Ni fu erioed yn bwysicach diogelu eich hun yn erbyn galwadau a negeseuon testun sgam.
Gall cyfnodau siopa prysur fel Dydd Gwener Du a'r cyfnod cyn y Nadolig roi cyfleoedd ychwanegol i dwyllwyr sgamio pobl. Yn aml, mae troseddwyr yn dynwared sefydliadau dilys mewn ymgais i roi'r dwyllo dioddefwyr a dwyn eu harian. Felly mae'n bwysig bod yn hynod ofalus os byddwch yn derbyn neges destun am barsel rydych efallai yn ei ddisgwyl, er enghraifft, neu alwad sy'n honni fod gan eich banc.
Nododd ymchwil gan Ofcom fod wyth o bob deg o bobl wedi profi rhyw fath o sgam dros y ffôn yr haf diwethaf, ond bod llai na dau o bob deg wedi adrodd amdanynt i'r awdurdodau perthnasol.
Ond mae gwasanaeth hawdd, y gallwch ei ddefnyddio am ddim i roi gwybod am negeseuon testun neu alwadau amheus rydych yn eu derbyn ar eich ffôn symudol. 7726 yw ei enw.
Beth yw 7726?
Mae 7726 yn rhif y gall y gall y mwyafrif o gwsmeriaid symudol sy'n defnyddio rhwydweithiau'r DU ei decstio i roi gwybod am negeseuon SMS neu alwadau ffôn digroeso ar ffôn symudol. Dewiswyd y rhif '7726' am ei fod yn sillafu 'SPAM' ar bysellbad ffôn alffaniwmerig – mae hynny'n ffordd ddefnyddiol o'i gofio.
Gwyliwch y fideos isod i ddysgu sut i anfon negeseuon testun sgam neu sbam a galwadau ymlaen at 7726 ar ffonau iOS ac Android. Pan fyddwch wedi gwneud hyn, gall eich darparwr symudol ymchwilio i'r rhif ac o bosib ei rwystro, os canfyddir ei fod yn niwsans.
Os ydych chi'n meddwl eich bod wedi cael eich twyllo
Os ydych chi’n credu eich bod wedi dioddef twyll, rhowch wybod i Action Fraud cyn gynted â phosib. Gallwch wneud hyn drwy ffonio 0300 123 2040 neu fynd i wefan Action Fraud.
Action Fraud yw'r ganolfan adrodd ar gyfer twyll a seiberdroseddu yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Yn Yr Alban dylid adrodd am dwyll neu unrhyw drosedd ariannol arall i'r Heddlu ar 101.
Mwy o wybodaeth
Yn ogystal â sgamiau, mae mathau eraill o alwadau a negeseuon digroeso efallai y byddwch eisiau diogelu'ch hun yn eu herbyn. Bwrw golwg ar ein harweiniad ar sut i wneud hynny.