Yn unol â gofynion Siarter Frenhinol y BBC, mae Ofcom wedi datblygu ‘Fframwaith Gweithredu’ ar gyfer y BBC, sy’n cynnwys rheoleiddio perfformiad y BBC, ei gydymffurfiad â safonau cynnwys a’r effaith ar gystadleuaeth.
Mae'r Fframwaith Gweithredu yn cynnwys yr amodau rheoleiddio mae Ofcom yn eu hystyried yn addas er mwyn i'r BBC gyflawni ei Chenhadaeth a hyrwyddo'r Dibenion Cyhoeddus.
Mae'r dogfennau isod ar gael yn Saesneg.
Introduction to Ofcom’s Operating Framework for the BBC (PDF, 1.4 MB)
Operating Framework – setting and amending the Licence (PDF, 390.8 KB)
Operating Framework – setting and amending performance measures (PDF, 154.2 KB)
Y Drwydded Weithredu
Mae'r Drwydded Weithredu yn cyflwyno'r amodau rheoleiddiol mae Ofcom yn eu hystyried yn briodol ar gyfer ei gwneud yn ofynnol i'r BBC i gyflawni ei Chenhadaeth ac i hyrwyddo'r dibenion cyhoeddus.
Y drwydded weithredu ar gyfer Gwasanaethau Cyhoeddus y BBC yn y DU (6 Awst 2024)
Mae fersiynau hŷn o'r Drwydded Weithredu ar gael yn y tabl isod.
Adolygiad o sut rydym yn rheoleiddio'r BBC
Yn dilyn ein hymgynghoriad ym mis Gorffennaf, mae'r arolwg hwn yn nodi ein newidiadau arfaethedig i'r ffordd rydym yn rheoleiddio'r BBC, er mwyn sicrhau y gall barhau i gyflawni ar gyfer cynulleidfaoedd mewn tirwedd cyfryngau sy'n newid, a pharhau i fod yn berthnasol iddynt. Rydym wedi cynnwys argymhellion i Lywodraeth y DU eu hystyried fel rhan o'i Harolwg Canol Tymor o Siarter y BBC.
Adroddiad: Sut mae Ofcom yn rheoleiddio'r BBC
Ochr yn ochr â'n hadolygiad, rydym hefyd wedi cyhoeddi:
- diweddariad o benderfyniadau ymdrin â chwynion sy'n gofyn i'r BBC i fod yn llawer fwy tryloyw gyda'i chyfundrefn 'BBC First';
- ymgynghoriad ar foderneiddio Trwydded Weithredu'r BBC er mwyn iddo barhau'n effeithiol nawr ac yn y dyfodol, yn sicrhau bod y BBC yn cyfleu cynnwys safonol, unigryw a gwasanaethau i'r holl gynulleidfaoedd; ac
- ymchwil pwrpasol i ddisgwyliadau cynulleidfaoedd am y BBC, cwynion BBC First a didueddrwydd dyladwy.
Ar ôl ymgynghori, bu i ni benderfynu gosod gofyniad newydd ar y BBC i roi cyhoeddusrwydd i newidiadau i'w wasanaethau cyhoeddus sy'n debygol o fod yn destun asesiad materoldeb gan y BBC, i'w annog i fod yn fwy tryloyw gyda rhanddeiliaid ynghylch ei gynlluniau ac yn fwy cyson ynghylch sut y mae'n rhoi cyhoeddusrwydd iddynt. Rydym hefyd wedi gwneud mân newidiadau i'r gofynion masnachu a gwahaniad.
Rydym hefyd wedi cyhoeddi canfyddiadau ein hadolygiad o'r rhyngweithio rhwng BBC Studios a Gwasanaeth Cyhoeddus y BBC.