Mae llawer o bobl yn dibynnu ar wasanaeth band eang dibynadwy a chyflym. Ond weithiau gallai eich gwasanaeth fethu cynnig y cyflymder sydd eu hangen arnoch, neu a addawyd i chi pan wnaethoch lofnodi’r cytundeb.
Yn gyntaf, meddyliwch am y cyflymder sydd eu hangen arnoch, ar sail eich anghenion, gan ddefnyddio ein teclyn gwirio band eang.
Os ydy eich cyflymder yn gostwng yn is na’r lefel cafodd ei addo gan eich darparwr, yna mae ganddynt fis i wella perfformiad neu bydd yn rhaid iddyn nhw dderbyn eich bod yn gallu gadael heb gosb.
Ond mae yna gamau ymarferol eraill gallwch chi eu cymryd i wella cyflymder a pherfformiad eich gwasanaeth.
Mae nifer o ffactorau sy'n effeithio cyflymdra eich cysylltiad band eang.
Mae pellter eich cartref o'r gyfnewidfa ffôn, ar ba amser o'r dydd rydych chi'n mynd ar-lein a faint o bobl sy'n eich cartref sy'n defnyddio'r rhyngrwyd ar yr un pryd -gall pob un o'r rhain arafu eich cysylltiad chi.
Hefyd, efallai nad yw eich dyfais wedi'i gosod yn gywir neu efallai fod y llinell sy'n darparu'r cysylltiad rhyngrwyd i'ch cartref wedi malu a gallai polisïau rheoli traffig eich darparwr rhyngrwyd fod yn ffactor hefyd.
Gallai’r awgrymiadau canlynol helpu i wella’ch cyflymder - mae’r tri olaf (8-10) yn berthnasol os ydych chi’n cael eich band eang drwy eich llinell ffôn yn hytrach na drwy gebl.
Bydd hyn yn dangos pa gyflymder rydych chi'n ei gael mewn gwirionedd. Profwch eich llinell dros ychydig ddiwrnodau gan wneud hynny ar wahanol amseroedd. Mae gan wefannau cymharu prisiau, sydd wedi cael eu hachredu gan Ofcom, Broadband.co.uk, broadbandchoices.co.uk a Simplifydigital i gyd brofion cyflymder.
Os oes gennych chi broblem â’ch cysylltiad, rydym yn awgrymu i chi gysylltu â’ch darparwr yn gyntaf. Dylai allu eich helpu i ddatrys beth sy’n achosi hyn a sut gallech chi ei drwsio.
Gwiriwch os ydych chi'n defnyddio fersiwn diweddaraf eich porwr gwe-mae fersiynau newydd yn sicrhau gwell diogelwch ac maent yn gweithio'n gyflymach hefyd. Gallwch wirio eich porwr ar y wefan Saesneg allanol, Get Safe Online.
Gall bylbiau halogen, switshys pylu, seinyddion stereo neu gyfrifiadur, goleuadau Nadolig, setiau teledu, monitorau a gwifrau AC i gyd effeithio ar lwybryddion. Cadwch eich llwybrydd cyn belled ag y gallwch oddi wrth ddyfeisiau trydanol eraill yn ogystal â’r rhai sy’n allyrru signalau diwifr fel ffonau diwifr, offer monitro babanod ac ati. Ceisiwch roi eich llwybrydd ar fwrdd neu ar silff yn hytrach nag ar y llawr a gwnewch yn siŵr ei fod ymlaen drwy’r amser.
Os oes gennych hen lwybrydd neu os yw eich llinell yn datgsysylltu'n rheolaidd, efallai y byddai o fudd i chi uwchraddio. Siaradwch â'ch darparwr am hyn.
