Bydd y dechnoleg a ddefnyddiwn ar hyn o bryd i wneud galwadau ffôn llinell dir yn cael ei huwchraddio dros y blynyddoedd i ddod. Ond beth mae hyn yn ei olygu i chi fel cwsmer?
Mae'r seilwaith a ddefnyddir i ddarparu galwadau llinell dir yn hen ac mae angen ei ddisodli
Yn draddodiadol, mae galwadau ffôn llinell dir wedi'u darparu dros rwydwaith sydd wedi'i adwaen fel y Rhwydwaith Cyfnewidfeydd Ffôn Cyhoeddus (PSTN). Mae'r rhwydwaith hwn yn hen ac yn mynd yn fwyfwy anodd a drud i'w gynnal a chadw. Felly mae angen ei newid.
Mae newid y PSTN nawr yn sicrhau y bydd gwasanaethau ffôn cartref dibynadwy yn parhau i fod ar gael.
Nid yn y DU yn unig y mae hyn yn digwydd. Mae'r newidiadau hyn yn digwydd ar draws y byd, ac mae llawer o wledydd wedi'u cwblhau erbyn hyn.
Mae BT wedi gwneud y penderfyniad i ymddeol ei PSTN erbyn mis Rhagfyr 2025 ac mae hyn yn golygu bod yn rhaid i ddarparwyr eraill sy'n defnyddio rhwydwaith BT ddilyn yr un amserlen. Mae cwmnïau eraill sydd â'u rhwydweithiau eu hunain fel Virgin Media yn bwriadu dilyn amserlen debyg.
Yn ogystal, mae darparwyr telathrebu hefyd yn buddsoddi mewn systemau a rhwydweithiau newydd - er enghraifft, trwy uwchraddio hen linellau band eang copr i ffeibr llawn. Bydd angen iddynt newid cwsmeriaid i ffwrdd o'r hen PSTN ar yr un pryd ag uwchraddio eu technoleg.
Mae hyn yn golygu y bydd galwadau llinell dir yn cael eu darparu yn y dyfodol dros dechnoleg ddigidol o'r enw Llais dros Brotocol Rhyngrwyd (VoIP). Efallai y byddwch yn gweld cyfeiriadau at hyn fel ‘digital phone’ neu ‘digital voice’.
Bydd angen i gwsmeriaid sydd am gadw ffôn llinell dir symud i wasanaeth VoIP
Mae'r newidiadau hyn eisoes wedi dechrau, ond nid oes angen i chi wneud unrhyw beth nes i'ch darparwr gysylltu â chi i ddweud wrthych fod eich gwasanaeth yn newid. Fel arall, os ydych am symud i wasanaeth VoIP nawr, gallwch wneud hynny drwy uwchraddio i becyn ffôn a band eang newydd.
Ar ôl i chi symud i wasanaeth VoIP, bydd eich ffôn llinell dir yn gweithio yn yr un ffordd ag y mae wedi erioed. Fodd bynnag, fel yr esboniwn isod, bydd rhai gwahaniaethau.
Gwneud galwadau ffôn mewn toriad trydan
Yn wahanol i rai ffonau analog traddodiadol â chysylltiad gwifren, dim ond os oes ganddo batri wrth gefn y bydd ffôn digidol yn gweithio mewn toriad trydan.
Os ydych yn ddibynnol ar eich ffôn llinell dir - er enghraifft, os nad oes gennych ffôn symudol neu os nad oes signal symudol yn eich cartref - mae'n rhaid i'ch darparwr gynnig datrysiad i chi i sicrhau y gallwch gysylltu â'r gwasanaethau brys pan fydd toriad trydan yn digwydd. Er enghraifft, ffôn symudol (os oes gennych signal), neu uned batri wrth gefn ar gyfer eich ffôn llinell dir.
Dylid darparu'r datrysiad hwn yn rhad ac am ddim i bobl sy'n ddibynnol ar eu llinell dir. Os nad ydych yn gymwys i gael datrysiad cydnerthedd am ddim, efallai y bydd modd i chi brynu un gan eich darparwr neu fanwerthwr arall - siaradwch â'ch darparwr am opsiynau.
Dylai eich darparwr drefnu i ddarparu'r offer sydd ei angen i'ch cadw mewn cysylltiad
Os oes angen unrhyw offer newydd arnoch i wneud i'ch ffôn llinell dir weithio - er enghraifft, llwybrydd newydd, set ffôn newydd neu os oes angen gwasanaeth band eang newydd arnoch, bydd eich darparwr yn trefnu hyn.
Gwnewch yn siŵr bod eich darparwr yn gwybod am eich anghenion a'ch amgylchiadau
Pan ddaw'r amser i uwchraddio eich ffôn llinell dir, dylech siarad â'ch darparwr am eich amgylchiadau a sut y bydd y gwasanaeth yn gweithio i chi. Er enghraifft, os oes angen help ychwanegol arnoch i newid eich gwasanaeth drosodd, os ydych yn ddibynnol ar eich ffôn llinell dir i wneud galwadau mewn toriad trydan, neu os ydych yn defnyddio offer sy'n cysylltu drwy eich llinell ffôn fel teleofal neu larwm lladron.
Efallai y bydd angen i chi newid eich larwm gofal, larwm diogelwch neu beiriant ffacs
Efallai y bydd rhai dyfeisiau penodol y mae pobl yn eu defnyddio gartref, megis larymau gofal, larymau diogelwch a pheiriannau ffacs hefyd wedi'ch cysylltu â'ch llinell dir. Os oes gennych ddyfais fel hon, efallai y bydd angen ei newid neu ei hailgyflunio i barhau i weithio ar ôl i chi symud i wasanaeth VoIP. Cyn i chi symud i wasanaeth VoIP, dywedwch wrth eich darparwr am unrhyw un o'r dyfeisiau hyn rydych chi'n dibynnu arnynt.
