Datganiad hygyrchedd ar gyfer ffurflenni gwe Ofcom

Cyhoeddwyd: 3 Gorffennaf 2024
Diweddarwyd diwethaf: 16 Mawrth 2023

Mae’r datganiad hwn yn berthnasol i’r ffurflenni canlynol sy’n dechrau gyda ofcomforms.secure.force.com:

  • Cwyno am wasanaethau symudol, ffôn cartref neu ryngrwyd
  • Cwyno am wasanaethau teledu, radio neu ar-alw
  • Cwyno am wasanaethau post
  • Cwyno am y BBC
  • Rhoi gwybod am ymyriant
  • Rhoi gwybod am ddarlledu anghyfreithlon
  • Rhyddid gwybodaeth
  • Ymholiadau Trwyddedu Sbectrwm
  • Ymholiadau Trwyddedu Darlledu

Ofcom sy'n rheoli’r ffurflenni hyn. Rydym am sicrhau bod cynifer â phosib o bobl yn gallu defnyddio'r ffurflenni hyn. Er enghraifft, mae hyn yn golygu y dylech chi allu gwneud y canlynol:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
  • chwyddo i mewn hyd at 200% heb golli'r testun oddi ar y sgrin
  • llywio drwy'r rhan fwyaf o'r ffurflenni gan ddefnyddio dim ond bysellfwrdd
  • llywio drwy'r rhan fwyaf o'r ffurflenni gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • gwrando ar y rhan fwyaf o'r ffurflenni gan ddefnyddio rhaglen darllen sgrin (gan gynnwys fersiynau diweddaraf JAWS, NVDA a VoiceOver)
  • Cael strwythur penawdau ystyrlon ar y rhan fwyaf o dudalennau
  • Mwynhau safonau AA o ran 1.4.3 Cyferbyniad
  • Gwneud cais rhesymol am fformatau eraill, y bydd Ofcom yn eu hystyried

Rydym wedi sicrhau bod testun y ffurflen mor syml â phosibl.

Mae cyngor ar gael ar AbilityNet ynghylch gwneud eich dyfais yn haws ei defnyddio os oes gennych chi anabledd.

Pa mor hygyrch yw'r wefan hon

Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau o’r ffurflenni yn gwbl hygyrch:

  • Dydy’r gwiriwr cyfeiriad ddim ar gael ar unrhyw ddyfais
  • Dydy'r dewiswr dyddiad ac amser ddim yn ailfeintio wrth nesáu/pellhau ar y dudalen
  • Neges gwall ar goll ar y tudalennau ‘Cwyno am y BBC’
  • Dydy’r testun ddim yn ailfeintio yn Internet Explorer wrth ddefnyddio opsiwn ailfeintio testun porwr

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Os oes angen gwybodaeth arnoch am y ffurflenni hyn mewn fformat gwahanol, fel PDF hygyrch, print bras, testun hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu braille, cysylltwch â’r tîm Digidol gan ddefnyddio'r ffurflen hon:

Cysylltu â’r Tîm Digidol  

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi o fewn 21 diwrnod.

Gweithdrefn Gorfodi

  Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych chi’n fodlon ar sut rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).

Cysylltu â ni dros y ffôn

Gallwch gysylltu â ni dros y ffôn, drwy’r post neu wneud cwyn drwy ein hyb.  Mae manylion cyswllt ar gael ar ein tudalen cysylltu â ni. .

Yn ystod y cyfnod clo, ni allwn dderbyn galwadau cyfnewid testun neu ganiatáu ymweliadau wyneb yn wyneb.

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Ofcom wedi ymrwymo i sicrhau bod ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfio

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1, oherwydd y cynnwys nad yw'n hygyrch sydd wedi'i restru isod.

Cynnwys nad yw’n hygyrch

  • Dydy’r gwiriwr cyfeiriad ddim ar gael ar unrhyw ddyfais. Nid yw hyn yn bodloni Maen Prawf Llwyddiant 2.1.1 ac mae wrthi’n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd
  • Neges gwall ar goll ar y tudalennau ‘Cwyno am y BBC’.  Nid yw hyn yn bodloni Maen Prawf Llwyddiant 3.3.1 ac mae wrthi’n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd, a’r bwriad yw ei ddatrys erbyn mis Rhagfyr 2020
  • Dydy’r testun ddim yn ailfeintio yn Internet Explorer wrth ddefnyddio opsiwn ailfeintio testun porwr. Nid yw hyn yn bodloni Maen Prawf Llwyddiant 1.4.10 ac mae wrthi’n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd, a’r bwriad yw ei ddatrys erbyn mis Rhagfyr 2020
  • Dydy'r dewiswr dyddiad ac amser ddim yn ailfeintio wrth nesáu/pellhau ar y dudalen.  Mae hwn yn defnyddio rhaglen trydydd parti; rydym wedi asesu’r gost o’i gywiro a chredwn y byddai gwneud hynny nawr yn faich anghymesur o fewn ystyr y rheoliadau hygyrchedd.

Baich anghymesur

  • Dydy'r dewiswr dyddiad ac amser ddim yn ailfeintio wrth nesáu/pellhau ar y dudalen.  Mae hwn yn defnyddio rhaglen trydydd parti; rydym wedi asesu’r gost o’i gywiro a chredwn y byddai gwneud hynny nawr yn faich anghymesur fewn ystyr y rheoliadau hygyrchedd.

Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn

Cafodd y datganiad hwn ei baratoi ar 21 Medi 2020.

Cafodd y wefan hon ei phrofi ddiwethaf ym mis Medi 2020. Cynhaliwyd y prawf gan Ofcom, a defnyddiwyd yr offer canlynol:

  • JAWS
  • NVDA
  • Offeryn Gwerthuso WAVE
  • headingsMap
  • Pecyn cymorth ARC
  • Accessibility Insights for Web
  • Gwiriwr Cyferbyniad Lliw WCAG
  • Chwyddo’r Testun yn Unig
  • Darllen yn Uchel
  • Adroddwr
  • VoiceOver
Yn ôl i'r brig