Os nad ydych yn hapus gyda’ch rhwydwaith symudol, mae hi’n haws erbyn hyn i newid i ddarparwr newydd. Gallech chi arbed arian hefyd. Mae’r canllaw hwn yn esbonio beth sydd angen i chi wneud.
Darparwr negeseuon i newid symudol
Rydyn ni wedi eu gwneud hi’n haws i chi adael eich darparwr symudol presennol. Mae rheolau Ofcom yn golygu gallwch newid darparwr symudol drwy anfon neges destun syml, rhad ac am ddim i’ch darparwr presennol.
Mae’r broses ‘neges i newid’ yn rhoi mwy o reolaeth i chi ynghylch faint o gysylltiad sy’n rhaid i chi gael gyda’ch darparwr cyfredol.
Sut i newid ac i gadw'ch rhif symudol
Os ydych chi eisiau newid a chadw’ch rhif ffôn presennol, anfonwch neges destun yn dweud ‘PAC’ i 65075 i ddechrau’r broses.
(Mae'r fideo hwn ar gael yn Saesneg yn unig.)
Bydd eich darparwr yn ateb eich neges destun o fewn munud. Byddan nhw’n anfon eich cod newid neu ‘PAC’ atoch chi a fydd yn ddilys am 30 diwrnod. Rhaid i ateb y darparwr hefyd gynnwys gwybodaeth bwysig -fel unrhyw ffioedd sy’n daladwy os ydych yn gadael eich cytundeb yn gynnar; neu eich balans credyd os ydych yn gwsmer talu-wrth-ddefnyddio.
Gallwch chi hefyd ofyn am eich PAC drwy fewngofnodi i mewn i'ch cyfrif ar-lein drwy wefan eich darparwr. Pan rydych chi'n gwneud hyn, mae'n rhaid i'ch darparwr ddarparu eich PAC o fewn un munud, yn union fel y bydden nhw'n gorfod gwneud os byddech wedi gofyn amdano drwy neges destun.
Bydd angen i'r cwsmeriaid hynny sydd â chyfrif sydd yn cynnwys mwy nag un rhif wedi ei gysylltu i'w cyfrif -er enghraifft, y rhai hynny gyda phecynnau symudol teulu -ofyn am eu PAC ar-lein neu drwy ffonio amdano.
Yna rydych chi’n rhoi’r PAC i’ch darparwr newydd ac mae’n rhaid iddyn nhw drefnu bod y newid yn digwydd o fewn un diwrnod gwaith.
Mae’r broses wedi cael ei chynllunio i fod yn gyflym ac yn hawdd, felly gallwch ofyn am eich cod PAC wrth chwilio am fargen newydd - er enghraifft, tra byddwch chi ar y ffôn gyda darparwr newydd, neu mewn siop, neu ar wefan cymharu prisiau.
Wrth gofrestru â darparwr newydd, gallwch hefyd wneud cais i gadw eich hen rif ffôn am ddim drwy gysylltu â nhw hyd yn oed os ydych chi eisoes wedi canslo eich gwasanaeth blaenorol (ar yr amod eich bod yn gwneud cais o fewn mis i ganslo).
Os hoffech chi gadw eich ffôn symudol presennol, efallai bydd angen i chi wirio os yw’n rhan o (neu wedi ei ‘gloi’) i’ch rhwydwaith presennol.
Sut i newid a chael rhif ffôn newydd
I newid ac i gael rhif ffôn newydd, anfonwch y neges ‘STAC 'i 75075. Os oes gan gwsmeriaid mwy nag un rhif yn eu cyfrif- er enghraifft, y rhai hynny gyda phecynnau symudol teuluol -bydd angen iddynt ofyn am eu STAC ar-lein neu drwy ffonio amdano.
Mae gweddill y broses yr un fath â'r uchod.
Sut i wirio statws eich cytundeb
Os ydych chi dal mewn cyfnod contract gyda’ch darparwr, efallai bydd angen i chi dalu ffioedd terfynu’n gynnar. Os nad ydych chi’n siŵr, gallwch anfon y neges ‘INFO’ i 85075 i gael yr wybodaeth heb ofyn am god newid PAC neu STAC.
Dysgwch os ydych chi allan o gontract.
Osgoi ffioedd dwbl wrth newid
Mae Ofcom wedi gwahardd darparwyr symudol rhag godi ffioedd am gyfnodau rhybudd sy’n rhedeg ar ôl y dyddiad newid.
Mae angen i chi roi eich cod newid PAC neu STAC i’ch darparwr newydd, fel bod eich cwmnïau symudol hen a newydd yn gallu sicrhau nad oes yna daliad dwbl.
Ni ddylech golli mwy nag un diwrnod gwaith o wasanaeth wrth newid darparwr, a dylai darparwyr eich digolledu os bydd pethau’n mynd o le.