Datganiad: Ymagwedd Ofcom at orfodi - diwygio'r Canllawiau Gorfodi Rheoleiddio

Cyhoeddwyd: 24 Mai 2022
Ymgynghori yn cau: 19 Gorffennaf 2022
Statws: Ar gau (cyhoeddwyd y datganiad)

Mae ein Canllawiau Gorfodi Rheoleiddio'n amlinellu sut fydd Ofcom yn mynd ati i orfodi gofynion rheoleiddio a chyfraith diogelu defnyddwyr mewn perthynas â'r diwydiannau rydym yn gyfrifol amdanynt. Gan ddilyn ein hymgynghoriad ar newidiadau arfaethedig i'r canllawiau ym mis Mai 2022, rydym wedi penderfynu gwneud rhai newidiadau i ddiweddaru a symleiddio'r canllawiau.

Ehangu'r Canllawiau Gorfodi Rheoleiddio i gynnwys pwerau gorfodi newydd. Rydym wedi diwgio'r canllawiau i ymdrin â gweithgarwch gorfodi Ofcom mewn tri maes newydd:

  • rhwymedigaethau a osodir ar lwyfannau rhannu fideos o dan Ran 4B Deddf Cyfathrebiadau 2003;
  • gofynion a osodir ar weithredwyr gwasanaethau hanfodol ar gyfer yr is-sector seilwaith digidol o dan Reoliadau Systemau Gwybodaeth a Rhwydweithiau 2018; a'r
  • fframwaith diwygiedig ar gyfer diogelu cadernid a chydnerthedd rhwydweithiau a gwasanaethau telathrebu yn y DU fel y nodir yn Neddf Telegyfathrebiadau (Diogelwch) 2021.

Ailstrwythuro'r Canllawiau Gorfodi Rheoleiddio i'w gwneud yn haws eu dilyn. Rydym wedi symud llawer o'r deunydd a oedd wedi'i gynnwys yn flaenorol mewn troednodiadau technegol a chyfreithiol ategol i atodiadau sy'n benodol i gyfundrefn, er mwyn ei gwneud yn haws deall sut y cymhwysir yr ystod o bwerau gorfodi gwahanol Ofcom. Mae'r adran ar setlo hefyd wedi'i symleiddio.

Diweddaru ac egluro testun y Canllawiau Gorfodi Rheoleiddio i adlewyrchu ein profiad o gynnal ymchwiliadau yn ymarferol. Mae ehangder ein dyletswyddau rheoleiddio yn golygu y gall yr ymagwedd weithdrefnol briodol amrywio o achos i achos. Rydym wedi gwneud diwygiadau i'r canllawiau sydd â'r bwriad o:

  • gydnabod lle y mae'r ystod ehangach o bwerau rheoleiddio yn gosod rhwymedigaethau gweithdrefnol gwahanol ar Ofcom;
  • adlewyrchu ein profiad bob dydd o ymchwiliadau gorfodi; a
  • dileu ailadrodd ac egluro'r camau gweithdrefnol y bwriadwn eu dilyn.

Cynnwys gwybodaeth am atebolrwydd sifil am dorri gofynion rheoleiddio. Mewn rhai amgylchiadau, gall personau sy'n cael colled neu ddifrod o ganlyniad i dorri gofynion rheoleiddio a osodwyd gan Ofcom ddwyn achos yn uniongyrchol yn erbyn y cwmni perthnasol, ond yn gyntaf mae'n rhaid iddynt gael caniatâd gan Ofcom i wneud hynny. Mae'r Canllawiau Gorfodi Rheoleiddio'n cynnwys esboniad o'r broses ar gyfer gwneud cais am ganiatâd yn y canllawiau a sut y bydd Ofcom yn ymdrin â cheisiadau o'r fath.

Manylion cyswllt

Cyfeiriad
Regulatory Enforcement Guidelines team
Ofcom
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
London SE1 9HA
Yn ôl i'r brig