Teenagers watching a film

Sgrin Fach: Trafodaeth Fawr – cyhoeddi enwau enillwyr y gystadleuaeth

Cyhoeddwyd: 6 Tachwedd 2020

Yn gynharach eleni, fe wnaethom ofyn i bobl ifanc rhwng 16 a 18 oed roi eu barn i ni am ddyfodol darlledu gwasanaeth cyhoeddus. Cawson nhw eu gwahodd i gyflwyno cynigion ysgrifenedig neu ar fideo ar y pwnc canlynol:

Beth sy’n rhaid i ddarlledwyr traddodiadol a gwasanaethau ffrydio ei wneud i sicrhau eu bod yn apelio at gynulleidfaoedd yfory?

Roeddem yn chwilio am syniadau gwreiddiol ac arloesol a fyddai’n cael eu cyflwyno’n greadigol. Roedd ein panel o dri o feirniaid, a oedd yn cynrychioli Ofcom, y Financial Times a Career Ready, elusen genedlaethol sy’n ceisio cysylltu pobl ifanc â'r byd gwaith, wedi dewis yr enillwyr canlynol:

  • Drishya Rai am y categori fideo, a
  • Janelle Oje am y categori cofnod blog.

Cyhoeddwyd cynnig buddugol Janelle yn y Financial Times:

Erthygl yn y Financial Times yn dangos enillydd ein cystadleuaeth Sgrîn Fach: Trafodaeth Fawr Janelle Oje

Roedd y beirniaid wrth eu bodd eu bod wedi cael cynifer o gofnodion blog a fideos llawn dychymyg ac a oedd yn procio’r meddwl.

I weld manylion yr enillwyr, ac i weld y cynigion buddugol yn llawn, ewch i wefan Sgrin Fach: Trafodaeth Fawr.

Yn ôl i'r brig