Mae Ofcom yn mynnu bod pob cwmni ffonau llinell sefydlog a ffonau symudol yn darparu nifer o wasanaethau ar gyfer cwsmeriaid sydd ag anableddau
Un o'r rhain yw amynediad at wasanaeth cyfnewid testun, 'Text Relay' cymeradwy ar gyfer pobl sydd â nam ar eu clyw neu eu lleferydd.
Beth yw'r gwasanaeth?
Mae’n cynnig gwasanaethau cyfieithu testun i lais, a llais i destun. Mae cynorthwyydd cyfnewid mewn canolfan alwadau yn ymddwyn fel canolwr, yn galluogi pobl sydd â nam ar eu clyw neu ar eu lleferydd i gyfathrebu â phobl eraill dros y ffôn.
Mae Ofcom yn cymeradwyo darparwyr y gwasanaeth, ac mae wedi gosod safonau sylfaenol ar ei gyfer er mwyn sicrhau bod y defnyddwyr yn cael profiad cadarnhaol. BT yw’r darparwr cyntaf i gael ei gymeradwyo gan Ofcom am ei Wasanaeth Testun y Genhedlaeth Nesaf.
Mae pob cwmni ffonau llinell sefydlog ar hyn o bryd yn rhoi mynediad at wasanaeth BT i'w cwsmeriaid.
Rydym wedi bod yn gweithio gyda rhanddeiliaid anabledd a rhanddeiliaid diwydiant er mwyn cyflawni gwelliannau i’r gwasanaeth ‘Text Relay’, i wella profiad defnyddwyr y gwasanaeth.
Mae gwasanaeth 'Text Relay' y Genhedlaeth nesaf, sydd wedi gweld gwelliannau yn galluogi:
*i ystod ehangach o offer prif ffrwd gael mynediad at y gwasanaeth (e.e. cyfrifiaduron, gliniaduron, tabledi a ffonau clyfar);
*llais, clywed a thestun ar yr un pryd, sy’n galluogi i sgwrs lifo’n well, ac yn rhoi’r gallu i dorri ar draws, a pheidio gorfod dweud neu deipio ‘go ahead’ ar ôl pob rhan o'r sgwrs; a
*sgyrsiau cyflymach i bobl sy’n gallu siarad yn dda/yn ddealladwy.
Ceir rhagor o wybodaeth am ein gwaith i wella'r gwasanaeth 'text relay' ar y wefan hon
Sut mae defnyddio'r gwasanaeth?
Gallwch ddefnyddio gwasanaeth trwy ddefnyddio amryw o offer gwahanol, gan gynnwys ffôn testun, cyfrifiadur, gliniadur a ffôn clyfar.
Ond, bydd angen dyfais sydd â chysylltiad i'r rhyngrwyd arnoch er mwyn gallu manteisio ar yr holl welliannau sydd wedi cael eu cyflawni gan wasanaeth ‘Text Relay’ y genhedlaeth nesaf.
Sut mae ffonio rhywun sydd â nam ar eu clyw neu nam ar eu lleferydd?
Yn syml, ffoniwch y rhif maent wedi ei roi i chi. Nid oes angen unrhyw offer arbennig arnoch.
Os oeddech chi’n defnyddio’r gwasanaeth ‘Text Relay’ i ffonio pobl â nam ar eu clyw neu nam ar eu lleferydd cyn lansiad gwasanaeth ‘Text Relay’ y Genhedlaeth Nesaf, yna efallai eich bod chi wedi arfer pwyso’r rhifau rhagddodi 18002 cyn rhoi rhif ffôn y person roeddech yn ei ffonio, er mwyn ychwanegu cynorthwyydd ‘Text Relay’ at yr alwad.
Mae gan Aled ffôn symudol talu wrth ddefnyddio. Mae £10 yn para mis iddo ar ei ffôn, ac mae hynny’n rhoi 75 munud, 500 neges destun a 250MB o ddata iddo.
Ddydd Llun mae Aled yn defnyddio ei ffôn clyfar i wneud galwad drwy'r gwasanaeth 'Text Relay' gan ddarllen y testun ar ei liniadur gan ddefnyddio Wi-Fi mewn caffi. Mae'r alwad yn defnyddio peth o'i lwfans galwadau sy'n 75 munud.
