Datganiad: Adolygiad o’r Canllawiau ar gyfer Cynyrchiadau a Rhaglenni Rhanbarthol

Cyhoeddwyd: 19 Rhagfyr 2018
Ymgynghori yn cau: 27 Chwefror 2019
Statws: Ar gau (cyhoeddwyd y datganiad)

Datganiad a gyhoeddwyd 19 Mehefin 2019

Mae'r datganiad hwn yn nodi ein penderfyniadau terfynol ynghylch y newidiadau rydym yn eu gwneud i'n Canllawiau ar gyfer Cynyrchiadau Rhanbarthol a Rhaglenni Rhanbarthol, a'r prosesau cydymffurfio ac adrodd cysylltiedig.

Mae cynhyrchu rhaglenni teledu y tu allan i Lundain yn rhan hollbwysig o’r darlledu yn y DU. Mae’n helpu i wasgaru ac i ysgogi buddsoddiadau a chyfleoedd swyddi yn y sector ar draws y DU. Mae hefyd o fudd i wylwyr drwy sicrhau amrywiaeth eang o raglenni a safbwyntiau golygyddol.

Er mwyn helpu i hybu hyn, mae Ofcom yn gosod cwotâu ar ddarlledwyr gwasanaethau cyhoeddus  i sicrhau bod cyfran addas o'u rhaglenni rhwydwaith yn cael eu gwneud y tu allan i'r M25. Rydym ni’n cyhoeddi canllawiau i helpu darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus i benderfynu pa raglenni sy’n cyfri fel rhai a wneir y tu allan i Lundain

Yn 2017, fe wnaethom lansio adolygiad o’n Canllawiau ar gyfer Cynyrchiadau Rhanbarthol a Rhaglenni Rhanbarthol i sicrhau eu bod yn dal yn effeithiol yn y diwydiant creu rhaglenni sydd ohoni heddiw. Yn dilyn canfyddiadau cam cyntaf yr adolygiad hwn, aethom ati i ymgynghori ynghylch newidiadau arfaethedig i'r Canllawiau ym mis Rhagfyr 2018. Mae'r datganiad hwn yn ystyried amrywiaeth eang o ymatebion.

Bydd ein pecyn o newidiadau’n golygu bod mwy o fanylder ac atebolrwydd yn y drefn ar gyfer cynyrchiadau rhanbarthol. Bydd hynny’n golygu ei bod yn cyflawni bwriad y polisi’n well sef cefnogi ac ysgogi’r economïau creadigol yng ngwledydd ac yn rhanbarthau'r DU.

Ymatebion

Yn ôl i'r brig