Ffioedd rheoleiddio ar gyfer gwasanaethau rhaglenni ar-alwad

Cyhoeddwyd: 31 Ionawr 2017
Ymgynghori yn cau: 29 Mawrth 2017
Statws: Ar gau (cyhoeddwyd y datganiad)

Mae Ofcom yn rheoleiddio gwasanaethau rhaglenni ar-alwad yn y DU o dan reolau yn Rhan 4A o Ddeddf Cyfathrebiadau 2003  (“y Ddeddf”). Mae wedi bod yn gyfrifol am hyn ers ysgwyddo’r unig ddyletswyddau rheoleiddio dros gynnwys golygyddol ar wasanaethau rhaglenni ar-alwad gan yr Awdurdod Teledu Ar-alwad ar 1 Ionawr 2016. Ers hynny, ac wrth ystyried bod arian dros ben yr Awdurdod Teledu Ar-alwad a drosglwyddwyd i Ofcom wedi talu am gostau gwasanaethau rhaglenni ar-alwad arfaethedig 2016/17 Ofcom, nid yw Ofcom wedi codi unrhyw ffioedd am gostau cyflawni ei gyfrifoldebau rheoleiddio, ond mae’n bwriadu gwneud hynny ar gyfer y flwyddyn ariannol 2017/18.

Yn ôl i'r brig