media oedd y darparwr band eang, llinell dir a theledu-drwy-dalu y cwynwyd fwyaf amdano, gan weld cynnydd sylweddol ar draws yr holl feysydd hyn o gymharu â’r chwarter blaenorol. Roedd cwynion cwsmeriaid wedi'u hysgogi'n bennaf gan y ffordd yr ymdriniwyd â'u cwynion.
- Heblaw Virgin Media, derbyniodd NOW Broadband a TalkTalk fwy o gwynion na chyfartaledd y diwydiant ar gyfer llinell dir, a derbyniodd NOW Broadband fwy o gwynion na chyfartaledd y diwydiant ar gyfer band eang.
- Sky unwaith eto a gynhyrchodd y lleiaf o gwynion fesul 100,000 o danysgrifwyr ar gyfer band eang a llinell dir.
- TalkTalk a Sky oedd y darparwyr teledu-drwy-dalu y cwynwyd leiaf amdanynt y chwarter hwn, gan dderbyn y nifer lleiaf o gwynion fesul 100,000 o danysgrifwyr.
- O2 a BT Mobile oedd y gweithredwyr symudol y cwynwyd fwyaf amdanynt, gyda chwynion am O2 yn cael eu hysgogi'n bennaf gan y ffordd yr ymdriniwyd â chwynion cwsmeriaid a chwynion am BT yn cael eu hysgogi gan brofiadau cwsmeriaid o newid darparwr. Sky Mobile, EE a Vodafone a gynhyrchodd y lleiaf o gwynion yn y sector symudol.
Gweler isod am wybodaeth ynghylch cymaroldeb nifer y cwynion am ddarparwyr penodol. Mae ein dogfen gefndir a methodoleg (Saesneg yn unig) yn mynd i fwy o fanylder.
Mae'r siart isod yn dangos maint cymharol y cwynion rydym wedi'u derbyn ar gyfer gwasanaethau band eang, llinell dir, symudol talu'n fisol a theledu-drwy-dalu. Gallwch ddefnyddio'r llithrydd i hidlo fesul blwyddyn.
Maint cymharol y cwynion fesul gwasanaeth i bob 100,000 o gwsmeriaid
Wrth gymharu o flwyddyn i flwyddyn, mae’r maint cymharol o gwynion am fand eang sefydlog, llinell dir sefydlog, symudol talu'n fisol a theledu-trwy-dalu i gyd wedi cynyddu (Saesneg yn unig).
Tablau cynghrair a chwynion allweddol
Mae'r tabl wedi cael ei ddiweddaru ar ôl i ddarparwr ailgyflwyno data.
Cymaroldeb cwynion fesul 100,000 o danysgrifwyr
Pan fydd y gwahaniaeth mesuradwy gwirioneddol rhwng nifer o gwynion y darparwyr fesul 100,000 o ddarparwyr yn llai nag 1, rydym yn ystyried bod eu canlyniadau'n gymaradwy. O fewn y sectorau canlynol, credwn fod modd cymharu'r darparwyr a restrir:
Band eang sefydlog:
- BT a Plusnet;
- Vodafone, TalkTalk a Chyfartaledd y Diwydiant.
Llinell dir:
- Plusnet, Vodafone a BT;
- BT a Shell Energy;
- Shell Energy a Chyfartaledd y Diwydiant;
Symudol talu'n fisol:
- Sky Mobile, EE a Vodafone;
- EE, Vodafone a Tesco Mobile;
- Vodafone, Tesco Mobile, Cyfartaledd y Diwydiant, iD Mobile a Three;
- BT Mobile ac O2.
Teledu-drwy-dalu:
- TalkTalk a Sky;
- BT a Chyfartaledd y Diwydiant;
Cymharu gwahanol ddarparwyr
I gymharu perfformiad dau neu fwy o ddarparwyr, dewiswch y gwasanaeth ac yna'r darparwyr rydych am eu cymharu o'r rhestrau ar y dde (Saesneg yn unig).
Cwynion fesul darparwr
Gallwch gymharu cwynion ar gyfer darparwr ar draws sectorau lluosog gan ddefnyddio'r opsiynau ar y dde (Saesneg yn unig).
Mwy o wybodaeth
Mae'r data sylfaenol ar gael mewn fformat CSV (CSV, 13.3 KB) (Saesneg yn unig). Rydym hefyd yn cynnwys data tueddiadau cyffredinol ar gyfer cwynion symudol talu-wrth-ddefnyddio.
Gallwch hefyd ddarllen cefndir a methodoleg (PDF, 219.4 KB) yr adroddiad (Saesneg yn unig).
Adroddiadau blaenorol
Noder bod y rhain ar gael yn Saesneg yn unig.
- Cwynion am wasanaethau telathrebu a theledu-drwy-dalu Ch1 2023
- Cwynion am wasanaethau telathrebu a theledu-drwy-dalu Ch4 2022
- Cwynion am wasanaethau telathrebu a theledu-drwy-dalu Ch3 2022
- Cwynion am wasanaethau telathrebu a theledu-drwy-dalu Ch2 2022
- Cwynion am wasanaethau telathrebu a theledu-drwy-dalu Ch1 2022
Mae adroddiadau hŷn ar gael yn yr Archifau Cenedlaethol.