Cyhoeddwyd:
12 Mawrth 2024
Gwasanaethau cyfyngedig yw gwasanaethau radio sy’n rhychwantu ardaloedd bach sy’n cael eu defnyddio i ddarlledu mewn digwyddiadau, neu mewn sefydliad arbennig neu leoliadau eraill yn y DU. Ymhlith yr enghreifftiau o hyn mae:
- gwasanaethau radio dynodedig ar gyfer gwyliau crefyddol fel Ramadan;
- gwasanaethau radio ar gyfer ysbytai a phrifysgolion;
- traciau sain ffilmiau-yn-y-car; a
- sylwebaeth ar gyfer digwyddiadau.
Os ydych chi’n dymuno darlledu gwasanaeth cyfyngedig ar AM neu FM, isod fe welwch y ffurflen gais a gwybodaeth arall sydd ei hangen arnoch i wneud cais.
Os ydych chi’n dymuno darlledu gwasanaeth cyfyngedig ar safle penodol ar amleddau eraill, gallwch wneud cais am drwydded gwasanaeth cyfyngedig systemau dosbarthu sain.