Heddiw rydym yn dechrau ein cynhadledd rithiol Sgrîn Fach: Trafodaeth Fawr, gan drafod rôl darlledu gwasanaeth cyhoeddus mewn tirwedd cyfryngau sy’n newid.
Dros dri diwrnod byddwn yn dod ag uwch arweinwyr, arbenigwyr a llunwyr polisïau ynghyd o fyd darlledu, gan gynnwys penaethiaid y BBC, ITV, Channel 4 a Channel 5.
Yn ystod y gyfres o gyfweliadau a thrafodaethau panel sydd wedi cael eu recordio ymlaen llaw, a dadl fyw, byddwn yn edrych ar amrywiaeth o themâu, gan gynnwys: pa rôl dylai darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus ei chwarae yn y dyfodol; beth yw’r ffordd orau o ddiwallu anghenion cynulleidfaoedd; a sut gellid ariannu a chefnogi darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus wrth symud ymlaen. Bydd y sesiynau’n cael eu cynnal gan y darlledwyr Adam Boulton, Cathy Newman, Krishnan Guru-Murthy, Nina Hossein a Tina Daheley.
Mae’r digwyddiad yn agor gydag anerchiad gan Brif Weithredwr Ofcom y Fonesig Melanie Dawes. Mae hi’n trafod sut mae cynulleidfaoedd wedi cael eu ‘hatomeiddio’, gyda phobl yn defnyddio ystod ehangach o gynnwys byrrach wedi’i deilwra ar nifer fwy o ddyfeisiau – a heriau hyn i’n darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus.
Bydd yr holl drafodaethau a chyfweliadau o'r digwyddiad hwn y mae’n rhaid cofrestru ar ei gyfer ar gael i’w gwylio o 12 Hydref ymlaen ar ein gwefan Sgrîn Fach, Trafodaeth Fawr. Gallwch ddilyn yr hashnodau #SSBD2020 a #SFTF2020 i gadw llygad ar y drafodaeth.
Diwrnod un – 5 Hydref
Hefyd ar y diwrnod:
Sgwrs gyda June Sarpong
Bydd Cyfarwyddwr Amrywiaeth Creadigol y BBC, June Sarpong, yn siarad â Krishnan Guru-Murthy o Channel 4 News am amrywiaeth yn y BBC a chreu cynnwys gwasanaeth cyhoeddus sy’n cysylltu â chynulleidfaoedd.
Trafodaeth panel: ‘Gwneud i Straeon Gyfrif: rôl darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yn y diwydiannau creadigol’
Bydd Nina Hossain o ITV News yn siarad â Sara Geater (All 3 Media), Pat Younge (Cardiff Productions) a Richard Williams (Northern Ireland Screen) am newidiadau i rôl darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn niwydiannau creadigol y DU.
Trafodaeth gyda John Whittingdale AS
Bydd y Gweinidog Gwladol dros y Cyfryngau a Data, John Whittingdale AS, yn siarad â Krishnan Guru-Murthy am ei flaenoriaethau ar gyfer darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yn y dyfodol.
Diwrnod dau – 6 Hydref
Ar yr ail ddiwrnod byddwn yn clywed gan y canlynol:
Sgwrs gyda Krishnendu Majumdar
Yn gynharach eleni, y cynhyrchydd Krishnendu Majumdar, sydd wedi ennill Emmy, oedd cadeirydd cyntaf BAFTA heb fod â chroen gwyn. Bydd yn siarad â Krishnan Guru-Murthy am y rhan gall darlledu gwasanaeth cyhoeddus ei chwarae fel rhan o ddiwydiant creadigol cynhwysol.
Trafodaeth panel: ‘Mae popeth yn ymwneud â'r gynulleidfa'
Dan gadeiryddiaeth Tina Daheley o’r BBC, bydd y sesiwn hon yn cynnwys Zai Bennett (Sky), Anna Mallett (ITN) a Shaminder Nahal (Channel 4) a fydd yn trafod beth sy’n gwneud i wasanaeth cyhoeddus sefyll allan mewn tirwedd cyfryngau brysur, sut gall darlledwyr addasu ac arloesi, a pha gynnwys fydd yn hanfodol i gynulleidfaoedd.
Sgwrs gyda Mark Thompson
Cyn-brif Weithredwr Channer 4, Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC a tan y mis yma Prif Swyddog Gweithredol The New York Times Company, mae Mark Thompson wedi arwain newid ar draws y sector cyfryngau. Bydd yn siarad â Krishnan Guru-Murthy am yr heriau a'r cyfloedd sy’n wynebu darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn y DU.
Trafodaeth panel: Diwedd y gân yw’r geiniog: Cyllido darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn y dyfodol’
Yn y sesiwn hon, dan gadeiryddiaeth Cathy Newman o Channel 4 News, byddwn yn clywed gan Mathew Horsman (Mediatique), Rasmus Nielsen (The Reuters Institute) a'r Fonesig Frances Cairncross am yr heriau cyllido sy’n wynebu darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus a’r offer gwahanol y gellid eu defnyddio i’w goresgyn.
Sgwrs gyda Simon Pitts
Mae Simon Pitts wedi bod yn Brif Swyddog Gweithredol STV ers mis Ionawr 2018. Bydd yn siarad â Krishnan Guru-Murthy am arwain darlledwr gwasanaeth cyhoeddus masnachol yn ystod cyfnod o newid digynsail.
Diwrnod tri – 7 Hydref
Ar y trydydd diwrnod bydd trafodaeth panel fyw rhwng arweinwyr prif ddarlledwyr gwasanaethau cyhoeddus y DU:
Darlledu gwasanaeth cyhoeddus – Yr olygfa o’r brig
Bydd y drafodaeth hon yn cael ei ffrydio’n fyw a bydd Alex Mahon (Channel 4), y Fonesig Carolyn McCall (ITV), Maria Kyriacou (Channel 5) a Chyfarwyddwr Cyffredinol y BBC Tim Davie yn trafod yr heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus, wrth iddyn nhw wasanaethu cynulleidfaoedd mewn cyfnod o newid.
Yn y sesiwn hon bydd Adam Boulton o Sky News yn holi eu barn am ddyfodol darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn y DU, y rhan byddan nhw’n gallu ei chwarae a beth sy’n gorfod digwydd i sicrhau bod darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn cyflawni ar gyfer cynulleidfaoedd dros y degawd nesaf.
Y set ar gyfer digwyddiad rhithwir: Sgrin Fach: Trafodaeth Fawr 2020