Os na fyddwch chi’n cadw eich llwybrydd band eang di-wifr yn ddiogel, gall unrhyw un gerllaw fewngofnodi i’ch band eang. Gallai hyn arafu eich cyflymder band eang, yn ogystal â pheryglu eich diogelwch ar-lein. I weld a ydych chi’n ddiogel, chwiliwch am y rhwydweithiau di-wifr sydd ar gael. Os yw eich rhwydwaith yn ddiogel, dylai fod symbol clo wrth ei ymyl. Os nad oes symbol clo wrth ei ymyl, bydd angen i chi osod cyfrinair i ddiogelu eich llwybrydd. Defnyddiwch gyfrinair sy’n cynnwys cymysgedd o rifau a llythrennau mawr a bach. Os nad ydych chi’n siŵr sut mae gosod neu newid cyfrinair, cysylltwch â’ch darparwr.
Defnyddiwch gebl Ethernet i gysylltu eich cyfrifiadur â’ch llwybrydd yn uniongyrchol yn hytrach na defnyddio Wi-Fi. Cebl rhwydweithio cyfrifiadurol yw cebl Ethernet a ddylai roi cysylltiad cyflymach a mwy dibynadwy i chi.
Gallai ymyrraeth arafu eich band eang. Defnyddiwch ficro-hidlydd a cheisiwch beidio â defnyddio gwifrau estyniad ffôn – gall gwifrau achosi ymyrraeth a allai ostwng eich cyflymder. Os oes rhaid i chi ddefnyddio gwifren estyniad, defnyddiwch gebl newydd o ansawdd uchel gyda'r hyd byrraf posibl.
Cod Ymarfer Cyflymderau Band Eang
Mae’r rhan fwyaf o Ddarparwyr Gwasanaeth Rhyngrwyd wedi ymrwymo i God Ymarfer Cyflymderau Band Eang, sy’n sicrhau bod eich darparwr yn rhoi gwybodaeth i chi am y cyflymder y gallwch ddisgwyl ei gael. Darllenwch ganllaw i gwsmeriaid ar y cod.
O dan y Cod hwn, mae Darparwyr Gwasanaeth Rhyngrwyd wedi ymrwymo i wneud y canlynol:
- rhoi gwybodaeth i gwsmeriaid am amcan o amrediad eu cyflymder, yn ysgrifenedig ar ddechrau contract;
- caniatáu i gwsmeriaid adael contractau heb gael eu cosbi os yw eu cyflymderau'n sylweddol is na’u hamcan gwreiddiol;
- egluro'n glir ac yn syml sut gall ffactorau technegol (er enghraifft, pa mor bell rydych chi’n byw o'r gyfnewidfa) arafu’r cyflymder y mae’n bosib i chi ei gael, a rhoi help a chyngor i chi os oes modd i chi wneud rhywbeth eich hun gartref i wella’r sefyllfa;
- cael prosesau cadarn ar waith i sicrhau bod modd ymdrin â phroblemau cwsmeriaid o ran cyflymder yn gyflym ac yn effeithiol.
Wrth brynu gwasanaeth band eang, gwiriwch a yw eich Darparwr Gwasanaeth Rhyngrwyd wedi ymrwymo i’r Cod a gwnewch yn siŵr eich bod yn cael amcan o’r cyflymder band eang cyflymaf y gallwch ei gael.
Ym mis Medi 2022, cafodd y codau ymarfer cyflymderau band eang eu diweddaru. Gallwch ddarllen mwy am y diweddariadau yng nghodau ymarfer cyflymderau band eang 2022 sy'n berthnasol i wasanaethau band eang o 21 Rhagfyr 2022 ymlaen. Rydym hefyd wedi diweddaru ein canllaw i ddefnyddwyr ar godau ymarfer cyflymderau band eang i adlewyrchu’r newidiadau hyn
Rhwymedigaeth Gwasanaeth Cyffredinol Band Eang
Ers mis Mawrth 2020, mae’r rhwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol (USO) band eang wedi rhoi hawl i bobl yn y Deyrnas Unedig ofyn am gysylltiad band eang boddhaol a fforddiadwy.