Datganiad Preifatrwydd Cyffredinol – sut rydym yn trin eich data personol

Cyhoeddwyd: 10 Chwefror 2023
Diweddarwyd diwethaf: 27 Chwefror 2024

Ofcom (‘y Swyddfa Gyfathrebiadau’) yw'r rheoleiddiwr cyfathrebiadau ar gyfer y Deyrnas Unedig. Mae’n cywain ac yn prosesu data personol y mae ei angen arno i gyflawni ei swyddogaethau statudol a gweithredu fel corff cyhoeddus, gan gynnwys cyflogi a chontractio staff. Mae’r datganiad cyffredinol hwn yn berthnasol i’r holl ddibenion amrywiol hyn. Yn y rhan fwyaf o achosion, byddwn yn casglu data oddi wrthych yn uniongyrchol (er enghraifft, os byddwch yn gwneud cais am drwydded gennym). Ond, o bryd i'w gilydd, efallai y bydd angen i ni gasglu data personol amdanoch chi oddi wrth drydydd parti, fel darparwr eich gwasanaethau cyfathrebu.

Yn unol â’n rhwymedigaethau cyfreithiol, mae’r Datganiad Preifatrwydd Cyffredinol hwn yn rhoi'r wybodaeth y mae angen i chi ei gwybod am y ffordd y bydd Ofcom yn casglu, yn prosesu ac yn storio'ch data personol, am faint y bydd yn ei gadw, eich hawliau mewn perthynas â’r data hwnnw, a’r bobl y gall fod angen i ni ei rannu â nhw.

Pan fyddwn yn gofyn am ddata personol at ddiben penodol nad yw’n cael ei gynnwys yn y Datganiad Preifatrwydd Cyffredinol hwn, byddwn yn esbonio pan mae angen y wybodaeth honno arnom, a’n sail gyfreithlon dros ei chasglu. Yn yr un modd, os byddwn yn y dyfodol yn bwriadu prosesu’ch data at ddiben heblaw’r un y cafodd ei gasglu ar ei gyfer, byddwn yn rhoi gwybodaeth i chi am y diben hwnnw ac unrhyw wybodaeth berthnasol arall.

Mae Ofcom wedi ymrwymo i ddiogelu eich preifatrwydd yn unol â deddfwriaeth diogelu data.

Er mwyn sicrhau eich bod yn gwbl ymwybodol o sut bydd eich data'n cael ei brosesu, ei storio a'i rannu fel rhan o'ch cais i Ofcom darllenwch y datganiad isod yn ofalus.

Omni Resource Management Solutions Limited (a elwir yn 'Omni' o hyn ymlaen) yw partner recriwtio penodedig Ofcom, a fydd, ochr yn ochr ag Ofcom, yn rheoli'r broses recriwtio ar gyfer cyflogeion parhaol, cyfnod penodol a garfannol.

Swyddfa gofrestredig Omni yw: Charter House, Woodlands Road, Altrincham, Swydd Gaer, WA14 1HF, rhif cwmni cofrestredig 03278470.  Mae Omni wedi'u cofrestru ar Gofrestr Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth o Reolyddion Data o dan rif cofrestru Z7378991 ac yn gweithredu fel rheolydd data a phrosesydd data. Gellir cysylltu ag Arweinydd Diogelu Data dynodedig Omni yn dataprotection@omnirms.com.

Swyddfa gofrestredig Ofcom yw: Riverside House 2a Southwark Bridge Road London SE1 9HA.

Omni ac Ofcom fydd rheolyddion eich data ar y cyd.

Pa wybodaeth bersonol a gaiff ei chasglu?

Mae Omni ac Ofcom yn cymryd y gofal mwyaf i sicrhau bod yr wybodaeth sydd gennym amdanoch yn bodloni rhwymedigaethau cyfreithiol, statudol a chytundebol ac yn cael ei chadw'n ddiogel. Mae hyn yn cynnwys rhoi gweithdrefnau ac arferion priodol ar waith i sicrhau bod eich gwybodaeth bersonol yn cael ei gwarchod.

Byddwn yn cywain ac yn prosesu gwybodaeth bersonol yr ydych yn ei darparu fel rhan o'r broses ymgeisio, recriwtio a chroesawu.

Gall hyn gynnwys:

  • eich enw, cyfeiriad a gwybodaeth gyswllt, gan gynnwys cyfeiriad e-bost a rhif ffôn;
  • manylion eich cymwysterau, sgiliau, profiad a hanes cyflogaeth;
  • gwybodaeth am eich lefel bresennol o dâl, gan gynnwys hawl i fudd-daliadau;
  • P'un a oes gennych anabledd ai beidio, pan fo'n ofynnol i Omni neu Ofcom wneud addasiadau rhesymol yn ystod y broses recriwtio; a
  • Gwybodaeth am eich hawl i weithio yn y DU.
  • Datgan buddiant; Mae'n ofynnol i Ofcom asesu unrhyw wrthdaro buddiannau posib mewn perthynas â'ch penodiad gydag Ofcom.

