pow-web

Cynllun Gwaith arfaethedig Ofcom ar gyfer 2021/2022

Cyhoeddwyd: 11 Rhagfyr 2020
Diweddarwyd diwethaf: 17 Awst 2023

Heddiw, mae Ofcom wedi cyhoeddi ei Gynllun Gwaith arfaethedig ar gyfer 2021/22, gan amlinellu ein blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.

Rydym yn cyhoeddi'r cynigion hyn wrth i'r coronafeirws barhau i osod heriau i bobl a busnesau ledled y DU. Drwy gydol y pandemig, rydym wedi gweld bod gwasanaethau cyfathrebu dibynadwy o ansawdd uchel wedi bod yn bwysicach nag erioed i fywydau pobl.

Rydym yn nodi ein blaenoriaethau strategol arfaethedig i sicrhau bod Ofcom yn chwarae ei ran i fynd i'r afael â heriau heddiw, ac yn y dyfodol.

Ein blaenoriaethau strategol arfaethedig ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf:

  • Buddsoddi mewn rhwydweithiau cryf a diogel. Cefnogi buddsoddiad parhaus mewn band eang cyflymach a rhwydweithiau symudol cyflymach ac o ansawdd gwell. Gan gynnwys gweithio gyda’r diwydiant i sicrhau bod rhwydweithiau cyfathrebu hanfodol y DU yn ddiogel, yn ddiogel ac yn gadarn.
  • Cael cysylltiad i bawb. Gweithio i sicrhau bod pobl a busnesau yn gallu cael mynediad at wasanaethau cyfathrebu allweddol - gan gynnwys yn y lleoliadau anoddaf eu cyrraedd. Gan gynnwys monitro sut mae’r gwasanaeth band eang cyffredinol a’r Rhwydwaith Gwledig a Rennir yn cael eu darparu. Byddwn hefyd yn gweithio i sicrhau bod y gwasanaeth post cyffredinol yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol.
  • Tegwch i gwsmeriaid. Parhau â’n gwaith i sicrhau y gall cwsmeriaid – yn enwedig y rhai sy’n agored i niwed - siopa o gwmpas yn hyderus, newid darparwr yn rhwydd a chael eu trin yn deg.
  • Cefnogi a datblygu darlledu yn y DU. Cefnogi sector cyfryngau bywiog y DU, gan gynnwys darlledu gwasanaeth cyhoeddus, a helpu nhw i ddiwallu anghenion newidiol gwylwyr a gwrandawyr. Byddwn hefyd yn parhau i fonitro ac adrodd ar berfformiad y BBC
  • Paratoi i reoleiddio niwed ar-lein. Byddwn yn cwblhau’r gwaith o gyflwyno’r drefn newydd sy’n rheoleiddio llwyfannau rhannu fideos sydd wedi’u sefydlu yn y DU. Mae Llywodraeth y DU wedi datgan ei bod yn bwriadu penodi Ofcom yn rheoleiddiwr ar gyfer niwed ar-lein ac rydym yn paratoi ar gyfer y rôl newydd bosibl hon.

Byddwn hefyd yn cymryd camau i sicrhau ein bod mewn sefyllfa dda i gyflawni ein dyletswyddau nawr ac yn y dyfodol.

  • Cryfhau Ofcom ar gyfer y dyfodol. Wrth i’n sectorau a’n dyletswyddau gael eu siapio fwyfwy gan wasanaethau ar-lein, byddwn yn datblygu ein sgiliau, yn datblygu arferion gweithio arloesol ac yn adeiladu gweithlu amrywiol sy’n adlewyrchu’r DU gyfan.
  • Datblygu partneriaethau newydd. Byddwn yn datblygu partneriaethau newydd – ac yn adeiladu ar bartneriaethau domestig a rhyngwladol presennol gyda rheoleiddwyr, y byd academaidd, llywodraethau, diwydiant a sefydliadau ar draws y sectorau rydym yn eu rheoleiddio.

Rydym yn croesawu ymatebion i'n Cynllun Gwaith arfaethedig erbyn 5 pm ar 5 Chwefror 2021. Bwriedir cyhoeddi y cynllun terfynol ym mis Mawrth 2021.

Clywed mwy am ein cynllun gwaith arfaethedig mewn un o'n digwyddiadau rhithwir

Rydym hefyd yn rhedeg cyfres o ddigwyddiadau rhithwir i drafod ein blaenoriaethau ar gyfer 2021/22.

A hwythau'n rhedeg ar y cyd gyda'r broses ymgynghori, mae'r digwyddiadau hyn yn rhoi cyfle i bobl glywed am a rhoi sylwadau ar ein meysydd gwaith arfaethedig ar gyfer y flwyddyn i ddod. Byddwn yn ystyried pob barn a roddir trwy naill ai'r ymgynghoriad ffurfiol neu'r digwyddiadau rhithwir hyn.

Bydd y digwyddiadau'n cynnwys sgwrs ragarweiniol, cyflwyniad byr ar y blaenoriaethau rydym wedi'u disgrifio ar gyfer y flwyddyn nesaf, a sesiwn cwestiwn ac ateb gyda phanel o gynrychiolwyr o Ofcom.

Oherwydd yr amgylchiadau presennol, bydd y digwyddiadau hyn yn Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon yn cael eu cynnal dros Microsoft Teams. Nid oes angen cyfrif Microsoft Teams i gymryd rhan.

Bydd y digwyddiad yng Nghymru'n cael ei gynnal dros Zoom er mwyn darparu ar gyfer cyfieithu ar y pryd. Nid oes angen cyfrif Zoom i gymryd rhan.

Byddwch yn derbyn manylion sut i fewngofnodi ar ôl i chi gofrestru.

Mae digwyddiadau'n cael eu cynnal ym mhob un o genhedloedd y DU:

Yn ôl i'r brig