Adolygiad o Gyfryngau Gwasanaeth Cyhoeddus (2019-2023)

Cyhoeddwyd: 17 Rhagfyr 2024

Mae darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yn cyflawni’n dda ar gyfer cynulleidfaoedd y DU, mewn cyfnod heriol.

Ers ein hadolygiad diwethaf yn 2020, Sgrin Fach: Trafodaeth Fawr, mae’r diwydiant darlledu wedi bod yn dyst ac wedi adrodd ar ansefydlogrwydd cenedlaethol a rhyngwladol digynsail.

Rydyn ni wedi cael pandemig byd-eang a drodd ein bywydau wyneb i waered, rhyfeloedd yn yr Wcrain a'r Dwyrain Canol ac anweddolrwydd gwleidyddol ac economaidd yn y DU ac o gwmpas y byd. Nid yw rôl ein Darlledwyr Gwasanaeth Cyhoeddus (“PSBs”) erioed wedi bod yn bwysicach ac maent yn ganolog i’r gwaith o ddarparu Cyfryngau Gwasanaeth Cyhoeddus (“PSM”): gan ddarparu newyddion sy’n gywir ac yn briodol ddiduedd y gellir ymddiried ynddo, ac ystod eang o cynnwys o ansawdd uchel sy’n adlewyrchu’r DU gyfan a digwyddiadau sy’n dod â’r wlad ynghyd. Mae cynnwys PSM ar gael ar draws ffynonellau llinellol, darlledu fideo ar-alw (“BVoD”) ac ar-lein.

Mae gan y Darlledwyr Gwasanaeth Cyhoeddus – y BBC, ITV, STV, Channel 4, Channel 5 ac S4C – ddyletswydd ar y cyd i gyflawni dibenion ac amcanion darlledu gwasanaeth cyhoeddus. O leiaf bob pum mlynedd rydym yn adolygu i ba raddau y mae’r darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus, gyda’i gilydd, wedi cyflawni eu dibenion, gyda golwg ar gynnal a chryfhau darlledu teledu gwasanaeth cyhoeddus.

Wnaethom gyhoeddi Cylch Gorchwyl yn amlinellu cwmpas ac amseriad ein hadolygiad. Y cyhoeddiad heddiw, ynghyd â’r adroddiad data rhyngweithiol sy’n cyd-fynd ag ef, yw cam cyntaf hynny.

Mae’r Darlledwyr Gwasanaeth Cyhoeddus gyda’i gilydd wedi cyflawni eu dibenion a’u hamcanion ar draws y cyfnod adolygu hwn, fodd bynnag, mae cyrraedd pawb yn ddiamau yn fwy cymhleth nag yr oedd o’r blaen. Mae tarfu parhaus ar dechnoleg a chystadleuaeth ffyrnig i gynulleidfaoedd gan ffrydwyr byd-eang yn dwysau'r pwysau cynyddol ar gynaliadwyedd PSM yn y dyfodol. Mae ein hadolygiad yn nodi'r cyfleoedd a'r heriau i PSM yn y dyfodol.

Yn Haf 2025 byddwn yn cyhoeddi adroddiad yn edrych ar sut y gellir cynnal a chryfhau’r ddarpariaeth o gynnwys PSM am y degawd nesaf. Byddwn yn parhau i archwilio'r materion hyn gyda rhanddeiliaid ac yn croesawu eu mewnbwn i gam nesaf ein gwaith. Cysylltwch â PSMreview2025@ofcom.org.uk os hoffech chi gymryd rhan yn y sgwrs.

Adolygiad o Gyfryngau Gwasanaeth Cyhoeddus 2019-2023

Am y profiad gorau, ehangwch i'r sgrîn lawn (cliciwch y botwm yn y gornel isaf ar y dde).

I gael y wybodaeth hon mewn fformat arall, ffoniwch 020 7981 3040 neu ysgrifennwch at y Tîm Digidol.

Yn ôl i'r brig