Mae’r Ddeddf Cyfryngau wedi’i llunio i ddiogelu darlledu gwasanaeth cyhoeddus ac i feithrin arloesedd, er mwyn i gynulleidfaoedd y DU allu mwynhau’r gwasanaethau, y cynnwys fideo a’r rhaglenni maen nhw’n eu mwynhau.
Ym mis Mai, cafodd Deddf Cyfryngau 2024 Gydsyniad Brenhinol a daeth yn gyfraith. Y ddeddfwriaeth hon yw’r newid mwyaf i’r fframwaith cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus mewn dau ddegawd.
Beth mae’r Ddeddf Cyfryngau yn ei olygu i Ofcom?
Mae’r Ddeddf yn gwneud newidiadau i gyfrifoldebau presennol Ofcom fel rheoleiddiwr cyfryngau darlledu’r DU – gan gynnwys:
- Diweddaru’r fframwaith rheoleiddio ar gyfer radio masnachol i sicrhau cynnwys lleol pwysig.
- Sicrhau bod darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus y DU yn gallu cyflawni rhwymedigaethau, fel cwotâu, lle bynnag y mae cynulleidfaoedd yn eu disgwyl – ac nid ar deledu llinol yn unig.
- Cyflwyno dyletswyddau newydd i sicrhau bod cynnwys darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn amlwg, a bod radio’r DU yn hygyrch drwy gynorthwywyr llais.
Yn gynharach eleni, wrth i’r Ddeddf fynd drwy’r Senedd, fe wnaethom nodi ein map, a oedd yn amlinellu sut byddwn yn mynd ati i roi’r newidiadau hyn ar waith mewn modd sy’n deg, yn gymesur ac yn effeithiol.
Ers cyhoeddi ein map, rydym wedi bod yn gweithio ochr yn ochr â’r diwydiant a’r llywodraeth i baratoi ar gyfer ein dyletswyddau newydd. Mae hyn wedi cynnwys cyhoeddi cais am dystiolaeth ynglŷn â diweddaru’r drefn digwyddiadau rhestredig – sef y rheolau sy’n sicrhau bod darllediadau o rai digwyddiadau chwaraeon mawr, fel y Gemau Olympaidd neu Gwpan y Byd FIFA, ar gael yn eang ac am ddim i gynulleidfaoedd.
Beth nesaf?
Mae’r Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon wedi gosod y rheoliadau cychwyn cyntaf gerbron Senedd y DU, gan ddod â darpariaethau penodol i rym ddydd Gwener 23 Awst. Defnyddir y rheoliadau hyn i ddod â rhannau penodol o Ddeddf Seneddol i rym yn gyfreithiol ar ddyddiad penodol. Bydd y gorchymyn cychwyn cyntaf hwn yn caniatáu i ni barhau â’n cynlluniau gweithredu, gan gynnwys:
- Paratoi ar gyfer ein dyletswyddau newydd mewn perthynas â gwasanaethau fideo ar-alw, gan gynnwys adolygu eu mesurau diogelu cynulleidfaoedd.
- Parhau i ddatblygu ein dull gweithredu ar gyfer mesurau newydd ar sut bydd Darlledwyr Gwasanaeth Cyhoeddus yn dangos sut maent yn cyflawni’r cylch gwaith gwasanaeth cyhoeddus – sydd wedi’i ddiweddaru a’i foderneiddio – ar draws eu gwasanaethau.
- Paratoi at gyfer ein dyletswyddau newydd mewn perthynas â llwyfannau sy’n cael eu hysgogi gan lais, gan gynnwys pennu’r egwyddorion a’r dulliau y byddwn yn eu defnyddio wrth wneud argymhelliad i’r Ysgrifennydd Gwladol ynghylch pa lwyfannau sy’n cael eu cynnwys.
- Parhau i ddatblygu’r prosesau ar gyfer dynodi’r gwasanaethau a fydd o fewn cwmpas y rheolau newydd, er mwyn sicrhau bod gwasanaethau darlledu gwasanaeth cyhoeddus ar-lein ar gael ar lwyfannau teledu poblogaidd ac yn gallu cael eu canfod yn hawdd gan gynulleidfaoedd.
Rydym yn parhau i weithio tuag ar yr amserlenni a nodir yn ein map a byddwn yn parhau i ddibynnu ar ragor o orchmynion cychwyn ac is-ddeddfwriaethau yn dod i rym.
Cyn bo hir byddwn yn lansio ‘Hyb Gweithredu’r Ddeddf Cyfryngau’ ar wefan Ofcom, a fydd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i randdeiliaid wrth i ni fwrw ymlaen â’n gwaith. Bydd yr hyb hwn hefyd yn gartref i’r ymgynghoriadau a'r cyhoeddiadau eraill y byddwn yn eu cyhoeddi yn ystod y misoedd nesaf.