Ofcom yn cynghori’r Llywodraeth ar ddyfodol dosbarthu teledu.
Heddiw, mae Ofcom wedi rhoi adroddiad i’r Llywodraeth ar ddyfodol dosbarthu teledu. Mae hyn mewn ymateb i gais gan yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) yn 2022 i Ofcom gynnal adolygiad cynnar o newidiadau yn y farchnad a allai effeithio ar y ffordd mae cynnwys yn cyrraedd cynulleidfaoedd ar Deledu Daearol Digidol (DTT).
Gan ystyried yr ymatebion i’n cais cynharach am dystiolaeth, ymchwil i ymddygiad cynulleidfaoedd a dadansoddi deinameg masnachol, mae ein hadroddiad yn amlinellu’r canlynol:
- mae pobl yn treulio llai a llai o amser yn gwylio teledu sy’n cael ei ddarlledu dros deledu daearol digidol;
- gallai newid arferion cynulleidfaoedd a chostau cynyddol orfodi pwynt tyngedfennol yn y degawd nesaf lle na ellir parhau i fuddsoddi mewn teledu daearol digidol – gan danseilio’r platfform i’r rheini sy’n dibynnu arno;
- tri dull eang a allai gynnal argaeledd cyffredinol gwasanaethau teledu.
Y farchnad nawr
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gwelwyd newid radical yn arferion gwylio pobl. Mae teledu’n cael ei wylio fwyfwy ar-lein, sy’n cael ei sbarduno gan y nifer sy’n defnyddio band eang, amrywiaeth o ddyfeisiau gwahanol, platfformau newydd a ffyrdd o ddefnyddio cynnwys. Treuliodd y person cyfartalog 25% yn llai o funudau bob dydd yn gwylio teledu sy’n cael ei ddarlledu yn 2023 nag yn 2018.
Disgwylir i’r duedd barhau, gyda gwylio ar sianeli teledu rheolaidd drwy Deledu Daearol Digidol a rhagolygon lloeren yn gostwng o 67% o gyfanswm y gwylio teledu ffurf hir yn 2022, i 35% erbyn 2034 a 27% erbyn 2040. Bydd llawer o’r gwylio sy’n weddill yn cael ei wneud gan gartrefi sy’n dibynnu ar deledu daearol digidol yn unig, sy’n fwy tebygol o gynnwys pobl hŷn, pobl llai cefnog neu bobl sydd ag anabledd.
Y diwydiant yn rhagweld pwynt tyngedfennol ar gyfer teledu daearol digidol
Mae darlledwyr yn talu i ddosbarthu eu cynnwys ar-lein a drwy seilweithiau traddodiadol fel teledu daearol digidol gyda chostau’n codi. Y lleiaf o amser y mae pobl yn ei dreulio ar deledu daearol digidol, y lleiaf cost-effeithiol ydyw i bob gwyliwr.
Am y tro cyntaf, mae llawer o ddarlledwyr wedi dweud wrthym eu bod yn rhagweld trobwynt lle nad yw bellach yn economaidd hyfyw i gefnogi teledu daearol digidol yn ei ffurf bresennol.
Hyd yma, mae’r symud sylweddol ymysg cynulleidfaoedd ar-lein wedi bod yn naturiol. Pe bai’r newid hwn yn parhau i gael ei ‘reoli’, mae perygl gwirioneddol y gallai’r platfform teledu daearol digidol fod heb gefnogaeth. Os bydd y sefydliadau hynny sy'n cynnal yr ecosystem teledu daearol digidol yn gweld achos gwannach dros fuddsoddiad newydd, maent yn debygol o geisio torri costau. Gallai hyn olygu, er enghraifft, tynnu manylder uwch oddi ar Freeview, neu leihau nifer y sianeli y gall y platfform eu darlledu - ond heb gefnogaeth i'r gwylwyr hynny sy'n dibynnu ar deledu daearol digidol i gael mynediad i'r gwasanaethau hynny dros y rhyngrwyd.
Dulliau o ddarparu teledu cyffredinol yn y dyfodol
Er ein bod wedi canfod bod cefnogaeth eang ar draws y sector i wasanaethau teledu barhau i fod ar gael i bawb, gyda chynnig cryf gan ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus, nid oes barn gyffredin ynghylch sut i gyflawni hyn.
Mae angen gweledigaeth glir a chynllunio gofalus ar gyfer yr hirdymor. Rydym wedi nodi tri dull eang. Mae gan bob model heriau penodol ac mae’n cynnwys cyfaddawdu o ran polisi cyhoeddus neu fasnachol.
1. Buddsoddi mewn gwasanaeth teledu daearol digidol mwy effeithlon – gallai gwasanaeth teledu daearol digidol mwy effeithlon, ond llawn, fod yn opsiwn pe gellid cynnal yr un raddfa o gynulleidfa a buddsoddiad dros y 2030au. Gall yr opsiwn hwn gynnwys cefnogi cynulleidfaoedd gydag offer newydd ar gyfer signalau darlledu mwy effeithlon.
2. Lleihau teledu daearol digidol i fod yn wasanaeth craidd – gallai’r platfform teledu daearol digidol gadw nifer sylfaenol o sianeli craidd – er enghraifft y prif sianeli gwasanaeth cyhoeddus a newyddion. Byddai hyn yn golygu bod gwylwyr yn defnyddio’r rhyngrwyd yn bennaf i gael gafael ar wasanaethau teledu, ar yr un pryd â chynnal seilwaith a allai ddarparu radio neu deledu, gan gynnwys os bydd toriad yn y rhyngrwyd. Gellid ei wneud fel newid dros dro i ddiffodd y system yn llwyr, neu aros am gyfnod amhenodol fel darparwr pan fydd popeth arall wedi methu.
3. Symud tuag at ddiffodd teledu daearol digidol yn yr hirdymor – ymgyrch wedi’i chynllunio i sicrhau bod pobl yn hyderus ac wedi’u cysylltu â gwasanaethau rhyngrwyd, er mwyn gallu diffodd teledu daearol digidol. Byddai’n rhaid cynllunio’n ofalus i sicrhau bod y cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus yn gyffredinol, gyda chefnogaeth i bobl er mwyn sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl. Gallai hyn arwain at fanteision ehangach o ran cynhwysiad digidol mewn rhannau eraill o gymdeithas.
Rhaid i ystyried anghenion pob cynulleidfa fod wrth galon unrhyw ddull gweithredu a ddewisir, ac nid yw ein hadroddiad heddiw yn dangos ffafriaeth tuag at unrhyw opsiwn penodol. Ym mhob achos, byddai angen i’r diwydiannau darlledu a band eang weithio gyda’r Llywodraeth i osod gweledigaeth gyffredin ar gyfer sut i ddarparu gwasanaethau teledu cyffredinol yn y dyfodol, ac yna cynllunio manwl. Byddai’n cymryd 8-10 mlynedd i drawsnewid yn gynhwysol, felly mae’n galonogol bod y Llywodraeth yn ystyried y materion hyn nawr er mwyn i’r diwydiant allu bod yn barod ar gyfer unrhyw newidiadau erbyn dechrau’r 2030au.
Adroddiad
- Dyfodol Dosbarthu Teledu (PDF, 1.8 MB)
- Future of TV Distribution report to Government (PDF, 1.4 MB)
- MTM - Broadcast distribution costs report (PDF, 287.2 KB)
- Projects by IF- TV interfaces and vulnerable users - Summary report (PDF, 238.8 KB)
- Projects by IF - TV interfaces and vulnerable users - Research annex (PDF, 2.5 MB)