Galwadau’r Deyrnas Unedig

Cyhoeddwyd: 31 Mawrth 2022

Bob dydd, mae pobl yn defnyddio rhifau gwasanaeth i wneud galwadau ffôn i gwmnïau a sefydliadau, cysylltu ag ymholiadau rhifau ffôn neu hyd yn oed i bleidleisio mewn sioeau teledu.

Ond roedd hi'n anodd gwybod faint oedd cost galw'r rhifau hyn -sy'n dechrau gydag 08,09 neu 118.

Newidodd hyn yng Ngorffennaf 2015, dan system newydd sy'n gwneud y gost o alw rhifau gwasanaeth yn glir i bawb. Fe'i gelwir yn Galwadau'r Deyrnas Unedig, a dyma'r newid mwyaf i alwadau ffôn ers dros ddegawd.

Sut roedd pethau'n gweithio o'r blaen

Mae'n bosibl y byddwch chi’n cofio gweld gwybodaeth am gost galwadau yn y gorffennol a oedd yn edrych yn debyg i hyn:

“Mae galwadau'n costio 20c y funud o linell dir BT. Mae cost llinellau sefydlog eraill yn gallu amrywio ac mae galwadau o ffonau symudol yn gallu bod yn uwch o lawer.”

Mae hyn yn ei gwneud hi'n anodd gwybod y gost, oni bai eich bod yn digwydd galw o linell dir BT.

Sut mae'n gweithio ar hyn o bryd

Ers 1 Gorffennaf 2015, mae cost ffonio rhifau gwasanaethau yn cynnwys dwy ran:

Tâl mynediad: Mae'r rhan hon o gost yr alwad yn mynd i'ch cwmni ffôn, ar gyfradd ceiniogau'r funud. Fe fyddan nhw'n dweud wrthych chi faint fydd y tâl mynediad ar gyfer galwadau i rifau gwasanaeth. Nodir hyn yn glir ar filiau a phan fyddwch chi'n ymgymryd â chontract.

Tâl gwasanaeth: Dyma weddill y tâl am yr alwad. Y sefydliad rydych chi'n ei ffonio sy’n penderfynu ar hyn, a bydd yn dweud wrthych faint yw’r gost.

Gadewch i ni feddwl am enghraifft.

Dywedwch bod eich cwmni ffôn penodol yn codi tâl o 5c y funud arnoch chi am alwadau i rifau gwasanaeth - hynny yw, eu tâl mynediad. A dywedwch mai 20c y funud yw tâl gwasanaeth rhif penodol yr hoffech ei ffonio. Yn yr achos hwnnw, fe fyddech chi'n gweld gwybodaeth fel hyn:

“Bydd galwadau'n costio 20c y funud, a ffi mynediad eich cwmni ffôn.”

Yn yr enghraifft benodol hon, byddai'r alwad yn costio 20c y funud (y tâl gwasanaeth), ynghyd â 5c y funud (y tâl mynediad). Felly byddai'r alwad yn costio 25c y funud i chi.

Y rhifau sy'n cael eu heffeithio

Mae'r rheolau hyn yn berthnasol i bob galwad gan ddefnyddwyr i rifau 084, 087, 09 ac 118 ar draws y Deyrnas Unedig, gan ddarparu cyfraddau galwadau mwy eglur i bawb.

Nid yw'r rheolau yn effeithio ar alwadau a wnaed i rifau llinell dir cyffredin (01, 02), rhifau 03 na rhifau symudol (07). Nid ydyn nhw chwaith yn effeithio ar alwadau a wneir o ffonau talu, galwadau rhyngwladol, na galwadau i'r Deyrnas Unedig wrth grwydro dramor.

Rhadffôn

Yn ogystal, mae'r holl rifau rhadffôn ('freephone' sy'n dechrau 0800 neu 0808) bellach yn rhad ac am ddim i ddefnyddwyr euy ffonio o bob ffôn, boed yn ffonau symudol neu'n ffonau llinell dir.

Costau galwadau

Cewch ragor o wybodaeth drwy ddefnyddio canllaw costau galwadau Ofcom.

Sut mae Galwadau'r DU yn effeithio ar fusnesau?

Yn ôl i'r brig