Bydd y trwyddedau Channel 3 a'r drwydded Channel 5 yn dod i ben ar 31 Rhagfyr 2024. Deiliaid presennol y trwyddedau Channel 3 yw ITV ac STV. Paramount Group sy’n dal y drwydded Channel 5. Mae pob un o’r deiliaid trwydded presennol wedi gwneud cais am adnewyddu eu trwyddedau ac rydym wedi penderfynu eu hadnewyddu am ddeng mlynedd arall.
Cefndir
Mae statud yn nodi bod yn rhaid i Ofcom bennu’r telerau ariannol ar gyfer adnewyddu trwyddedau, a bod yn rhaid iddynt gynnwys dau fath gwahanol o daliad. Mae'r cyntaf yn ganran o refeniw cymwys y trwyddedai (“PQR”) a'r ail yn gynnig arian parod blynyddol sy'n codi'n unol â chwyddiant bob blwyddyn.
Rhaid i ni bennu’r telerau ariannol drwy gyfeirio at y swm, yn ein barn ni, y byddai deiliad presennol y drwydded wedi'i gynnig i ennill y drwydded/trwyddedau mewn tendr cystadleuol. Mae hyn yn golygu ei bod yn ofynnol i ni efelychu effeithiau arwerthiant damcaniaethol o'r trwyddedau. Gweler ein methodoleg am fwy o fanylion ein dull o osod y telerau ariannol.
Fel y nodir yn y fethodoleg, mewn egwyddor, y swm y byddai deiliad presennol y drwydded yn ei gynnig mewn arwerthiant cystadleuol fyddai'r lleiafswm sydd ei angen i guro'r cynigydd ail uchaf (ymgeisydd newydd). Mae hyn yn golygu na fyddai lefel y cynnig o reidrwydd yn cynrychioli'r uchafswm y byddai deiliad presennol y drwydded yn fodlon ei dalu.
Bu i ni ddweud y byddai gwerth pob trwydded i newydd-ddyfodiad damcaniaethol yn seiliedig ar y costau a’r buddion sy’n deillio'n uniongyrchol o ddal y drwydded, megis costau ychwanegol rhwymedigaethau rhaglennu darlledu gwasanaeth cyhoeddus a gwerth yr hawl i amlygrwydd ar EPG. Y gwerth hwn i newydd-ddyfodiad yw'r hyn a fyddai'n pennu'r swm y byddai deiliad presennol y drwydded yn ei gynnig i gadw'r drwydded mewn arwerthiant damcaniaethol.
Mae'r prisiad hefyd yn ystyried ansicrwydd yn y farchnad a allai effeithio ar y swm y byddai newydd-ddyfodiad yn fodlon ei gynnig. Yn ein methodoleg, bu i ni ddweud y gallai’r rhain gynnwys tueddiadau’r dyfodol mewn refeniw gwylio llinol a hysbysebion teledu ac unrhyw fanteision yn y dyfodol sy’n gysylltiedig â’r Bil Cyfryngau, yn enwedig amlygrwydd ar setiau teledu cysylltiedig, y mae ei natur ac amseriad yn ansicr ar hyn o bryd. Gweler y map tuag at weithredu'r Bil Cyfryngau, a gyhoeddwyd ar 26 Chwefror, am ragor o wybodaeth.
Pennu telerau ariannol
Rydym wedi pennu’r telerau ariannol ar gyfer pob trwydded Channel 3 a Channel 5, gan ystyried gwybodaeth a gyflwynwyd gan y trwyddedeion presennol yn cynrychioli eu barn ar ba brisiad y byddai cwmni newydd yn ei roi ar bob trwydded o dan ein methodoleg.
Ein casgliad yw na fyddai newydd-ddyfodiad damcaniaethol yn barod i wneud taliadau ariannol yn ogystal ag ysgwyddo costau sy’n gysylltiedig â rhaglennu darlledu gwasanaeth cyhoeddus a rhwymedigaethau trwydded eraill yn gyfnewid am y buddion sy’n gysylltiedig yn uniongyrchol â’r trwyddedau. Yn ein barn ni, o safbwynt newydd-ddyfodiaid damcaniaethol, ni fyddai unrhyw amcangyfrif rhesymol o werth buddion posibl amlygrwydd ar setiau teledu cysylltiedig yn newid y casgliad hwn.
O ganlyniad, rydym o’r farn y gallai’r deiliaid trwydded presennol gadw eu trwyddedau mewn arwerthiant damcaniaethol am gynnig arian parod enwol.
Ein penderfyniad
Rydym wedi penderfynu gosod y telerau ariannol ar gyfer pob trwydded Channel 3 a Channel 5 ar swm cynnig arian parod enwol o £1,000 y flwyddyn gyda PQR o 0%. Mae swm y cynnig arian parod yn codi'n unol â chwyddiant bob blwyddyn.
Derbyniwyd telerau ariannol ar gyfer trwyddedau Channel 3 a Channel 5 ym mis Mawrth 2024.