Rydym yn cywain gwybodaeth yn y ffyrdd a ganlyn:

  • Ffurflen gais ar-lein neu CV trwy System Tracio Ymgeiswyr Workday. Mae hysbysiad preifatrwydd Workday i'w weld yma Datganiad Preifatrwydd | Workday
  • Dros y ffôn neu wyneb yn wyneb
  • Gan Asiantaethau Recriwtio
  • Ffurflenni sydd angen eu cwblhau fel rhan o'r broses groesawu
  • Wedi'i chael drwy eich pasbort neu ddogfennau adnabod eraill
  • Mathau eraill o asesu, gan gynnwys profion ar-lein

Monitro cyfle cyfartal

Mae Ofcom, yn unol â Deddf Cydraddoldeb 2010, yn ymrwymedig i cyfle cyfartal waeth beth fo'r oedran, anabledd, ethnigrwydd, rhywedd, ailbennu rhywedd, hunaniaeth a mynegiant rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, crefydd neu gred, priodas a phartneriaeth sifil, statws gofalu neu gefndir economaidd-gymdeithasol. Mae gwell dealltwriaeth o'n cydweithwyr yn golygu y gallwn ni ddeall amrywiaeth ein sefydliad, asesu effaith ein harferion gweithio o ddydd i ddydd ar gydweithwyr, a monitro cydraddoldeb a thegwch. Rydym hefyd eisiau adeiladu gweithlu amrywiol sy'n adlewyrchu pobl sydd â phrofiadau, safbwyntiau, sgiliau a chefndiroedd gwahanol a fydd yn ein helpu i sicrhau bod cyfathrebiadau’n gweithio i bawb. Fel rhan o ymrwymiad Ofcom i gyflogi gweithlu amrywiol, gofynnir i chi gwblhau cyfres o gwestiynau monitro cyfle cyfartal fel rhan o'ch cyflwyniad cais. Caiff yr holl wybodaeth ei hadrodd yn ddienw ac nid yw'n gysylltiedig mewn unrhyw ffordd â'ch cais. Mae'r wybodaeth hon yn cael ei hystyried yn ddata categori arbennig..

Data Categori Arbennig

Pan fyddwn yn cywain data personol sensitif, byddwn ond yn gofyn am yr wybodaeth sydd ei hangen at y diben penodedig.

Sut rydym yn defnyddio eich data personol

Rydym yn cymryd eich preifatrwydd o ddifri ac ni fyddwn byth yn datgelu nac yn rhannu eich data heb eich caniatâd, oni bai bod y gyfraith yn mynnu i ni wneud hynny. Ni fyddwn byth yn gwerthu eich data. Rydym ond yn cadw eich data am gyhyd ag y mae ei angen ac at y dibenion a bennir yn yr hysbysiad hwn. Fel y nodir yn fanylach yn nes ymlaen, bydd data personol rydych yn ei ddarparu drwy gydol y broses recriwtio yn cael ei gadw am 12 mis o'r pwynt ymgeisio yn unol â chanllawiau'r Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD); ar ôl 12 mis bydd eich data yn cael ei wneud yn ddienw a'i gadw am 3 blynedd arall at ddibenion adrodd. Mae adrodd yn cynnwys dadansoddiad o amgylch rolau y recriwtir iddynt a niferoedd o geisiadau a dderbynnir ac fe'i rhennir ar lefel rheoli heb ddata a allai eich adnabod yn bersonol.

Os, yn ystod y cyfnod 12 mis hwn, yr hoffech i ni roi gwybodaeth i chi am rolau yn y dyfodol ac am Ofcom fel cyflogwr, ticiwch y blwch caniatâd yn adran "Cwestiynau ymgeisio" y ffurflen gais a byddwn yn anfon gwybodaeth atoch. Gallwch ddileu eich caniatâd unrhyw bryd. Rhoddir manylion y dibenion a'r rhesymau dros brosesu eich data personol isod:

Caniatâd:

Yn ystod y broses gofrestru ar ein System Tracio Ymgeiswyr, Workday, gofynnir i chi roi caniatâd i'n telerau ac amodau prosesu data.

Mae gennych hefyd yr opsiwn i benderfynu a hoffech dderbyn gwybodaeth am rolau yn y dyfodol a gwneud eich dewis yn unol â hynny.

Os byddwch chi'n newid eich meddwl unrhyw bryd, gallwch roi gwybod i ni drwy gysylltu â dataprotection@omnirms.com

Beth os penderfynaf nad wyf eisiau i fy ngwybodaeth bersonol gael ei defnyddio?

