Datganiad: Cais am newid amodau trwydded mewn perthynas â darparu allbwn newyddion ar Channel 5

Cyhoeddwyd: 30 Mehefin 2021
Ymgynghori yn cau: 30 Gorffennaf 2021
Statws: Ar gau (cyhoeddwyd y datganiad)

Datganiad a gyhoeddwyd 24 Medi 2021

Yn dilyn ymgynghoriad, mae Ofcom wedi cymeradwyo cais gan Channel 5 i newid amodau ei thrwydded mewn perthynas â'i darpariaeth newyddion. Rydym wedi ystyried yr ystod o safbwyntiau a gyflwynwyd gan randdeiliaid a daethom i'r casgliad y bydd y newidiadau'n parhau i fodloni'r amcanion ar gyfer gofynion rhaglennu newyddion a materion cyfoes a nodir yn Neddf Cyfathrebiadau 2003.

Gofynnodd Channel 5 am y newid hwn er mwyn cyflwyno darllediad newyddion un awr o hyd newydd o 5pm. Ni fydd y newid i amod y drwydded yn effeithio ar gyfanswm y newyddion y mae'n ofynnol i Channel 5 ei ddarlledu bob blwyddyn.

Ochr yn ochr â'r Datganiad hwn, rydym wedi cyflwyno hysbysiad o'r newid trwydded i Channel 5 Broadcasting Ltd, deiliad trwydded Channel 5, ac wedi cyhoeddi fersiwn wedi'i diweddaru o drwydded Channel 5 ar ein gwefan. Daw'r newidiadau i rym o 24 Medi 2021. Mae'r datganiad ar gael yn Saesneg.

How to respond

Yn ôl i'r brig