Mae darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yn cyflawni’n dda ar gyfer cynulleidfaoedd y DU, mewn cyfnod heriol.
Fel rhan o’n rôl i gefnogi a chryfhau ansawdd darlledu gwasanaeth cyhoeddus (PSB), mae gan Ofcom ddyletswydd i adolygu’n rheolaidd sut mae gwasanaethau teledu a ddarperir gan y BBC, ITV, STV, Channel 4, Channel 5 ac S4C wedi cyflawni yn erbyn y dibenion a’r amcanion darlledu gwasanaeth cyhoeddus a osodwyd gan y Senedd.
Mae hyn yn cynnwys, ymhlith pethau eraill, rwymedigaeth i ddarparu ystod eang o genres a rhaglenni o ansawdd uchel sy’n diwallu anghenion a diddordebau llawer o gynulleidfaoedd gwahanol.
Mae ein hadolygiad hefyd yn ystyried i ba raddau mae sianeli portffolio masnachol, gwasanaethau radio, gwasanaethau fideo ar-alw, a gwasanaethau ar-lein eraill darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yn cyfrannu at yr amcanion hyn.
Mae ein hadolygiad wedi canfod bod y darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus ar y cyd wedi cyflawni eu dibenion a’u hamcanion rhwng 2019-23. Dyma’r canfyddiadau yn gryno:
- Mae cynulleidfaoedd yn canmol y darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus am ddarparu amrywiaeth eang o raglenni yn y DU sy’n apelio at gynulleidfaoedd gwahanol, newyddion am y DU sy’n ddibynadwy a chywir, a digwyddiadau sy’n dod â’r genedl at ei gilydd;
- Mae’r darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus wedi cynnal lefelau cyffredinol o allbwn sy’n cael ei ddangos am y tro cyntaf, ond mae wedi bod yn fwy o her i gynnal buddsoddiad, gyda gostyngiad mewn termau real yn y gwariant ar raglenni sy’n cael eu dangos am y tro cyntaf. Mae’r gwariant comisiynu cyffredinol wedi aros yn weddol sefydlog mewn termau real oherwydd cyfraniadau trydydd parti;
- Mae’r darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus wedi darparu rhaglenni mewn ystod eang o genres. Fodd bynnag, bu gostyngiad bychan yn yr oriau o raglenni o’r DU sy’n cael eu dangos am y tro cyntaf mewn genres sy’n cynnwys rhaglenni ffeithiol, celfyddydol a cherddoriaeth glasurol arbenigol, a rhaglenni plant; ac
- Er mwyn cyrraedd a chysylltu â phob cynulleidfa, mae’r darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus wedi parhau i ddatblygu eu gwasanaethau ar-alw. Mae hyn wedi cynnwys cynyddu’n sylweddol faint o gynnwys a gynhyrchir yn y DU ar eu chwaraewyr.
Mae ein hadolygiad hefyd yn nodi’r heriau a’r cyfleoedd ar gyfer darparu cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus yn y dyfodol. Yn benodol:
- Mae’r darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yn wynebu her sylweddol o ran cysylltu â chynulleidfaoedd. Mae eu strategaethau digidol-yn-gyntaf wedi cael rhywfaint o lwyddiant, ond nid yw’r amser sy’n cael ei dreulio ar eu chwaraewyr ar-alw wedi bod yn ddigon i wrthbwyso’r gostyngiad mewn gwylio ar eu sianeli llinol traddodiadol. Ar yr un pryd, mae holl unigolion y DU bellach yn treulio 32% o’u munudau gwylio dyddiol yn y cartref ar wasanaethau ffrydio a llwyfannau rhannu fideos – a rhagwelir y bydd hyn yn cynyddu. Mae plant rhwng 4 a 15 oed yn fwy tebygol o wylio YouTube, Netflix a TikTok na’r BBC neu unrhyw wasanaeth darlledu gwasanaeth cyhoeddus arall. Er mwyn cysylltu’n well â chenedlaethau iau o wylwyr, mae’r darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yn rhoi eu cynnwys ar lwyfannau trydydd parti, ond maen nhw’n dibynnu ar y llwyfan a’i system argymell ar gyfer curadu ac amlygrwydd y cynnwys hwn.
- Mae’r darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yn wynebu heriau ariannol sylweddol. Mae pwysau ar gostau refeniw ac mae’r darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yn ei chael hi’n anodd disodli eu ffrydiau incwm traddodiadol â ffynonellau refeniw newydd. Mae angen iddynt hefyd ddarparu amrywiaeth eang o gynnwys ar draws nifer o wasanaethau i fodloni cynulleidfaoedd lle bynnag y maent, yn ogystal â chystadlu fwyfwy â gwasanaethau ffrydio a llwyfannau rhannu fideos am refeniw hysbysebu;
- Mae cynnwys newyddion y darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yn ei chael hi’n fwy anodd torri drwodd yn yr amgylchedd ar-lein gorlawn, lle mae cynulleidfaoedd yn fwy tebygol o dderbyn camwybodaeth a gwybodaeth gamarweiniol. Mae ffynonellau ar-lein a chyfryngwyr fel cyfryngau cymdeithasol, peiriannau chwilio a gwasanaethau cyd-gasglu newyddion bellach yn cael eu defnyddio’n eang i gael newyddion yn y DU, ac mae ganddynt ddylanwad sylweddol dros y newyddion mae defnyddwyr yn ei gael. Mae’n bwysicach nag erioed o’r blaen fod cynulleidfaoedd yn gallu dod o hyd yn hawdd i newyddion cywir o ansawdd uchel gan ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus sy’n glynu wrth safonau newyddiadurol uchel.
Y camau nesaf
Yn ystod haf 2025, byddwn yn cyhoeddi ein canfyddiadau ar sut i gynnal a chryfhau cynnwys cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus dros y degawd nesaf. Gallai hyn gynnwys meysydd lle rydym yn bwriadu ymgynghori ar newidiadau i rai o’n rheolau, yn ogystal â nodi lle gallai fod angen rhagor o ymyrraeth gan y Llywodraeth. Byddwn yn parhau i edrych ar y materion hyn gyda rhanddeiliaid ac yn croesawu eu mewnbwn i gam nesaf ein gwaith.