Pan fyddwch yn symud i wasanaeth VoIP, dylai eich darparwr ddweud wrthych beth sydd angen i chi ei wneud os oes gennych un o'r dyfeisiau hyn. Bydd hyn yn cynnwys rhoi gwybod i'ch darparwr larwm fel y gall wneud y newidiadau angenrheidiol neu ddweud wrthych a fydd eich larwm yn gweithio gyda'ch gwasanaeth VoIP newydd.
Os ydych chi'n prynu larwm neu ddyfais newydd, dylech ofyn i'r gwneuthurwr a yw'n addas ar gyfer gwasanaethau VoIP.
Cyn i chi newid i linell dir ddigidol, rhowch wybod i'ch darparwr os:
- oes gennych larwm gofal, cortyn iechyd neu larwm diogelwch sy'n defnyddio'r llinell ffôn;
- nad ydych yn berchen ar ffôn symudol, neu nad oes gennych ddigon o signal gartref i ffonio'r gwasanaethau brys mewn toriad trydan; neu
- os oes gennych anabledd neu unrhyw anghenion eraill sy'n golygu bod angen cymorth pellach arnoch gyda'r gosodiad.
Bydd eich gwasanaeth VoIP yn cael ei ddarparu dros gysylltiad band eang
Os oes gennych gysylltiad band eang eisoes, er enghraifft i gysylltu â'r Rhyngrwyd, yna bydd y gwasanaeth VoIP yn defnyddio hyn.
Os nad oes gennych gysylltiad band eang, bydd eich darparwr yn cyflenwi un yn benodol i gefnogi'r gwasanaeth VoIP, ond ni ddylech dalu'n ychwanegol am eich gwasanaeth VoIP os na fyddwch yn manteisio ar wasanaeth band eang.
Cwestiynau i'w gofyn i'ch darparwr
Cyn i chi newid i linell dir ddigidol
- Beth mae angen i mi ei wneud er mwyn i fy ngwasanaeth llinell dir newydd weithio ar unwaith?
- A fydd fy llinell dir newydd yn gweithio mewn toriad trydan?
- Beth allwch ei ddarparu os mai dim ond fy llinell dir sydd gennyf i ffonio'r gwasanaethau brys yn ystod toriad trydan?
- Sut ydw i'n gwirio a fydd dyfeisiau eraill (fel larymau gofal) sy'n defnyddio fy llinell ffôn yn gweithio?
- A fydd fy ffôn presennol yn gweithio ar y system newydd, neu a oes angen i chi anfon ffôn newydd neu gyfarpar arall ataf?
Cyn i chi newid eich band eang i fand eang ffeibr llawn (hefyd yn cael ei alw'n 'ffeibr-i'r-adeilad' neu ffeibr-i'r-cartref')
- A fydd angen ymweliad gan beiriannydd? Os bydd, beth ddylwn ei wneud i baratoi ar gyfer eu hymweliad?
- A fydd fy ngwasanaeth llais llinell dir yn cael ei effeithio gan y newid i fy ngwasanaeth band eang?
- A oes angen unrhyw gyfarpar arall, fel llwybrydd, arnaf? A fydd hyn yn cael ei ddarparu?
Bydd y newid hwn yn effeithio ar fusnesau bach hefyd
Yn yr un modd yn union â chwsmeriaid preswyl, bydd yn rhaid i fusnesau bach sydd am barhau i ddefnyddio eu llinellau tir symud i wasanaethau VoIP yn y pen draw.
Efallai y bydd gennych hefyd offer felpeiriannau talu â cherdyn,larymau, ac offer monitro sy'n cysylltu â'ch llinell dir na fyddai efallai'n gweithio ar ôl i chi symud i wasanaeth VoIP.
Siaradwch â'ch darparwr llinell dir i weld pa offer arall y mae eich busnes yn ei ddefnyddio sy'n dibynnu ar y PSTN. Dylech hefyd siarad â chyflenwr presennol yr offer hwn i gael cyngor ar opsiynau ar gyfer ei newid neu ei ailgyflunio.
Ar gyfer unrhyw ymholiadau eraill, gan gynnwys os oes gennych drefniant mwy cymhleth yn eich busnes, siaradwch â'ch darparwr llinell dir am gyngor penodol.
Mwy o wybodaeth
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y newid i VoIP, cysylltwch â’ch darparwr. Gallwch hefyd ddod o hyd i ragor o wybodaeth ar-lein:
- Mae'r gymdeithas fasnach techUK wedi esbonio beth mae'r newid i linellau ffôn digidol yn ei olygu ar gyfer cwsmeriaid preswyl a busnes ac ar gyfer darparwyr gwasanaethau neu ddyfeisiau sy'n defnyddio llinell ffôn.
- Mae Openreach wedi cyhoeddi taflenni gwybodaeth ar gyfer busnesau sy'n defnyddio llinellau ffôn i ddarparu gwasanaethau i'w helpu i ddeall sut y bydd symud i wasanaethau VoIP yn effeithio arnynt.
Mae'r penderfyniad i gau'r PSTN wedi'i wneud gan ddiwydiant, nid Ofcom na Llywodraeth y DU. Ein hamcan yw helpu i sicrhau nad yw cwsmeriaid yn wynebu aflonyddwch gormodol neu niwed o ganlyniad i'r newidiadau. Er enghraifft, mae gennym reolau i ddiogelu cwsmeriaid rhag toriadau trydan, ac i fynnu bod cwmnïau ffôn yn darparu mynediad at alwadau brys ar bob adeg. Rydym wedi cyhoeddi datganiad polisi manwl yn nodi ein hymagwedd at yr hyn o beth.