Arweiniad ar fideo ar-alwad

Cyhoeddwyd: 1 Awst 2023

Mae Ofcom yn rheoleiddio cynnwys golygyddol (rhaglenni) ar wasanaethau ‘fideo ar-alwad’ yn y DU. Ein hen gyd-reoleiddiwr, yr Awdurdod Teledu Ar-Alwad, oedd yn arwain ar hyn.

Mae gwasanaethau fideo ar-alwad yn cynnwys gwasanaethau dal i fyny teledu a ffilmiau ar-lein. Nid oes ots ar ba lwyfan y caiff y gwasanaethau ar-alwad hyn eu darparu, felly mae'n bosibl fod gwasanaethau ar setiau teledu cysylltiedig, apiau ar ffonau symudol a rhaglenni rydych chi'n eu gwylio drwy focsys pen-set i gyd yn cael eu rheoleiddio.

Mae'r ffordd y mae Ofcom yn rheoleiddio BBC iPlayer yn wahanol i wasanaethau fideo ar-alwad eraill. Cwyno am rywbeth rydych wedi’i weld ar BBC iPlayer.

Mae modd i chi weld rhestr o'r gwasanaethau rhaglenni fideo ar-alwad (PDF, 343.3KB) rydyn ni'n eu rheoleiddio. Nid yw Ofcom yn rheoleiddio gwasanaethau radio ar-alwad.

At ba reolau y mae'n rhaid i wasanaethau rhaglenni ar-alwad gadw?

Rhaid i wasanaethau rhaglenni ar-alwad sy’n cael eu rheoleiddio sicrhau'r canlynol:

Diogelu'r rhai dan 18 oed:

  • bod “deunydd dan gyfyngiadau arbennig” (sydd wedi neu a fyddai’n cael dosbarthiad R18 gan Fwrdd Dosbarthu Ffilmiau  Prydain (BBFC) neu ddeunydd arall a allai amharu’n ddifrifol ar ddatblygiad corfforol, meddyliol neu foesol pobl ifanc dan 18 oed) yn cael ei ddarparu mewn ffordd sy'n sicrhau na fydd pobl ifanc o dan 18 oed yn ei weld na’i glywed fel arfer;
  • nad yw “deunydd gwaharddedig” (na fyddai fel arfer yn cael dosbarthiad gan y BBFC) yn ymddangos;

Cymhelliant i gasineb:

  • nad ydynt yn cynnwys unrhyw ddeunydd sy’n debygol o gymell casineb ar sail hil, rhyw, crefydd neu genedligrwydd; a

Cyfeiriadau masnachol mewn rhaglenni:

  • eu bod yn cydymffurfio â’r rheolau am nawdd a lleoli cynnyrch.

Os oes gennych chi gŵyn am gynnwys golygyddol (hy rhaglenni) ar wasanaeth rhaglenni fideo ar-alwad sy’n cael ei reoleiddio, cysylltwch â darparwr y gwasanaeth ar-alwad. Rydyn ni wedi llunio rhestr o’r rhain a sut mae cysylltu â nhw (PDF, 343.3KB). Os ydych chi’n anfodlon ar yr ymateb a gewch chi, neu os na allwch chi ddod o hyd i’r darparwr gwasanaeth fideo ar-alwad ar y rhestr, cewch gwyno wrth Ofcom drwy ddefnyddio ein ffurflen gwyno gwasanaeth rhaglenni ar-alwad.

Mae rheolau ynghylch pa hysbysebion y gallwch eu gweld wrth wylio rhaglen fideo ar-alwad hefyd. Mae'n rhaid i'r math hwn o hysbysebu gadw at y rheolau canlynol:

  • rhaid iddo fod yn hawdd ei adnabod, ac ni all gynnwys unrhyw hysbysebu dirgel neu ddefnyddio technegau hysbysebu isganfyddol;
  • ni ddylai annog ymddygiad sy’n peryglu iechyd neu ddiogelwch pobl;
  • ni ddylai hysbysebu cynnyrch tybaco, meddyginiaethau sydd ond ar gael ar bresgripsiwn neu driniaethau meddygol.

Os oes gennych chi gŵyn ynglŷn â hysbyseb ar wasanaeth fideo ar-alwad sy'n cael ei reoleiddio, dylech gwyno wrth yr Awdurdod Safonau Hysbysebu gan ddefnyddio ei ffurflen gwyno ar-lein neu ffonio 020 7492 2222.

Yn ogystal â rheolau ynghylch y rhaglenni a'r hysbysebion y mae darparwyr gwasanaethau yn eu dangos, mae rheolau ynghylch sut gall darparwyr gwasanaethau weithredu

Yn ôl i'r brig