Os ydych chi'n newid eich meddwl unrhyw bryd, gallwch ofyn i'ch cais gael ei dynnu'n ôl neu i'ch manylion gael eu dileu drwy gysylltu â dataprotection@omnirms.com

Mae gennych hawl i wybod hefyd:

  • Pa ddata personol sydd gennym amdanoch chi
  • Dibenion y prosesu
  • Y categorïau data personol dan sylw
  • Y derbynyddion y cafodd/caiff y data personol ei ddatgelu iddynt
  • Am faint o amser yr ydym yn bwriadu storio eich data personol
  • Os nad ydym wedi cywain y data'n uniongyrchol gennych chi, gwybodaeth am y ffynhonnell

Os ydych yn credu bod gennym unrhyw ddata anghyflawn neu anghywir amdanoch, mae gennych hawl i ofyn i ni gywiro'r wybodaeth neu i'w gwneud yn gyflawn, a byddwn yn gwneud pob ymdrech i'w diweddaru neu ei chywiro cyn gynted â phosib; oni bai bod rheswm dilys dros beidio â gwneud hynny, a bryd hynny fe gewch eich hysbysu am hyn.

Mae gennych hawl i ofyn i'ch data personol gael ei ddileu neu i gyfyngu ar ei brosesu yn unol â deddfau diogelu data, yn ogystal â gwrthwynebu unrhyw farchnata uniongyrchol gennym ac i gael eich hysbysu am unrhyw brosesau gwneud penderfyniadau wedi'u hawtomeiddio rydym yn ei ddefnyddio.

Os byddwn yn derbyn cais gennych i arfer unrhyw un o'r hawliau uchod, mae'n bosib y byddwn yn gofyn i chi ddilysu eich hunaniaeth cyn gweithredu ar y cais perthnasol; mae hyn er mwyn sicrhau bod eich data yn cael ei warchod a'i gadw'n ddiogel.

Gallwch arfer eich hawliau unrhyw bryd drwy gysylltu â dataprotection@omnirms.com

Mae rhagor o fanylion am sut mae eich gwybodaeth bersonol yn cael ei phrosesu gan Omni ac Ofcom ac am sut i wneud cais gwrthrych am wybodaeth yn y datganiadau preifatrwydd canlynol: Polisi Preifatrwydd - Omni (omnirms.com) Polisi Preifatrwydd Ofcom

Rhannu a Datgelu eich Gwybodaeth Bersonol

Nid ydym yn rhannu nac yn datgelu unrhyw ran o'ch gwybodaeth bersonol heb eich caniatâd, heblaw at y dibenion a bennir yn yr hysbysiad hwn na phan fo sail gyfreithlon arall dros wneud hynny.

Mae Omni ac Ofcom yn defnyddio trydydd partïon i ddarparu'r gwasanaethau a swyddogaethau busnes isod. Fodd bynnag, mae'r holl brosesyddion sy'n gweithredu ar ein rhan yn prosesu eich data dim ond yn unol â chyfarwyddiadau gennym ni a thrwy wneud hynny byddant yn cydymffurfio'n llawn â'r hysbysiad preifatrwydd hwn.

Ein Darparwyr Gwasanaethau

Mae'r rhain yn cynnwys darparwyr gwasanaethau trydydd parti allanol fel cyfrifyddion, archwilwyr, cynghorwyr cyfreithiol a chynghorwyr proffesiynol allanol eraill; darparwyr cymorth systemau a lletya gwasanaethau TG; peirianyddion technegol; darparwyr storio data a chwmwl; darparwyr meddalwedd adrodd mewnol, asiantaethau recriwtio; cwmnïau cyflogres allanol; darparwyr croesawu a gwerthwyr trydydd parti tebyg eraill a darparwyr gwasanaethau allanol sy'n ein cynorthwyo wrth gyflawni ein gweithgareddau busnes.

Mae cyflenwyr trydydd parti yn cynnwys Starred sy'n darparu gwasanaeth adborth ar-lein a gyda phwy byddwn yn rhannu eich enw a'ch cyfeiriad e-bost fel y gallant gysylltu â chi er mwyn cofnodi eich barn ar brofiad y broses recriwtio. Mae'r cyfle i roi adborth yn gwbl ddewisol ac ni fydd yn dylanwadu ar eich cais mewn unrhyw ffordd. Defnyddir y data i fesur profiad ymgeiswyr a gwella ein harferion recriwtio. Os bydd yn well gennych beidio â darparu adborth cysylltwch â dataprotection@omnirms.com.