Ddydd Mawrth mae'n gwneud galwad ar ei llinell dir sefydlog ac yn darllen y testun ar ei ffôn clyfar. Mae'r data sy'n cael ei ddefnyddio gan ap Gwasanaeth Testun y Genhedlaeth nesaf i ddangos y testun yn defnyddio peth o'i lwfans data sy'n 250MB.
Mae gen i nam ar fy nghlyw a/neu nam ar fy lleferydd - sut ydw i’n gwneud galwad drwy'r gwasanaeth ‘Text Relay’?
I wneud galwad drwy’r gwasanaeth ‘Text Relay’, mae angen i chi ffonio 18001 ac yna rhif ffôn y person rydych yn ei ffonio.
I ddefnyddio'r gwasanaeth ar ddyfais fel ffôn clyfar neu gyfrifiadur, mae hefyd angen i chi lwytho ap Gwasanaeth Testun y Genhedlaeth Nesaf i lawr am ddim ar www.ngts.org.uk, neu ar siop apiau fel Google Play neu’r App Store.
Gallwch wneud galwad drwy'r gwasanaeth ‘Text Relay’ mewn sawl ffordd wahanol a gan ddefnyddio amryw o ddyfeisiau gwahanol. Er enghraifft, gallwch ddefnyddio:
- ffôn llinell sefydlog cyffredin neu ffôn symudol ar gyfer rhan llais yr alwad, a dyfais sydd â chysylltiad i’r rhyngrwyd (fel cyfrifiadur, gliniadur, ffôn clyfar neu dabled) i weld y testun;
- un ddyfais yn unig, fel ffôn clyfar. Bydd hyn ond yn gweithio os oes gennych chi hefyd fynediad at Wi-Fi, neu os yw eich dyfais yn gallu gwneud galwad ac yn gallu defnyddio cysylltiad rhyngrwyd 3G neu 4G ar yr un pryd. Am ragor o wybodaeth am ba ddyfeisiau sy’n gallu gwneud hyn, ewch i www.ngts.org.uk.
Os oes gennych chi ffôn testun, gallwch barhau i'w ddefnyddio, ond ni fyddwch yn gallu manteisio ar y nodweddion gwell sydd ar gael gan wasanaeth ‘Text Relay’ y genhedlaeth nesaf, fel y gallu i glywed llais y person arall a gweld y testun ar yr un pryd.
Mae Sally wrth ei bod yn siarad gyda'i ŵyr, Freddie, dros y ffôn, gan ei fod yn byw yn rhy bell i ffwrdd iddi ymweld ag ef yn aml. Mae ganddi nam ar ei chlyw ac mae'n cael trafferth clywed yr hyn mae Freddie yn ei ddweud, yn enwedig pan mae e wedi ei gyffroi.
Gan ddefnyddio gwasanaeth 'Text Relay' y Genhedlaeth Nesaf, mae hi'n gallu clywed llais Freddie a darllen y testun ar ei thabled er mwyn deall beth mae ef yn ei ddweud.
Does dim ots bod Freddie yn rhy ifanc i ddeall sut mae'r gwasanaeth cyfnewid testun yn gweithio -mae'r sgwrs yn llifo'n naturiol ac mae ef yn hapus i glywed llais ei nain.
Beth yw TextNumbers?
Os oes gennych chi nam ar eich clyw neu ar eich lleferydd, mae gennych y dewis o gael rhif ffôn newydd sy’n cael ei alw’n TextNumber.
Mae TextNumbers yn rhif ffôn safonol, 11 rhif, a fydd yn rhoi’r gwasanaeth cyfnewid ar waith yn awtomatig. Mae hynny'n golygu na fydd y bobl sy’n eich ffonio yn gorfod defnyddio’r rhif rhagddodi 18002 cyn eich ffonio. Mae TextNumbers ffonau symudol yn dechrau gyda 07, ac mae TextNumbers ffonau llinell sefydlog yn dechrau gyda 03.
