Mae fideos o’r sesiynau o rith-gynhadledd Ofcom Sgrîn Fach: Trafodaeth Fawr nawr ar gael i’w gwylio ar-alw.
Yn ein rhith-gynhadledd, cafwyd trafodaeth agored ac eang am ddyfodol darlledu gwasanaeth cyhoeddus yng nghyd-destun newidiol y cyfryngau. Rhoddwyd sylw i amrywiol themâu, gan gynnwys: pa rôl ddylai darlledu gwasanaeth cyhoeddus ei chwarae yn y dyfodol; sut orau i ddiwallu anghenion cynulleidfaoedd; a sut gallai darlledu gwasanaeth cyhoeddus gael ei ariannu a’i gefnogi yn y dyfodol.
Cafwyd anerchiad agoriadol gan Brif Weithredwr Ofcom, y Fonesig Melanie Dawes, a daeth y gynhadledd i ben gydag Adam Boulton o Sky yn cynnal trafodaeth fyw rhwng arweinwyr pedwar darparwr gwasanaeth cyhoeddus mwyaf y DU – Alex Mahon (Channel 4), Y Fonesig Carolyn McCall (ITV), Maria Kyriacou (Channel 5) a Tim Davie, Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC.
Hefyd, roedd Krishnan Guru-Murthy o Channel 4 wedi cyfweld rhai o’r ffigurau mwyaf dylanwadol ym maes darlledu yn y DU, sef June Sarpong, Cyfarwyddwr Amrywiaeth Creadigol y BBC; John Whittingdale, Gweinidog Gwladol dros y Cyfryngau a Data; Simon Pitts, Prif Weithredwr STV; Krishnendu Majumdar, Cadeirydd BAFTA; a Mark Thompson, cyn-Gyfarwyddwr Cyffredinol y BBC.
Hefyd, cafwyd cyfres o drafodaethau panel diddorol:
- Gwnaeth Nina Hossain o ITV News archwilio rôl newidiol darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn niwydiannau creadigol y DU gyda Richard Williams (Northern Ireland Screen); Sara Geater (All 3 Media), a Pat Younge (Cardiff Productions)
- Tina Daheley yn holi Anna Mallett (ITN), Zai Bennett (Sky), a Shaminder Nahal (Channel 4) am ddisgwyliadau cynulleidfaoedd a gwerth darlledu gwasanaeth cyhoeddus; a
- Cathy Newman yn trafod modelau cyllido darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn y dyfodol gyda Mathew Horsman (Mediatique), Rasmus Nielsen (The Reuters Institute) a’r Fonesig Frances Cairncrosson.
Cyfrannwch at y sgwrs drwy rannu eich safbwyntiau ar unrhyw un o’r pwyntiau a godwyd yn ystod y trafodaethau hyn, drwy ddefnyddio’r hashnod #SFTF2020 yn Gymraeg neu #SSBD2020 yn Saesneg.