Trosglwyddo Gwybodaeth Bersonol yn Rhyngwladol

Mae gwybodaeth bersonol a ddarperir i ni yn cael ei storio a'i chadw o fewn AEE. Mewn sefyllfaoedd lle caiff data ei drosglwyddo y tu allan i'r DU, bydd Omni ac Ofcom yn mynd i gontractau cyfreithiol gyda'r nod o sicrhau bod y trydydd partïon hynny'n ymdrin â'ch gwybodaeth bersonol yn unol â'r polisi preifatrwydd hwn a safonau diogelu data yn y DU.

Mesurau Technegol a Sefydliadol

Mae eich preifatrwydd yn fater o ddifri i Omni ac Ofcom ac rydym yn cymryd pob mesur a rhagofal rhesymol i warchod a sicrhau eich data personol. Rydym yn gweithio'n galed i'ch gwarchod chi a'ch gwybodaeth rhag mynediad, newid, datgelu neu ddinistr heb awdurdod ac mae gennym sawl haen o fesurau diogelwch ar waith.

Canlyniadau Peidio â Darparu Eich Data

Nid ydych o dan unrhyw rwymedigaeth statudol na chytundebol i ddarparu eich gwybodaeth bersonol i Omni neu Ofcom; fodd bynnag, gan fod angen yr wybodaeth hon i ni ystyried cais, ni fydd modd i ni eich ystyried chi am swyddi gwag hebddi.

Am faint fyddwch chi'n cadw fy ngwybodaeth?

Os bydd eich cais yn llwyddiannus, bydd y porth ymgeiswyr (Workday) yn storio'ch gwybodaeth am gyfnodo 12 mis. Yna bydd eich cofnod yn cael ei wneud yn ddienw a'i gadw am 3 blynedd arall at ddibenion adrodd. Fel gweithiwr, bydd Ofcom yn parhau i brosesu eich gwybodaeth drwy gydol eich daliadaeth a / neu gyflogaeth ac yn cadw eich gwybodaeth yn unol â'u polisïau cadw cofnodion.

Os na fydd eich cais yn llwyddiannus ac na wneir cais neu gyswllt arall am 12 mis, bydd eich cais yn cael ei wneud yn ddienw a'i gadw am 3 blynedd arall at ddibenion adrodd.

Os ydych wedi rhoi caniatâd i ni ddefnyddio eich manylion i anfon gwybodaeth am rolau yn y dyfodol a gwybodaeth am Ofcom fel cyflogwr atoch, byddwn yn cadw eich manylion cyswllt am y cyfnod o 12 mis a nodwyd uchod oni bai eich bod yn ein hysbysu fel arall ac/neu'n dileu eich caniatâd. Noder y bydd data a all eich adnabod yn bersonol yn cael ei wneud yn ddienw a'i gadw am 3 blynedd at ddibenion adrodd ar ddiwedd y cyfnod cadw o 12 mis,.

Gwneud Cwyn

Dim ond mewn cydymffurfiaeth â'r hysbysiad preifatrwydd hwn ac yn unol â'r deddfau diogelu data perthnasol y mae Omni ac Ofcom yn prosesu eich gwybodaeth. Fodd bynnag, os ydych am godi cwyn ynghylch prosesu eich data personol neu nad ydych yn fodlon ar y ffordd yr ydym wedi trin eich gwybodaeth, mae gennych yr hawl i gyflwyno cwyn i Omni ac/neu Ofcom ac i'r awdurdod goruchwylio, yr ICO: https://ico.org.uk/concerns/ Gweler hysbysiadau preifatrwydd Omni ac Ofcom am fanylion cyswllt.

Mae Ofcom yn casglu data personol mae ei angen arno i gyflawni ei swyddogaethau statudol, i weithredu fel sefydliad ac i gydymffurfio â’i rwymedigaethau cyfreithiol.

Mae swyddogaethau statudol Ofcom yn cynnwys (ond heb eu cyfyngu iddynt) ei ddyletswyddau a’i bwerau dan Ddeddf Swyddfa Cyfathrebiadau 2002, Deddf Cyfathrebiadau 2003, Deddfau Darlledu 1990 a 1996, Deddf Telegraffiaeth Ddi-wifr 2006, Deddf Cystadleuaeth 1998, Deddf Menter 2002, a Deddf Gwasanaethau Post 2011.

Fel sefydliad, mae angen i Ofcom gyflogi staff ac i gontractio â darparwyr gwasanaeth trydydd parti. Mae rhwymedigaethau cyfreithiol Ofcom yn cynnwys ei rwymedigaethau dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, er enghraifft, a'i ddyletswyddau fel cyflogwr dan ddeddfwriaeth gyflogaeth a threthiant berthnasol.