Gallwch roi eich TextNumber i ffrindiau, teulu, cydweithwyr, pobl fasnach, neu i'ch doctor – unrhyw un rydych eisiau iddynt allu eich ffonio’n hawdd. Nid oes rhaid iddynt wybod am y gwasanaeth cyfnewid testun ‘Text Relay’ cyn gwneud yr alwad, ond efallai y byddwch yn ei weld yn ddefnyddiol pe baech yn dweud rhywbeth fel “rhowch eiliad i mi os gwelwch yn dda, rwy’n darllen capsiynau ar yr alwad hon” i roi gwybod i'r person arall ei bod hi’n bosib y bydd oedi cyn i chi ymateb i’r hyn maent wedi ei ddweud.
Bydd angen TextNumber ar gyfer pob un rhif rydych yn ei ddefnyddio’n gyson (er enghraifft: eich cartref, yn y gwaith, ffôn symudol). Os oes gennych chi TextNumber, bydd yn ymddangos fel eich manylion Adnabod y Galwr chi pan fyddwch yn gwneud galwadau.
Am ragor o wybodaeth am TextNumbers a sut i gael rhai, ewch i www.ngts.org.uk
Faint mae’n ei gostio i wneud galwad drwy'r gwasanaeth ‘Text Relay’?
Mae galwadau drwy'r gwasanaeth ‘Text Relay’ yn costio'r un faint â galwad ffôn safonol. Mae’r union gost yn dibynnu ar eich pecyn ffôn. Os oes gennych chi becyn sy’n cynnwys galwadau neu sy’n rhoi lwfans ffonio i chi, dylai galwadau drwy'r gwasanaeth 'Text Relay’ gael eu cynnwys yn hynny.
Mae defnyddwyr sy’n anabl hefyd yn gymwys ar gyfer tariff arbennig er mwyn eu digolledu am yr amser ychwanegol y mae galwadau cyfnewid yn ei gymryd.
Bydd hefyd angen cysylltiad â’r rhyngrwyd arnoch er mwyn elwa’n llawn ar y gwasanaeth, e.e. band eang sefydlog/Wi-Fi, 3G neu 4G. Mae ap gwasanaeth ‘Text Relay’ y Genhedlaeth Nesaf wedi ei ddylunio i ddefnyddio ychydig iawn o ddata.
Rhagor o wybodaeth
Mae Brian yn hollol fyddar. Mae ganddo TextNumber wedi ei gysylltu i'r ffôn yn ei gartref, ac mae’n ffonio ffisiotherapydd gan ddefnyddio'r gwasanaeth newid testun ‘Text Relay’ i wneud apwyntiad.
Mae’r ffisiotherapydd gyda chlaf arall ar hyn o bryd, ond mae hi’n gallu gweld ei bod wedi methu galwad gan Brian ar ei ffôn, ac mae’n ei ffonio yn ôl yn hwyrach ymlaen ar y rhif a oedd yn cael ei ddangos. Gan ei fod yn TextNumber, mae’r gwasanaeth cyfnewid yn cael ei ddefnyddio’n awtomatig.
Mae Brian yn dweud wrth y ffisiotherapydd ei fod yn darllen ei geiriau ar ei gyfrifiadur, ac felly efallai y byddai oedi cyn iddo ymateb i’r hyn mae hi’n ei ddweud.
Mae Ofcom wedi cyhoeddi canllaw ar reoli costau eich gwasanaeth cyfathrebu ar-lein.
Ffordd dda arall o gael gwybod pa fargeinion ffôn symudol neu fand eang sydd ar gael yw edrych ar y safleoedd cymharu prisiau sydd wedi cael eu hachredu gan Ofcom.
Dyfernir logo cynllun achredu pris Ofcom i wefannau y bu eu gwasanaethau cymharu prisiau drwy archwiliad annibynnol trylwyr.
Mae'r archwiliad yn gwirio a yw'r wybodaeth a ddarperir i ddefnyddwyr yn hygyrch, yn gywir, yn dryloyw, yn gynhwysfawr ac yn gyfoes.
Dolenni defnyddiol arall:
Nodwch fod y dolenni isod ar gael yn Saesneg yn unig.
Why do deaf people need a phone connection to use Next Generation Text Relay?
Can a bank or service provider refuse a relay call?
What communications services are available for disabled people?
Which phones are compatible with hearing aids?
How much does it cost to make a relay call?
Why does the NGT app disconnect after my text relay call finishes?