Cyfweliad David Icke ar London Live yn torri rheolau darlledu
Mae Ofcom wedi rhoi sancsiwn heddiw (PDF, 455.7 KB) ar ESTV ar ôl i gyfweliad gyda David Icke ar sianel teledu leol London Live ddarlledu cynnwys a allai fod yn niweidiol am y pandemig Coronafeirws.
Canfu ein hymchwiliad fod David Icke wedi mynegi safbwyntiau a allai achosi llawer o niwed i wylwyr yn Llundain yn ystod yr argyfwng. Roeddem yn poeni’n benodol am ei sylwadau a oedd yn bwrw amheuaeth am y cymhellion a oedd y tu ôl i’r cyngor iechyd swyddogol i ddiogelu’r cyhoedd rhag y feirws.
Ni chafodd yr honiadau hyn eu herio rhyw lawer yn ystod y cyfweliad hir a oedd wedi para am 80 munud a chafodd yr honiadau eu gwneud heb gefnogaeth unrhyw dystiolaeth wyddonol. Er ein bod yn cydnabod bod gan David Icke hawl i arddel ac i fynegi’r safbwyntiau hyn, roeddent mewn perygl o achosi niwed sylweddol i wylwyr a allai fod yn arbennig o agored i niwed adeg y darllediad.
Mae Ofcom yn pwysleisio nad oes gwaharddiad ar ddarlledu safbwyntiau sy’n herio neu sy’n wahanol i safbwyntiau awdurdodau swyddogol ar wybodaeth iechyd y cyhoedd. Fodd bynnag, wrth ddarlledu safbwyntiau dadleuol iawn David Icke, a’r rheini heb sail wyddonol, heb eu herio’n ddigonol neu heb eu gosod mewn cyd-destun iawn, methodd ESTV yn ei gyfrifoldeb i sicrhau bod gwylwyr yn cael eu diogelu’n ddigonol. O ganlyniad, rydym yn rhoi cyfarwyddid i London Live ddarlledu crynodeb o’n canfyddiadau ar ddyddiad ac ar ffurf a bennir gan Ofcom.
Rydym nawr hefyd yn ystyried a ddylid gosod sancsiwn arall. Er bod y Trwyddedai wedi derbyn y Cyfarwyddyd, mae o'r farn y byddai unrhyw sancsiwn pellach yn anghymesur. Mae gan y Trwyddedai gyfle i gyflwyno sylwadau i Banel Sancsiynau Ofcom cyn i'r Panel wneud penderfyniad terfynol.
Cwynion ynghylch This Morning -canllawiau wedi’u cyflwyno
Ar wahân, mae Ofcom wedi pwyso a mesur y cwynion (PDF, 285.3 KB) am sylwadau a wnaed gan Eamonn Holmes ar raglen This Morning ar ITV a oedd yn ymwneud â chamwybodaeth am Covid-19 a thechnoleg 5G.
Yn ein barn ni roedd sylwadau amwys Eamonn Holmes yn annoeth, ac yn bygwth tanseilio ymddiriedaeth y gwylwyr mewn cyngor gan awdurdodau cyhoeddus a thystiolaeth wyddonol a oedd wedi cael ei phrofi. Roedd ei ddatganiadau’n sensitif iawn hefyd yng nghyd-destun yr ymosodiadau diweddar ar fastiau ffonau symudol yn y DU o ganlyniad i honiadau ffug a oedd yn cysylltu technoleg 5G â’r feirws.
Rydym wedi ystyried y cyd-destun a roddwyd gan Alice Beer, Golygydd Defnyddwyr This Morning, wnaeth wadu’n gryf y theorïau a oedd yn cysylltu Covid-19 â 5G yn gynharach yn y rhaglen; y capsiwn amlwg ar y sgrin a oedd yn datgan mai ‘newyddion ffug’ am Covid-19 oedd gwraidd y drafodaeth; a’r datganiad ar yr awyr a roddwyd gan Mr Holmes y diwrnod canlynol. O ystyried y ffactorau hyn, rydyn ni wedi cyflwyno canllawiau i ITV a’i gyflwynwyr.
Mae gan ddarlledwyr ryddid golygyddol i drafod ac i herio’r dull gweithredu sy’n cael ei ddilyn gan yr awdurdodau cyhoeddus mewn perthynas ag argyfwng iechyd cyhoeddus fel y Coronafeirws. Fodd bynnag, mae’n rhaid rhoi mewn cyd-destun y trafodaethau am honiadau a theorïau nad ydynt wedi cael eu profi ac a allai danseilio ymddiriedaeth eu gwylwyr yn yr wybodaeth iechyd y cyhoedd swyddogol, er mwyn sicrhau bod y gwylwyr yn cael eu diogelu. Mae’r cyfrifoldebau hyn yn arbennig o bwysig ar adeg pan mae digwyddiadau parhaus -fel yr ymosodiadau yn erbyn mastiau ffonau symudol yn y DU -yn peri risg sylweddol i’r cyhoedd.