Yn dibynnu ar y pwrpas a’r cyd-destun, mae’r data personol mae Ofcom yn ei gasglu’n gallu cynnwys:

  • Eich enw a theitl eich swydd
  • Gwybodaeth ar gyfer cysylltu â chi (a all gynnwys eich cyfeiriad IP)
  • Eich swydd a manylion eich cyflogwr
  • Manylion eich banc a’ch rhif yswiriant gwladol
  • Gwybodaeth am eich oed, statws anabledd, tarddiad hiliol neu ethnig, barn wleidyddol ac ymlyniadau gwleidyddol, cred grefyddol neu athronyddol, aelodaeth o undeb lafur, data genetig, iechyd, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, rhywedd a chenedlaetholdeb, euogfarnau troseddol a throseddau
  • Gwybodaeth arall sy’n berthnasol i’r canlynol:
    • Gwella ein gwasanaethau (gan gynnwys, ond heb ei gyfyngu i, gofnodi neu fonitro cyfathrebiadau rhyngoch chi ac Ofcom at ddibenion rheoli ansawdd a hyfforddi staff)
    • Cyflawni ein swyddogaethau statudol fel rheoleiddiwr cyfathrebiadau (sy’n cynnwys diogelu a hybu buddiannau defnyddwyr a hyrwyddo cystadleuaeth).

Wrth gyflawni ei ddyletswyddau, gall Ofcom gasglu data o bryd i’w gilydd y mae defnyddwyr llwyfannau arlein (er enghraifft, Twitter, Facebook, Instagram, YouTube, gwefannau newyddion a blogiau/ fforymau cyhoeddus eraill) wedi dewis eu gwneud yn gyhoeddus.

Caiff Ofcom hefyd gasglu data personol o bryd i’w gilydd drwy ddefnyddio “personâu ffuglennol” wrth gynnal ymchwil i brosesau a swyddogaethau llwyfannau cyfryngau ar-lein. Gall hyn gynnwys rhyngweithio (dilyn/cyfeillio ayb) â chyfrifon eraill ar y llwyfan, gan gynnwys cyfrifon preifat (o dan amgylchiadau cyfyngedig ac yn unol â phrotocolau ymchwil sydd wedi’u cynllunio i leihau’r effaith ar ddefnyddwyr eraill), lle bo hynny’n angenrheidiol at ddibenion yr ymchwil. Byddwn yn cyhoeddi hysbysiadau tryloywder yn rhoi gwybod i bobl am brosiectau ymchwil o’r fath ar ein gwefan. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch yr hysbysiad tryloywder sydd ar gael ar ein gwefan.

Caiff Ofcom ddefnyddio’ch data personol er mwyn cyflawni’i swyddogaethau statudol, gan gynnwys swyddogaethau Ofcom yn gorfodi'r gyfraith, a chydymffurfio â’i rwymedigaethau cyfreithiol. Caiff Ofcom hefyd ddefnyddio’ch data personol os yw hynny er budd sylweddol i’r cyhoedd, neu lle mae fel arall wedi cael eich caniatâd i wneud hynny.

Yn benodol, caiff Ofcom ddefnyddio’ch data personol ar gyfer un neu fwy o'r rhesymau canlynol:

  • Cyflawni ein swyddogaethau statudol, er enghraifft:
    • Trwyddedu, gan gynnwys rhoi a gweinyddu trwyddedau darlledu a thrwyddedau ar gyfer cyfarpar radio a chyfarpar cyfathrebu diwifr arall.
    • Cofnodi a delio â chwynion, gan gynnwys cwynion defnyddwyr a chwynion tegwch a phreifatrwydd.
    • Cynnal ymchwiliadau rheoleiddio neu ymchwiliadau yn unol â'r Ddeddf Cystadleuaeth 1998.
    • Cyflawni gweithgareddau gorfodi'r gyfraith, gan gynnwys ymchwilio ac erlyn yn achos troseddau sy’n ymwneud â darlledu anghyfreithlon a defnyddio cyfarpar cyfathrebu diwifr yn anghyfreithlon.
    • Casglu a chyhoeddi tystiolaeth a barn, gan gynnwys drwy ymgynghoriadau a gwneud gwaith ymchwil.
    • Sicrhau bod Ofcom yn cyflawni ei weithgareddau rheoleiddio mewn ffordd dryloyw ac atebol.
  • Gwella ein gwasanaethau;
  • Anfon gwybodaeth atoch a fydd o ddiddordeb i chi yn ein barn ni;
  • Cyflawni ein dyletswyddau fel cyflogwr;
  • Rhoi eich manylion i gyfrifyddion, ymgynghorwyr a gweithwyr proffesiynol eraill er mwyn cael cyngor proffesiynol ac er mwyn cydymffurfio â dyletswyddau contractiol Ofcom;
  • Cydymffurfio â'n rhwymedigaethau rheoleiddio a chyfreithiol;
  • Sefydlu, arfer neu amddiffyn hawliadau cyfreithiol;

O bryd i'w gilydd hefyd, efallai y bydd angen i Ofcom rannu’ch data personol â thrydydd partïon eraill, gan gynnwys:

  • Lle bo'n briodol, darlledwyr a darparwyr gwasanaethau cyfathrebu, er mwyn datrys cwynion am ddarlledu (gan gynnwys cynnwys ar-alwad) neu wasanaethau;
  • Sefydliadau sy'n dod o dan cwmpas pwerau Ofcom, achwynwyr trydydd parti ac unrhyw gynrychiolwyr neu dystion arbenigol ag apwyntiwyd gan y partïon neu Ofcom at ddibenion gweithredu ein swyddogaethau rheoleiddiol, yn cynnwys gweithredu archwiliadau ac apeliadau dilynol. Mae hyn yn cynnwys, er engrhaifft, caniatáu gwrthrychau archwiliad, (a lle'n berthnasol, yr achwynydd), fynediad i'r ffeil, sy'n galluogi'r partïon i ddeall y dystiolaeth mae Ofcom yn dibynnu arni yn ei benderfyniadau dros dro a therfynol;
  • Yr heddlu, neu gyrff eraill sy’n gorfodi’r gyfraith, er mwyn cynnal ymchwiliadau  neu lle mae’n ofynnol i ni wneud hynny dan y gyfraith;
  • Adrannau’r Llywodraeth a chyrff rheoleiddio eraill er mwyn ein galluogi ni a nhw i gyflawni ein swyddogaethau statudol a chyfreithiol. Gall y rhain gynnwys, er enghraifft, y Comisiynydd Gwybodaeth, yr Awdurdod Safonau Hysbysebu, y Comisiwn Elusennau, yr Awdurdod Hedfan Sifil, yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd a'r Comisiwn Ewropeaidd (ymysg cyrff rheoleiddio neu gyrff cyd-reoleiddio eraill neu gyrff ymchwilio tebyg);
  • Trydydd partïon a allai gael eu cyflogi gennym ni i brosesu data personol ar ein rhan (gan gydymffurfio â gofynion deddfwriaeth diogelu data). Mae trydydd partïon o’r fath yn gallu cynnwys y rheini sy’n darparu gwasanaethau e-ganfod.

Mae’n bosibl y byddwn yn defnyddio rhaglenni dysgu peirianyddol er mwyn ein helpu wrth i ni ddadansoddi setiau mawr o ddata, ond ni fyddwn yn defnyddio dulliau wedi’u hawtomeiddio er mwyn gwneud penderfyniadau am unigolion.

Bydd Ofcom yn penderfynu ar hyd y cyfnod y bydd angen iddo gadw'ch data personol gan ystyried am ba reswm ac i ba bwrpas y cafodd ei gasglu, ein dyletswyddau statudol a rhwymedigaethau cyfreithiol eraill, arfer neu amddiffyn unrhyw hawliadau cyfreithiol, gan gynnwys y cyfnod y gallai unrhyw hawliadau cyfreithiol presennol neu yn y dyfodol gael eu cyflwyno ynddo.

Mae Ofcom wedi sefydlu mesurau technegol a sefydliadol priodol i ddiogelu eich data personol ac i atal eich data rhag cael ei brosesu’n ddiawdurdod neu’n anghyfreithlon ac i’w atal rhag cael ei golli, ei ddileu neu ei ddifrodi’n ddamweiniol.

O bryd i'w gilydd, efallai y bydd angen i Ofcom drosglwyddo data personol i wledydd eraill, er enghraifft, pan mae data personol yn cael ei storio’n ddiogel yn y cwmwl a’r gweinyddion perthnasol wedi’u lleoli dramor.  Yn yr amgylchiadau hyn, byddwn yn gyntaf yn sicrhau bod gan y wlad berthnasol y mesurau diogelu priodol ar waith i ddiogelu’ch data personol.

Fel y rhan fwyaf o wefannau, rydym yn defnyddio cwcis i wella ansawdd y wefan ac i wella’ch profiad chi wrth ei defnyddio. Mae ein datganiad cwcis yn rhoi mwy o esboniad.

Fel cyflogwr i chi (gan gynnwys lle rydych ar secondiad i Ofcom, neu efallai’n gweithio i ni fel contractwr llawrydd), neu fel darpar gyflogwr, mae’n ofynnol i Ofcom gadw a phrosesu gwybodaeth amdanoch i ddibenion arferol cyflogaeth. Ni fydd yr wybodaeth yr ydym yn ei chadw ac yn ei phrosesu yn cael ei defnyddio ond i’n dibenion rheolaethol a gweinyddol ni, i gyflawni ein tasgau cyflogaeth, neu i gydymffurfio â’n rhwymedigaethau cyfreithiol. Byddwn yn ei chadw a’i defnyddio i’n galluogi i redeg y busnes a rheoli ein perthynas gyda chi’n effeithiol, yn gyfreithlon ac yn briodol, yng nghyswllt y broses recriwtio, tra byddwch yn gyflogai i Ofcom, ar yr adeg pan fydd eich cyflogaeth yn dod i ben ac, fel arfer, am gyfnod o 6 blynedd ar ôl i chi adael. Mae hyn yn cynnwys defnyddio gwybodaeth i’n galluogi i:

  • gydymffurfio â thelerau’r contract cyflogaeth sydd gennym gyda chi
  • cyflawni ein swyddogaethau statudol
  • cydymffurfio â’n rhwymedigaethau cyfreithiol (er enghraifft yng nghyswllt deddfwriaeth trethiant) ac i ddiogelu ein sefyllfa gyfreithiol pe digwydd achos cyfreithiol
  • monitro a gwella ein perfformiad fel cyflogwr (gan gynnwys o ran amrywiaeth).

Bydd llawer o’r wybodaeth sydd gennym wedi cael ei darparu gennych chi ond gallai rhywfaint fod wedi dod o ffynonellau eraill fel eich rheolwr llinell, eich canolwyr, neu eich cyflogwr presennol, lle nad Ofcom yw eich cyflogwr ar hyn o bryd.

Mae’r math o wybodaeth y gallem ei chasglu a’i chadw yn cynnwys:

  • Eich ffurflen gais sy’n cynnwys eich enw, eich cyfeiriad a’ch rhif ffôn
  • Eich curriculum vitae gyda manylion eich profiad gwaith hyd yma
  • Eich geirdaon
  • Copïau o’ch pasbort a thystysgrifau cymwysterau
  • Eich contract cyflogaeth ac unrhyw ddiwygiadau iddo
  • Gohebiaeth gyda chi neu amdanoch chi, er enghraifft llythyrau atoch ynghylch codiad cyflog
  • Gwybodaeth angenrheidiol ar gyfer dibenion y gyflogres, budd-daliadau a threuliau, fel manylion banc
  • Manylion cysylltu a chysylltu mewn argyfwng (gan gynnwys y perthynas agosaf)
  • Cofnodion gwyliau
  • Manylion eich oedran a’ch rhyw
  • Cofnodion yn ymwneud â’ch hanes cyflogaeth, er enghraifft, cofnodion hyfforddiant, gwerthusiadau a mesurau perfformiad eraill
  • Unrhyw gofnodion disgyblu neu gwynion

Mewn rhai amgylchiadau, efallai y byddwn hefyd yn casglu gwybodaeth sydd, dan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) yn cael ei hystyried yn ddata personol sensitif. Mae hyn yn cynnwys:

  • Cofnodion ac unrhyw fanylion salwch yn ogystal â gwybodaeth yn ymwneud â’ch iechyd gan gynnwys adroddiadau Iechyd Galwedigaethol a allai gynnwys rhesymau dros absenoldeb ac adroddiadau a nodiadau Meddyg Teulu. Bydd yr wybodaeth hon yn cael ei defnyddio er mwyn cydymffurfio â’r rhwymedigaethau iechyd a diogelwch iechyd galwedigaethol gan gynnwys asesu sut y mae eich iechyd yn effeithio ar eich gallu i wneud eich gwaith ac a allai unrhyw addasiadau i’ch swydd fod yn briodol. Byddwn hefyd angen yr wybodaeth hon i weinyddu a rheoli tâl salwch.
  • Cenedligrwydd – bydd yr wybodaeth hon yn cael ei defnyddio ar gyfer monitro cydraddoldeb ac amrywiaeth o fewn ein sefydliad
  • Hil/Tarddiad ethnig – bydd yr wybodaeth hon yn cael ei defnyddio ar gyfer monitro cydraddoldeb ac amrywiaeth o fewn ein sefydliad
  • Cred grefyddol – bydd yr wybodaeth hon yn cael ei defnyddio ar gyfer monitro cydraddoldeb ac amrywiaeth o fewn ein sefydliad
  • Rhyw/cyfeiriadedd rhywiol – bydd yr wybodaeth hon yn cael ei defnyddio ar gyfer monitro cydraddoldeb ac amrywiaeth o fewn ein sefydliad
  • Manylion unrhyw euogfarnau troseddol – bydd yr wybodaeth hon yn cael ei defnyddio ar gyfer monitro cydraddoldeb ac amrywiaeth o fewn ein sefydliad

Gallem hefyd fonitro’r defnydd o gyfrifiaduron, fel y nodir yn ein Polisi Defnydd Derbyniol. Rydym hefyd yn cadw cofnodion am yr oriau sy’n cael eu gweithio gan gydweithwyr drwy gyfrwng taflenni amser sy’n cynnwys cofnodion o absenoldeb oherwydd salwch.

Efallai y bydd angen i ni hefyd rannu eich data gyda thrydydd partïon sy’n darparu ein cynlluniau pensiwn, yswiriant iechyd a/neu fuddion ‘Choices’ eraill i’n cyflogeion.

Lle byddwn wedi casglu eich data personol i ddibenion ein swyddogaethau cyflogaeth, byddwn yn ei gadw am gyfnod o 6 blynedd ar ôl i chi adael Ofcom.  Bydd ceisiadau am swyddi ar-lein yn cael eu cadw am hyd at 3 blynedd yng nghyswllt ymgeiswyr aflwyddiannus i ddibenion adrodd ar dueddiadau ac i gysylltu ag ymgeiswyr yn y dyfodol ynghylch swyddi a allai fod o ddiddordeb iddynt. Byddwn yn cadw nodiadau cyfweliadau a/neu unrhyw wybodaeth recriwtio ategol ar gyfer pob ymgeisydd am gyfnod o 6 mis.

Fel y nodir yn ein Nodyn Preifatrwydd Cyffredinol, os byddwn, yn y dyfodol, yn bwriadu prosesu’ch data personol at ddiben heblaw’r un y cafodd ei gasglu ar ei gyfer, byddwn yn rhoi gwybodaeth i chi am y diben hwnnw ac unrhyw wybodaeth berthnasol arall.

Dan ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych hawliau i gael mynediad i’ch data personol ac, mewn rhai amgylchiadau, mae gennych hawl i wrthwynebu prosesu'r data, neu i ofyn i’r data hwnnw gael ei gywiro neu ei ddileu, ac i ofyn bod prosesu’r data’n cael ei gyfyngu. Mae gennych hefyd hawl i’ch data fod yn gludadwy.  Pan fydd Ofcom yn dibynnu ar eich caniatâd i ddefnyddio’ch data personol, cewch dynnu'r caniatâd hwnnw’n ôl unrhyw bryd (ond ni fydd hyn yn effeithio ar gyfreithlondeb y gwaith prosesu data cyn y cafodd eich caniatâd ei dynnu’n ôl).

Os ydych chi am gadarnhau a yw Ofcom yn dal data personol amdanoch neu beidio, gwneud cais am gopïau o'r data hwnnw, neu wneud unrhyw gais arall mewn perthynas â’ch data personol, dylech gysylltu â thîm Ceisiadau am Wybodaeth Ofcom yn: information.requests@ofcom.org.uk

Petai’n ddefnyddiol, gallwch ddefnyddio’r ffurflenni isod i wneud eich cais:

Diogelu Data - Ffurflen Gais Gwrthrych (PDF, 130.5 KB)

Diogelu Data - Ffurflen Gais Gwrthrych (RTF, 269.4 KB)

Ffurflen Cais am Ddata - Asiantaethau Gorfodi’r Gyfraith (PDF, 96.4 KB)

Ffurflen Cais am Ddata - Asiantaethau Gorfodi’r Gyfraith (RTF, 264.0 KB)

Ffurflen Cais am Ddata - Asiantaethau Gorfodi’r Gyfraith (Is-adran Forol) (PDF, 96.9 KB)

Ffurflen Cais am Ddata - Asiantaethau Gorfodi’r Gyfraith (Is-adran Forol) (RTF, 265.5 KB)

Os ydych chi am wneud cais am ddata personol yr ydym o bosibl yn ei ddal am rywun arall, er enghraifft oherwydd eich bod yn cynnal ymchwiliad o dan bwerau statudol, efallai yr hoffech ddefnyddio un o’r ffurflenni canlynol.

Ein Hysgrifennydd Corfforaeth, sef Swyddog Diogelu Data Ofcom, sy’n goruchwylio'r ffordd y mae Ofcom yn delio â data personol. Os oes gennych gwestiynau am y ffordd y mae Ofcom yn delio â'ch data personol neu gyflwyno cwyn am hyn, dylech eu hanfon at ein Swyddog Diogelu Data yn:

Ysgrifennydd y Gorfforaeth
Ofcom
Riverside House
2a Southwark Bridge Road
Llundain
SE1 9HA

E-bost: dataprotection@ofcom.org.uk

Os ydych chi’n anhapus â’r ffordd y mae Ofcom yn delio â’ch data personol, ac wedi cyflwyno’ch cwyn i Ofcom yn barod, cewch gwyno i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yn:

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn: 0303 123 1113 (cyfradd lleol) neu 01625 545 745  os hoffech ddefnyddio rhif lleol.

Ebost casework@ico.org.uk.

Yn ôl i'r brig